Morgan yn galw am drethu'r cyfoethocaf wedi gwrthryfel system les

Dywedodd y prif weinidog ei bod yn "falch bod plaid Lafur y DU wedi gwrando ar bryderon pobl"
- Cyhoeddwyd
Mae prif weinidog Cymru wedi galw am drethu'r cyfoethocaf wrth i'r Trysorlys ystyried sut i ddelio â chanlyniadau gwrthryfel y bleidlais ar newidiadau i'r system les yn Nhŷ'r Cyffredin.
Fe wnaeth y Blaid Lafur benderfynu peidio â chyflwyno toriadau sylweddol i fudd-daliadau anabledd wrth i weinidogion ofni y bydden nhw'n colli'r bleidlais o fwyafrif ysgubol.
Mae yna ddyfalu bellach y bydd yn rhaid i drethi godi gan na fydd hi'n bosib arbed £5bn am y tro, neu ddim o gwbl.
Dywedodd Eluned Morgan wrth BBC Cymru fod y Canghellor Rachel Reeves yn "ceisio llenwi twll du gwerth £20bn a adawyd gan y Ceidwadwyr".
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
"Mae pris i'w dalu am hynny. Y cwestiwn yw pwy sy'n mynd i dalu'r pris hwnnw?
"Mae'n rhaid i chi gael y cydbwysedd yn iawn. Yn bersonol, rwy'n credu y dylid gofyn i'r bobl sy'n medru i gario mwy o'r baich."
Roedd hi'n ymddangos fel pe bai Ms Morgan yn siarad am Lywodraeth y DU, yn hytrach na phwerau trethu Llywodraeth Cymru.
'Dryslyd a rhwystredig'
Roedd gweinidogion yn Llywodraeth Cymru ymhlith rhai o'r Blaid Lafur a oedd wedi lobïo yn erbyn y newidiadau lles.
Mae'r toriadau arfaethedig i fudd-daliadau anabledd bellach wedi'u gohirio tan ganlyniad adolygiad.
Dywedodd y prif weinidog ei bod yn "falch bod plaid Lafur y DU wedi gwrando ar bryderon pobl a oedd yn poeni'n fawr am sut y gallai'r newidiadau effeithio arnyn nhw".
Yn y cyfamser ddydd Iau, galwodd AS Plaid Cymru Ann Davies ac Aelod Plaid Cymru yn y Senedd, Sioned Williams, unwaith eto am asesiad effaith penodol i Gymru ar y newidiadau a ohiriwyd i daliadau annibyniaeth bersonol (PIP) a'r toriadau sydd wedi'u cynllunio ar elfen iechyd y credyd cynhwysol.
Dywedon nhw fod pobl ledled Cymru yn "ddryslyd ac yn rhwystredig".
"Mae angen tryloywder a sicrwydd ar bobl ynghylch sut y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar eu bywydau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.