Teyrngedau'r Senedd i 'gydweithiwr a ffrind rhyfeddol' Hefin David

munud o dawelwch yn y SeneddFfynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd munud o dawelwch yn y Senedd er cof am Hefin David

  • Cyhoeddwyd

Mae Aelodau'r Senedd wedi bod yn cofio am y gwleidydd Llafur, Hefin David, a fu farw'n sydyn fis diwethaf.

Ar ddechrau'r sesiwn yn y Senedd, dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan bod Mr David wedi creu argraff "trwy ei chwerthin, ei ddeallusrwydd, a'i egni diderfyn, a'i allu rhyfeddol i ofalu".

Disgrifiodd ef hefyd fel person "gwirioneddol nodedig".

Bu farw Mr David yn sydyn fis Awst yn 47 oed. Bu'n Aelod o'r Senedd ar ran y Blaid Lafur dros etholaeth Caerffili ers 2016.

Disgrifiad,

Dywedodd y Llywydd, Elin Jones, bod pawb yn y siambr yn teimlo colled "ffrind annwyl", Hefin David

Llywydd y Senedd, Elin Jones, oedd y cyntaf i roi teyrnged ddydd Mawrth, ar ddechrau tymor newydd y Senedd.

Dywedodd: "Mae dychwelyd heddiw i'r Senedd mor chwerw felys.

"Mi rydym yn dychwelyd yn 59 aelod, ac mi rydyn ni i gyd heddiw, ac am hir i ddod, yn mynd i deimlo colled ein ffrind annwyl, Hefin David.

"Mae nifer o deulu a ffrindiau Hefin yn ein plith yn yr oriel. Diolch i chi am ddod atom i rannu yn ein cyfarfod cofio.

"Ac mi rydym yn meddwl yn enwedig am ferched a rhieni annwyl Hefin yn eu colled. Ond hefyd am Vikki, ein cydweithiwr, a phartner Hefin."

Hefin David Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Hefin David ei ethol yn 2016 i gynrychioli etholaeth Caerffili yn Senedd Cymru

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan: "Mae rhai pobl yn gadael marc yn dawel, ac mae eraill yn ei adael yn uchel. Gwnaeth Hefin y ddau.

"Gadawodd farc ar bawb oedd yn ei adnabod, trwy ei chwerthin, ei ddeallusrwydd, a'i egni diderfyn, a'i allu rhyfeddol i ofalu.

"Heddiw, rydym yn dod ynghyd i gofio ffrind, cydweithiwr, tad, partner, a bod dynol gwirioneddol nodedig."

Daeth i'r casgliad, "heddiw, rydym yn rhannu nid yn unig colled cydweithiwr a ffrind rhyfeddol, ond hefyd y tristwch dwys o golli rhywun a garodd mor ddwfn.

"Cariad a ymestynnodd allan, gan lunio'r ffordd y gwasanaethodd ei gymuned bob dydd.

"Diolch i ti, Hefin, am ddangos i ni sut i wneud y gwaith hwn gyda chalon, gyda hiwmor, a gyda gobaith.

"Rydych chi'n cael eich caru, rydych chi'n cael eich colli, ac mae'r byd yn dywyllach heboch chi ac yn fwy disglair am eich adnabod.

"Gorffwyswch mewn heddwch, ffrind. Ni fyddwch byth yn cael eich anghofio."

'Mab, tad, brawd, partner, a ffrind cariadus'

Dywed Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, ei fod, fel sawl un yn y siambr, wedi adnabod Mr David ers bron i ddegawd.

"Ac mae'n dod ag atgofion anodd o golledion eraill yn ôl.

"Roedd Hefin yn gymaint o bethau i gynifer o bobl.

"Roedd yn fab, tad, brawd, partner, a ffrind cariadus.

"Roedd yn fos gofalgar, wrth gwrs, i'w staff.

"Roedd yn gydweithiwr annwyl iawn i gynifer ohonom ni ar draws y siambr ym mhob plaid wleidyddol."

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, "ar ran pawb ym Mhlaid Cymru, dwi'n estyn ein cydymdeimlad diffuant heddiw i Vikki ac i deulu, anwyliaid a chyfeillion Hefin.

"Mi wnaeth y newyddion trasig hwnnw yn ystod toriad yr haf ein hysgwyd ni i gyd yn wirioneddol, a dwi'n gwybod y bydd colli Hefin yn cael ei deimlo yn enbyd gan y rhai oedd yn ei garu ac yn ei adnabod o orau."

Ychwanegodd bod Mr David yn "seneddwr angerddol ac ymroddedig".

"Roedd, mewn sawl ffordd, yn bopeth y dylai aelod etholedig fod: eiriolwr brwd dros ei etholwyr, ymgyrchydd ymroddedig dros y rhai di-lais, a meddyliwr rhydd, yn sicr byth yn ofni dweud ei farn."

Mae'n gadael ei bartner, AS Cwm Cynon Vikki Howells, a dwy o ferched.