Prif dyst erlyniad Lucy Letby yn mynnu ei bod hi'n euog

Lucy LetbyFfynhonnell y llun, Heddlu Sir Caer
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lucy Letby ei dedfrydu i weddill ei hoes yn y carchar am lofruddio saith o fabanod oedd yn ei gofal

  • Cyhoeddwyd

Mae'r nyrs Lucy Letby yn cael ei hadnabod fel llofrudd cyfresol ar hyd a lled y byd, ond cynyddu mae nifer yr arbenigwyr sy'n codi cwestiynau am ddilysrwydd dyfarniad Llys y Goron.

Wedi ei chael yn euog o lofruddio saith babi, a cheisio llofruddio saith arall, fe fydd y cyn-nyrs i fabanod newydd anedig yn marw mewn carchar.

Roedd pump o'r babanod yn dod o Gymru.

Dadl rhai arbenigwyr yw bod y dystiolaeth yn erbyn Letby yn gamarweiniol.

Mae ystadegwyr yn cwestiynu'r modd y cafodd rhai ffeithiau eu cyflwyno i'r rheithgor.

Ond mewn cyfweliad arbennig gyda Newyddion S4C, mae'r cyn-ymgynghorydd paediatreg Dr Dewi Evans yn mynnu mai Lucy Letby lofruddiodd y babanod a bod yr holl sylw diweddar yn achosi loes pellach i rieni'r plant.

Disgrifiad o’r llun,

Y cyn-ymgynghorydd paediatrig Dr Dewi Evans oedd prif dyst yr erlyniad

Dr Dewi Evans oedd prif dyst yr erlyniad yn yr achos llys ac mae wedi byw troseddau dieflig Lucy Letby ers chwe blynedd.

Yn gyn-ymgynghorydd paediatreg, bu'n dyst meddygol arbenigol mewn llysoedd ers degawdau. Ond chafodd yr un achos sylw fel hyn.

Ar ôl pori drwy filoedd o ddogfennau ysbyty Caer, roedd ei dystiolaeth yn ganolog i benderfyniadau'r rheithgor, a charcharu Letby.

Fisoedd yn ddiweddarach, cytunodd tri o uwch farnwyr y Llys Apêl bod dadansoddiad Dr Evans yn gwbl ddibynadwy.

Ffynhonnell y llun, Swns

Dywedodd y cyn-ymgynghorydd ei fod yn "llwyr argyhoeddedig" mai'r cyn-nyrs oedd yn gyfrifol.

"Heb os, hi oedd yn gyfrifol am lofruddio y saith baban a heb os, hi oedd yn gyfrifol am ymdrechu i drio lladd nifer o fabanod eraill ac mae'n wyrth a dweud y gwir fod cwpwl o nhw dal yn fyw," meddai.

Wrth sôn am yr ymosodiadau arno ef yn bersonol, dywedodd fod yr "ymosodiadau yn dod gan bobl sydd â'r lleia' o wybodaeth".

"Maen nhw'n dod wrth feddygon sydd ddim wedi gweld recordiau'r babanod, sydd ddim wedi clywed y dystiolaeth, oedd ddim yn bresennol yn yr achos ac erbyn hyn yn amlwg sy' ddim wedi darllen adroddiad cyflawn y llys apêl."

Yn ôl Dr Dewi Evans, ystadegwyr sy'n bwydo'r damcaniaethu a'r amheuon rhyngwladol.

Dywedodd: "Mae'r ystadegwyr wedi bod yn gyrru hyn yn gyson ac amau bod yr heddlu, yr erlyniad a ni fel tystion ddim wedi deall yr ystadegau.

"A'r ateb wrth gwrs yw roedd yr achos hwn ddim byd i wneud ag ystadegau. Doedd statistics ddim i wneud â'r erlyniad."

Roedd achos yr erlyniad yn eang a thrylwyr.

Ymhlith y dystiolaeth roedd canlyniadau profion bod dau o'r babanod wedi cael gorddos i inswlin a phrofion pelydr-X yn cadarnhau bod aer wedi cael ei chwistrellu yn fwriadol i gyrff saith arall.

Beth oedd gwendidau amddiffyniad Letby?

Penderfynodd tîm cyfreithiol Lucy Letby i beidio â galw unrhyw dystion meddygol, gan ddibynnu ar adroddiadau ysgrifenedig yn unig.

Mae Dr Evans yn cytuno bod yna wendidau yn amddiffyniad Letby.

Aeth ymlaen i ddweud ei bod wedi cael achos teg oherwydd "roedd ymchwiliad heddlu Caer yn drylwyr rhyfedda, ro' nhw wedi mynd i bob man alle' ni feddwl i sicrhau bod y dystiolaeth yn deg a bod pob math o wybodaeth gyda nhw".

Mae disgwyl i'r ymchwiliad i'r modd y deliodd ysbyty Countess of Chester â'r GIG agor ar 10 Medi. Bryd hynny daw rheolwyr yr ysbyty dan y chwyddwydr.

"Dwi ddim yn rhan o'r ymchwiliad... mae eisiau edrych ar brofiad y teuluoedd a chlywed wrthyn nhw, mae hynny'n hollbwysig.

"Maen nhw wedi cael amser ofnadwy a dwi'n flin iawn bod y cyhoeddusrwydd hwn, sydd o blaid Letby yn dal i barhau achos mae hyn yn bwysau ychwanegol ar y teuluoedd hyn."

Dywedodd fod y teuluoedd "wedi diodde' digon fel mae 'ddi heb gael ystadegwyr... yn clochdar heb gael y wybodaeth".

Pynciau cysylltiedig