Swyddog S4C yn rhagweld diwedd gwylio teledu llinol
- Cyhoeddwyd
Gallai gwylio sianeli fel S4C ar ap yn unig fod yn norm erbyn canol y degawd nesaf wrth i gyfnod teledu llinol traddodiadol ddirwyn i ben, medd cyfarwyddwr strategaeth cynnwys y sianel.
Yn ôl Geraint Evans, maen nhw’n symud fwyfwy tuag at gynnwys ar gyfer platfformau digidol gyda’r newid hwnnw mewn golwg.
Mewn sgwrs ar faes yr Eisteddfod, fe gadarnhaodd penaethiaid y sianel fod unrhyw raglenni gyda Huw Edwards wedi cael eu tynnu oddi ar eu gwasanaethau bellach.
Doedd y cyn-ddarlledwr ddim yn gyflogedig gan y sianel, meddai Mr Evans, a doedd y datblygiadau heb effeithio ar unrhyw raglenni oedd ganddyn nhw ar y gweill.
'Rhaid symud gyda'r oes'
Wrth siarad ar stondin S4C, bu uwch swyddogion y sianel yn trafod y cynnydd blynyddol maen nhw’n ei weld yn y niferoedd sy’n gwylio ar-alw ac ar blatfformau digidol, yn hytrach na thrwy’r sianel deledu.
Er bod “tua 80% o bobl yn dal i ddod atom ni drwy deledu llinol”, meddai Mr Evans, "mae’n rhaid iddyn nhw ddilyn arferion newydd a chyhoeddi eu rhaglenni “ar y platfformau mae pobl yn eu defnyddio”.
Mae hynny bellach yn cynnwys, er enghraifft, cyhoeddi llawer o raglenni Hansh ar YouTube yn gyntaf, cyn eu dangos yn amserlen y sianel.
“Bydd y switch off i deledu llinol yn digwydd ar ryw bwynt,” meddai Mr Evans.
“Mae’n rhaid i ni symud gyda’r oes.”
Ychwanegodd bod “degawd cyn ein bod ni’n symud i’r cyfeiriad yna”, ond fod S4C eisoes yn gwneud gwaith ymchwil er mwyn manteisio’n fwy ar algorithmau platfformau digidol yn y blynyddoedd i ddod.
“Cyfres o apiau fydd gyda ni yn y pendraw, nid pedwar botwm fel oedd rhai ohonon ni’n arfer gwylio’r teledu ‘slawer dydd,” meddai.
Un arall o’r pynciau trafod oedd y cyn-ddarlledwr Huw Edwards, a blediodd yn euog yr wythnos ddiwethaf i gyhuddiadau o greu delweddau anweddus o blant.
Ers hynny mae llu o gyrff cyhoeddus wedi bod yn adolygu eu perthynas ag ef, gan gynnwys Yr Orsedd sydd wedi dechrau camau yr wythnos hon i’w ddiarddel.
Mae’r BBC hefyd wedi tynnu rhai rhaglenni oddi ar iPlayer, ac S4C wedi gwneud yr un peth.
“Mae’n stori ofnadwy o drist, a’n meddyliau ni yn gyntaf wrth gwrs yn mynd at y plant a’r rheiny sydd wedi dioddef,” meddai Sioned Wiliam, prif weithredwr dros dro S4C.
Ychwanegodd Mr Evans bod unrhyw gynnwys gydag Huw Edwards ynddo wedi ei dynnu oddi ar eu sianel YouTube a phlatfformau cymdeithasol eraill, er y byddan nhw’n parhau i fod yn yr archif.
“Dy’n ni ddim yn darlledu unrhyw beth arall sy’n ei gynnwys e,” meddai.
'Adeiladu pontydd gyda'r sector a staff'
Mae S4C eu hunain wedi bod dan y chwyddwydr yn ddiweddar hefyd, gyda’r cadeirydd dros dro Guto Bebb yn dweud ei fod yn “embaras” fod y sianel wedi gorfod gwario £500,000 ar ymchwiliad i honiadau o fwlio.
Dywedodd Ms Wiliam bod S4C wedi parhau i ddarparu “rhaglenni o’r safon uchaf... drwy’r cyfnod heriol”.
Nid nhw oedd yr unig gwmni i fod yn delio gyda sialensiau o’r fath, meddai, ond maen nhw nawr yn canolbwyntio ar “adeiladu pontydd gyda’r sector a staff” unwaith eto.
Ychwanegodd Mr Evans y byddai “neb wedi dewis gwario £500,000 o arian S4C ar hyn... oni bai bod rhaid”.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf