Cyfarfod 'blin' rhwng myfyrwyr a rheolwyr prifysgol
- Cyhoeddwyd
Cafodd cyfarfod “blin” rhwng myfyrwyr a swyddogion prifysgol ei gynnal am gynllun i symud cyrsiau o gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.
Ddydd Llun cadarnhaodd y brifysgol eu bod wedi dechrau trafod symud cyrsiau o Lambed i'w safle yng Nghaerfyrddin, gan ddweud "nad yw'r sefyllfa yn gynaliadwy".
Yn ystod y cyfarfod ddydd Mercher clywodd myfyrwyr am ddyfodol posib campws Llambed.
Mae'n cynnwys creu canolfan ar gyfer ymchwil preswyl, a fyddai’n gartref i gasgliadau ac archifau’r brifysgol.
Opsiwn arall fyddai ehangu cynadleddau preswyl neu ddarparu addysg breswyl ac ysgolion haf.
Mae'r brifysgol yn mynnu eu bod "wedi ymrwymo i gadw prif ystâd campws Llanbedr Pont Steffan a dod o hyd i ffyrdd eraill o gyflwyno gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag addysg a fyddai'n rhoi bywyd newydd i'r campws hwn a dyfodol mwy diogel".
'Cryfhau ac ehangu'
Cafodd y cyfarfod ei arwain gan Peter Mannion, Prif Swyddog Gweithredu’r brifysgol a Dr Jeremy Smith, Deon Cyfadran y Dyniaethau a’r Celfyddydau Perfformio.
Siaradodd yr Is-ganghellor Elwen Evans KC am tua 10 munud yn ôl myfyrwyr oedd yn bresennol.
Clywodd y myfyrwyr bod gostyngiad o 50% wedi bod mewn poblogaeth ar y campws dros y pum mlynedd ddiwethaf - rhywbeth sy'n cael effaith ar brofiad myfyriwr, meddai'r brifysgol.
Byddai symud yn "cryfhau ac yn ehangu" y profiad addysgu, meddan nhw.
Cyd-destun y cynnig yw bod y brifysgol wedi cael diffyg o £11m yn ei chyfrifon ariannol yn 2022-23.
Gyda chyfanswm o 197 o fyfyrwyr llawn amser yn Llambed, a 112 o staff craidd yno, nid yw hon yn sefyllfa gynaliadwy, yn ôl y brifysgol.
"Mae campws Llambed yn costio tua £2.7m y flwyddyn i ni ei gynnal ac amcangyfrifir bod costau gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni ers amser ynghyd â chostau cydymffurfio ar gyfer y campws yn £33.5m (sy'n amodol i chwyddiant)."
Wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd nifer o fyfyrwyr eu bod yn ystyried symud prifysgol os ydy'r cynlluniau i symud yr adran yn mynd yn eu blaenau.
Mae'r sefyllfa'n "rhwystredig" gan fod cymaint o gwestiynau heb eu hateb, yn ôl un myfyriwr a adawodd y cyfarfod yn gynnar.
Siaradodd Jamie Fitter yn y cyfarfod, gan ddatgan anfodlonrwydd gyda'r cynlluniau.
"Sut ar y ddaear allech chi ddweud fod hwn yn newid fydd yn ein helpu ni, pan rydych chi'n wynebu ystafell o fyfyrwyr sy'n anghytuno hefo chi?
"Nid ydyn ni'n cytuno, ac rydyn ni'n dweud na."
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd
Mae'r BBC hefyd yn deall bod Gwilym Dyfri Jones, Profost campws Llambed a Chaerfyrddin, un o arweinwyr amlycaf y brifysgol mewn blynyddoedd diweddar, yn gadael ei rôl ar ddiwedd yr wythnos.
Yn ôl y brifysgol, nid yw ei ymadawiad yn gysylltiedig â'r cynlluniau i symud rhai cyrsiau i Gaerfyrddin.
Clywodd myfyrwyr y byddai penderfyniad ynglŷn â'r symud yn gynnar y flwyddyn nesaf.
'Bywyd newydd i'r campws'
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: "Mae'r brifysgol wedi ymrwymo i gadw prif ystâd campws Llanbedr Pont Steffan a dod o hyd i ffyrdd eraill o gyflwyno gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag addysg a fyddai'n rhoi bywyd newydd i'r campws hwn a dyfodol mwy diogel.
"Rydym wedi dechrau ein deialog gyda'n staff ac undebau llafur cydnabyddedig i amlinellu'r weledigaeth a'r cyfeiriad arfaethedig.
"Byddwn yn cynnig cyfle i staff yr effeithir arnynt wneud cais am doriad gwirfoddol os ydynt am ystyried eu sefyllfa bersonol eu hunain."