Cyfreithwyr Letby yn herio tystiolaeth tyst arbenigol o Gymru

Lucy LetbyFfynhonnell y llun, Heddlu Sir Caer
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lucy Letby ei dedfrydu i weddill ei hoes yn y carchar am lofruddio saith o fabanod oedd yn ei gofal

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfreithwyr ar ran Lucy Letby yn bwriadu gofyn i'r Llys Apêl adolygu pob un o'i heuogfarnau gan fod tyst arbenigol o Gymru "wedi newid ei feddwl ynglŷn ag achos marwolaethau tri o'r babanod".

Cafwyd y cyn-nyrs i fabanod newydd anedig yn euog o lofruddio saith babi, a cheisio llofruddio saith arall tra'n gweithio yn Ysbyty Countess of Chester yn 2015 a 2016.

Cafodd Letby, oedd wedi pledio'n ddieuog i'r holl gyhuddiadau yn ei herbyn, ei dedfrydu i weddill ei hoes yn y carchar.

Dywedodd y bargyfreithiwr sy'n gweithredu ar ran Letby, Mark McDonald, ddydd Llun fod prif dyst yr erlyniad, Dr Dewi Evans, "wedi newid ei feddwl ynglŷn ag achos marwolaethau tri o'r babanod; Babi C, Babi I a Babi P."

Dydi'r BBC ddim wedi gallu cadarnhau fod sylwadau Mr McDonald yn gywir, a dyw Dr Evans ddim wedi ymateb i'r honiadau hyd yma.

Disgrifiad o’r llun,

Y cyn-ymgynghorydd paediatrig Dr Dewi Evans oedd prif dyst yr erlyniad

Ers ei chael yn euog ym mis Awst 2023, mae dau gais gan Letby i apelio yn erbyn ei heuogfarnau wedi cael eu gwrthod.

Ychwanegodd Mr McDonald mewn cynhadledd i'r wasg yn Llundain: "Roedd yr apeliadau a wnaed yn y gwrandawiadau blaenorol yn ymwneud yn bennaf a dilysrwydd y dystiolaeth gafodd ei roi gan brif dyst yr erlyniad, Dr Dewi Evans.

"Fe wnaeth yr amddiffyn ddadlau ddwywaith yn ystod yr achos y dylai tystiolaeth Dr Evans gael ei ddiystyried. Cafodd hyn ei wrthod gan y barnwr.

"Cafodd y ddadl honno ei gwneud yn ddiweddarach yn y Llys Apêl, ond cafodd ei wrthod eto."

"Dywedodd Dr Evans yn wrth y rheithgor yn yr achos fod Lucy Letby wedi chwistrellu aer i beipen trwyn a stumog, a bod hynny wedi arwain at farwolaethau tri o'r babanod.

"Cafodd yr honiad yma ei ailadrodd yn y Llys Apêl, a gallai hynny fod wedi eu camarwain."

'Ddim yn dyst dibynadwy'

Honnodd fod Dr Evans wedi "newid ei farn yn achos Babi C" ac wedi ysgrifennu adroddiad newydd a gafodd ei roi i'r heddlu fisoedd yn ôl.

Ond, er gwaethaf "sawl cais", dyw'r erlyniad heb gyflwyno'r dystiolaeth yma i'r amddiffyn.

"Fe fydd yr amddiffyn yn dadlau nad yw Dr Dewi Evans yn dyst dibynadwy, ac nad yw'r un o'r euogfarnau, o ganlyniad, yn gywir," meddai Mr McDonald.

Mae Mr McDonald hefyd yn dweud ei fod wedi derbyn adroddiadau gan ddau arbenigwr fyddai'n cyfrif fel tystiolaeth newydd yn achosion Babi C a Babi O - sy'n awgrymu nad oes tystiolaeth o unrhyw niwed bwriadol.

Mae Ymchwiliad Thirlwall - sy'n edrych at sut y bu modd i Letby gyflawni ei throseddau - wedi bod yn clywed tystiolaeth ers mis Medi.

Bydd y gwrandawiadau yn ailddechrau ym mis Ionawr, gyda disgwyl i'r darganfyddiadau gael eu cyhoeddi yn Hydref 2025.

Pynciau cysylltiedig