Glaw trwm: Ffyrdd dan ddŵr ac oedi difrifol i deithwyr
![Llifogydd ym Mhenarlâg](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/999/cpsprodpb/e90b/live/5a6c9100-8be9-11ef-b6b0-c9af5f7f16e4.jpg)
Yr olygfa y tu allan i ganolfan gŵn ym Mhenarlâg, Sir y Fflint ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae degau o rybuddion llifogydd mewn grym yng Nghymru ddydd Iau yn dilyn glaw trwm dros nos.
Mae 'na oedi o hyd hefyd ar wasanaethau trên ledled Cymru.
Bu'n rhaid cau tair ysgol yn gynnar ym Mhowys ddydd Mercher ac fe apeliodd heddluoedd ar yrwyr i fod yn ofalus ar y ffyrdd.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod yn ymateb i "nifer o alwadau yn ymwneud â llifogydd" yn ardal Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae'r gwasanaeth yn gofyn i bobl "beidio â gyrru ar ffyrdd sydd dan ddŵr".
![Car yn y llifogydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/608/cpsprodpb/ba77/live/20a494c0-8bf5-11ef-93ff-f7ebb0faaff2.jpg)
Aeth car yn sownd yn y dŵr yn Wrecsam brynhawn Mercher
Mae 'na oedi difrifol ar drafnidiaeth gyhoeddus oherwydd y llifogydd.
Dywed Trafnidiaeth Cymru bod y sefyllfa yn amharu ar wasanaethau trên rhwng Aberystwyth a'r Amwythig, Caerdydd a'r Amwythig a rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog.
Doedd dim modd i drenau redeg fore Iau rhwng Crewe a Chester.
Mae teithiau wedi eu gohirio rhwng Crewe a'r Amwythig, Wrecsam a Bidston a rhwng Henffordd a'r Amwythig gan effeithio ar wasanaethau ehangach.
Mae 'na lai o deithiau hefyd rhwng Birmingham New Street a'r Amwythig.
![Rheilffordd dan ddwr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/999/cpsprodpb/3c5b/live/35b3a590-8bd7-11ef-a1af-1bf650513ba3.jpg)
Mae trafferthion ar reilffyrdd, fel y llifogydd yma dros y ffin yn Amwythig, yn golygu nad oes gwasanaethau rhwng gogledd a de Cymru
Mae'r tywydd gwlyb wedi achosi "amodau gyrru anodd ar ein ffyrdd", yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam ddydd Mercher.
"Mae lefelau afonydd yn parhau'n uchel ac mae'r tir yn wlyb... mae ganddon ni dimau allan yn delio â'r sefyllfa ac yn anffodus rydyn ni wedi gorfod cau rhai ffyrdd.
"Rydyn ni'n annog gyrwyr i gadw golwg ar arwyddion sy'n dweud bod ffyrdd wedi cau. Byddan nhw'n parhau ar gau tan fod lefelau dŵr yn gostwng."
![Llifogydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/999/cpsprodpb/9fcd/live/f8deb340-8be9-11ef-8f76-afad7a1b3d01.jpg)
Dywedodd Abi Devenport fod "y dŵr fel nant yng nghanol y lôn" ym Mhenarlâg
Fe rybuddiodd Cyngor Powys bod "llifogydd dŵr wyneb sylweddol ar draws ein rhwydwaith priffyrdd".
"Mae'r gwaethaf o'r llifogydd hyd yma yng ngogledd y sir ond mae pob ardal mewn cyflwr uwch o risg.
"Gyda hyd yn oed mwy o law yn cael ei ragweld heno, gallai’r amodau fynd yn llawer gwaeth o hyd, felly byddwch yn ofalus, peidiwch â theithio os nad oes rhaid i chi a chael y wybodaeth ddiweddaraf drwy wefan Cyfoeth Naturiol Cymru."
![Llifogydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/999/cpsprodpb/35f2/live/fe2d74d0-8c57-11ef-a1ac-5f4204eba88d.jpg)
Mae staff yng nghanolfan Hawarden Happy Dogs yn Sir y Fflint yn dweud bod noson "ddi-gwsg" o'u blaenau
Mae Abi Devenport yn byw ac yn gweithio ar safle Hawarden Happy Dogs ar Lannau Dyfrdwy a dywedodd wrth BBC Cymru bod "y dŵr fel nant yng nghanol y lôn".
Dywedodd bod y dŵr wedi cyrraedd eu canol wrth iddyn nhw geisio mynd â chŵn yn ôl at eu perchnogion.
"Gan fod gymaint o anifeiliaid yma, allwn ni ddim gadael neu ddianc," dywedodd.
Mae'n rhagweld noson ddi-gwsg ac y bydd yn rhaid iddi godi'n rheolaidd i edrych ar lefel y dŵr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd26 Awst 2020
- Cyhoeddwyd7 Medi 2024