Galw am gomisiynydd dŵr i fynd i'r afael â llifogydd
- Cyhoeddwyd
Mae adroddiad newydd wedi cynnig 17 o argymhellion i weinidogion Cymru, gyda’r nod o feithrin y gallu i wrthsefyll llifogydd erbyn 2050.
Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru sydd wedi cyhoeddi’r adroddiad sy’n tanlinellu pwysigrwydd cyfuno natur a’r gymuned wrth fynd i’r afael â phroblemau llifogydd cynyddol.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae un o bob saith eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd.
Dywedodd un o arweinwyr y comisiwn, Dr Eurgain Powell, fod yr argymhellion yn "heriol ond ymarferol hefyd".
Ond ychwanegodd fod angen sefydlu rôl Comisiynydd Dŵr newydd i edrych ar sut mae "addasu a bod yn fwy gwydn i lifogydd yn y dyfodol.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu" yr adroddiad ac am "ystyried ei argymhellion yn ofalus.
Yn Aberteifi, mae Maer y dref yn byw mewn ardal sydd yn dioddef llifogydd yn gymharol gyson wrth i Afon Teifi godi’n uchel.
“Chi’n gweld e’n llifo lan a bydd e’n dod i stepen cynta’r drws” meddai'r cynghorydd Olwen Davies.
Mae yna gynlluniau yn eu lle bellach er mwyn codi wal a fyddai’n lleihau’r perygl o lifogydd llanw i tua 90 o gartrefi a busnesau yn Aberteifi.
Cynlluniau sy’n cael eu croesawu gan nifer yn yr ardal.
'Mae e ‘di cymryd blynydde'
Dywedodd Olwen Davies: “Y gofid yw bod pethau ddim yn digwydd yn ddigon cyflym.
"Ni’n byw ar bwys yr afon a ni wedi gweld pobl yn dod a 'neud yr ymchwil, ond mae e ‘di cymryd blynydde o waith.
"Mae hwn yn mynd i warchod llawer o dai, a thai hanesyddol, a neud yn siŵr fod pob un lleol yn saff".
Mae CNC yn rhybuddio bod yr argyfwng hinsawdd am ddod â thywydd mwy eithafol ac felly bod ‘na fwy o bwysigrwydd nag erioed fod pobl yn gwybod ac yn deall y peryglon.
Wedi 18 mis o waith, mae’r comisiwn yn pwysleisio bod angen ffyrdd naturiol er mwyn mynd i’r afael â phroblem llifogydd.
Mae yna fwriad i ddefnyddio elfennau naturiol yr amgylchedd er mwyn cadw dŵr mewn ardaloedd mwy diogel, ac ar ben hynny, mae yna fwriad i sicrhau fod gan gymunedau bŵer i allu gweithredu.
Ond mae Dr Eurgain Powell yn rhybuddio bod "y broblem yn mynd i gynyddu".
“Mae’r bobl sy’n gweithio o fewn y sector yn delio gyda’r problemau sy’n codi heddi’, a dy’ nhw ddim yn cael cyfle i feddwl ymlaen i’r dyfodol.
"Mae’r argymhellion yn yr adroddiad yn gobeithio rhoi fframwaith iddyn nhw feddwl sut y’ ni’n gallu paratoi ar gyfer heriau’r dyfodol a chydweithio gyda’r holl asiantaethau".
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2024
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu'r adroddiad a byddwn yn ystyried ei argymhellion yn ofalus ochr yn ochr ag adolygiadau eraill wrth gefnogi dyfodol Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghymru.
"Rydym yn ymwybodol iawn o ba mor ddinistriol y gall effeithiau llifogydd fod, ar gartrefi, bywoliaeth a bywydau pobl, a dyna pam rydym eisoes wedi ymrwymo i ariannu amddiffyniad llifogydd ychwanegol ar gyfer 45,000 o gartrefi ac wedi cynnal ein cyllid lefel uchaf erioed ar gyfer ein Rhaglen Llifogydd eleni, sef £75m.
"Mae angen gweithredu ar y cyd ledled Cymru, ond ni allwn ei wneud ar ein pennau ein hunain.
"Rydym yn cydnabod anghenion a rôl ystod eang o randdeiliaid wrth gyflawni rheoli perygl llifogydd a gwytnwch yn yr hinsawdd."