Drakeford yn galw am dreth cyfoeth a dileu y cap dau blentyn

Mae Mark Drakeford yn dweud mai "gwraidd anghydraddoldeb yw'r ffordd y mae cyfoeth yn cael ei ddosbarthu ar draws y boblogaeth"
- Cyhoeddwyd
Mae "bendant" angen i'r canghellor edrych ar gyflwyno treth cyfoeth i ddelio â'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd, yn ôl cyn-Brif Weinidog Cymru.
Dywedodd Mark Drakeford mai "gwraidd anghydraddoldeb yw'r ffordd y mae cyfoeth yn cael ei ddosbarthu ar draws y boblogaeth".
Dywedodd hefyd wrth bodlediad Walescast bod "dyletswydd foesol" ar lywodraethau Llafur i gael gwared â'r cap budd-dal dau blentyn fel ffordd o leihau tlodi plant.
Derbyniodd Mr Drakeford, sydd bellach yn ysgrifennydd cyllid a'r Gymraeg, y byddai etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2026 yn "heriol" i'r Blaid Lafur.
- Cyhoeddwyd19 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Mae arolwg barn wedi awgrymu bod y blaid yn y trydydd safle - tu ôl i Blaid Cymru a Reform - ar hyn o bryd.
Ar ôl i ASau Llafur orfodi Llywodraeth y DU i newid diwygiadau lles a fyddai wedi arbed £5bn y flwyddyn erbyn 2030, mae'r Canghellor Rachel Reeves dan bwysau cyn Cyllideb yr hydref.
Dywedodd Ysgrifennydd Addysg Lloegr, Bridget Phillipson, wrth y BBC dros y penwythnos fod penderfyniadau gwariant wedi cael eu gwneud yn "anoddach" gan dro pedol y llywodraeth.
'Angen edrych ar drethi cyfoeth'
Yn siarad ar bodlediad y BBC, awgrymodd Mr Drakeford y dylai'r canghellor edrych ar dreth ar y diwydiant gamblo ar-lein, trethi ar elw bancio, a threth ar y cyfoethocaf.
"Rwy'n credu bod bendant angen edrych ar drethi cyfoeth," meddai.
"Rydym yn gymdeithas anghyfartal iawn. Rydym wedi dod yn fwy anghyfartal.
"Gwraidd yr anghydraddoldeb hwnnw yw'r ffordd y mae cyfoeth yn cael ei ddosbarthu ar draws y boblogaeth.
"Mae heriau ymarferol. Mae pobl gyfoethog yn gallu gadael a symud eu hasedau.
"Ond mae digon o bobl allan yna sy'n arbenigwyr yn y maes sy'n dweud y gellir ei wneud ac rwy'n siŵr y bydd y canghellor yn edrych ar yr hyn y mae hi'n credu sy'n bosibl."
'Dyletswydd foesol' i leihau tlodi plant
Cyn y tro pedol ar fudd-daliadau, roedd llywodraeth Lafur y DU yn ystyried codi'r cap budd-dal dau blentyn.
Mae'r polisi'n cyfyngu budd-daliadau i uchafswm o ddau o blant fesul teulu, i'r rhai a anwyd ar ôl Ebrill 2017.
Mae amcangyfrif y byddai dileu'r polisi yn costio tua £3.4bn y flwyddyn i'r llywodraeth ac y byddai'n codi 500,000 o blant allan o dlodi cymharol.
Mae awydd mawr i godi'r cap ymhlith llawer o aelodau'r Blaid Lafur, yn enwedig y rhai wnaeth wrthwynebu'r toriadau arfaethedig i lesiant.
Dywedodd Mr Drakeford: "Rwy'n credu bod lleihau tlodi plant yn ddyletswydd foesol i lywodraeth Lafur.
"Er mor anodd yw'r amgylchiadau... dydw i ddim yn credu bod unrhyw aelod o'r Blaid Lafur yn y Senedd neu Dŷ;'r Cyffredin sydd ddim eisiau gweld tlodi plant yn gostwng dros dymor y Senedd hon.
"Ac rydyn ni'n gwybod mai'r peth mwyaf effeithiol y gallwn ni wneud i fynd i'r afael â thlodi plant yw diddymu'r terfyn dau blentyn a gyflwynwyd gan y Torïaid."

Mae arolwg barn gan Sky News/More in Common yn rhoi Reform UK ar y blaen ar gyfer etholiad nesaf y Senedd
Awgrymodd arolwg barn gan Sky News/More in Common, a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf, fod Reform UK ar y blaen ar gyfer etholiad nesaf y Senedd.
Yn yr arolwg roedd plaid Nigel Farage ar 28%, Plaid Cymru ar 26%, Llafur Cymru ar 23%, a'r Ceidwadwyr Cymreig yn bedwerydd ar 10%.
Dywedodd Mr Drakeford bod etholiad y Senedd ym mis Mai 2026 wastad yn mynd i fod yn "heriol" i Lafur Cymru.
"Bob tro chi'n ennill etholiad, mae'r bryn yn mynd ychydig yn fwy serth y tro nesaf y mae rhaid i chi ei ddringo," ychwanegodd.