Penodi Llyr Morus yn gadeirydd newydd TAC

Llyr MorusFfynhonnell y llun, TAC
Disgrifiad o’r llun,

Llyr Morus yw rheolwr gyfarwyddwr cwmni Cynyrchiadau Mojo

  • Cyhoeddwyd

Mae Llyr Morus o gwmni Cynyrchiadau Mojo wedi cael ei benodi'n gadeirydd newydd corff Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC).

TAC sy'n cynrychioli'r tua 50 o gwmnïau yn y sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru.

Mr Morus yw rheolwr gyfarwyddwr Mojo, ac mae wedi bod ar gyngor TAC ers 2022.

Bydd yn olynu Dyfrig Davies o gwmni Telesgop, sydd wedi camu o'r neilltu ar ddiwedd ei dymor tair blynedd fel cadeirydd.

Fel cynhyrchydd, mae Mr Morus wedi gweithio'n ddiweddar ar raglenni fel Un Bore Mercher, Cyswllt, Fflam a Dal y Mellt.

Mae wedi gweithio yn y sector annibynnol yn ogystal â bod yn aelod o staff BBC Cymru a BBC Studios.

Bydd yn arwain ochr yn ochr â Sioned Haf Roberts, rheolwr cyffredinol TAC.

Dywedodd: “Edrychaf ymlaen at barhau â’r gwaith da a wnaed gan Dyfrig a’r tîm a chynrychioli ein haelodau yn ystod y cyfnod ansicr hwn i’r diwydiant er mwyn sicrhau dyfodol disglair i’r sector yng Nghymru a thu hwnt.”

Pynciau cysylltiedig