Bwrdd iechyd i reoli meddygfa cwmni preifat dadleuol

Meddygfa Brynmawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni eHarley Street yn rhedeg naw o feddygfeydd yng Nghymru, gan gynnwys yr un ym Mrynmawr sydd ar fin cael ei drosglwyddo i'r bwrdd iechyd

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni meddygol preifat sydd wedi cael ei feirniadu gan gleifion, meddygon a Phrif Weinidog Cymru yn trosglwyddo un o'i feddygfeydd yng Nghymru i'r GIG.

Fe ddatgelodd BBC Cymru y llynedd fod pryderon wedi codi ynghylch diogelwch, lefelau staffio "peryglus" a phrinder cyflenwadau o fewn meddygfeydd dan reolaeth cwmni o Sir Gaerlŷr, eHarley Street.

Fe gadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan brynhawn Mawrth mai nhw fydd yn rheoli Meddygfa Brynmawr o ddechrau mis Mawrth.

Mae eHarley Street wedi cael cais am sylw, ond yn ôl arweinydd clinigol y feddygfa mae'r cam "yn newyddion gwych i Frynmawr" ac mae'r staff "wrth eu boddau".

Ychwanegodd Dr Mark Wells y bydd angen chwe mis i'r feddygfa "sefydlogi" ac nad yw'n gwybod beth yw'r sefyllfa ym meddygfeydd eraill y cwmni.

Roedd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, ymhlith y rhai a fynegodd bryderon am honiadau bod meddygon heb gael eu talu a chleifion yn cael trafferth cael apwyntiadau - honiadau y gwadodd eHarley Street.

Daeth y cytundeb i drosglwyddo'r feddygfa i ofal GIG yn dilyn cyfarfod yno oedd yn cynnwys staff, cynrychiolwyr y cwmni a chynrychiolwyr y bwrdd iechyd.

Ond mae meddygon wedi dweud wrth BBC Cymru nad oes"cysylltiad na sicrwydd uniongyrchol" y bydd meddygon locwm yn derbyn yr arian sy'n ddyledus iddyn nhw.

Dywed Dr Samantha Jenkins, sy'n aros am dros £10,000 ar ôl gweithio ym meddygfeydd y cwmni ym Mrynmawr a Blaenafon, bod y sefyllfa "wedi ein gadael ni gyd ar y clwt".

Ychwanegodd: "Does dim gohebiaeth wedi bod gan y bwrdd iechyd i'r meddygon locwm sydd wedi eu heffeithio drwy hyn i gyd."

Mae eHarley Street wedi dweud bod yna gynllun i dalu cyflogau sy'n ddyledus i feddygon.

'Monitro meddygfeydd eraill'

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan eu bod wedi cael gwybod bod y cwmni'n ildio'r cytundeb ar gyfer Meddygfa Brynmawr a'u bod "wedi cytuno ar drefniadau trosiannol i ddechrau'n syth gyda dyddiad trosglwyddo swyddogol o 1 Mawrth 2025".

"Ein ffocws nawr yw cydweithio'n agos â staff Meddygfa Brynmawr a'r gymuned leol i roi mynediad da i wasanaethau gofal sylfaenol yn yr ardal," meddai'r llefarydd.

Ychwanegodd eu bod yn parhau i fonitro meddygfeydd eraill eHarley Street o fewn ardal y bwrdd iechyd, ac yn cydweithio'n agos â nhw "i sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol yn gynaliadwy ac yn ateb anghenion ein cleifion".