Bwrdd iechyd i reoli mwy o feddygfeydd cwmni preifat dadleuol
![Meddygfa](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7875/live/9528a390-e569-11ef-bd1b-d536627785f2.jpg)
Cafodd pryderon am feddygfeydd sy'n cael eu rheoli gan eHarley Street eu datgelu gan BBC Cymru ddiwedd y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni rheoli meddygfeydd sydd wedi cael ei feirniadu gan gleifion, meddygon a Phrif Weinidog Cymru yn trosglwyddo'r mwyafrif o'i feddygfeydd yng Nghymru i'r gwasanaeth iechyd.
Fe ddatgelodd BBC Cymru y llynedd fod pryderon wedi'u codi ynghylch diogelwch, lefelau staffio "peryglus" a phrinder cyflenwadau o fewn meddygfeydd dan reolaeth cwmni o Sir Gaerlŷr, eHarley Street.
Fis diwethaf daeth i'r amlwg ei fod yn trosglwyddo Meddygfa Brynmawr yn ôl i ofal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Mae BBC Cymru bellach wedi gweld llythyr yn amlinellu cynlluniau i ddychwelyd pedair meddygfa arall i'r bwrdd iechyd.
Mae eHarley Street a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cael cais am sylw.
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
- Cyhoeddwyd7 Ionawr
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2024
Dywedodd llythyr at staff fod meddygfeydd Blaenafon, Aberbîg, Bryntirion a Thredegar yn cael eu dychwelyd i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan oherwydd "pwysau gwleidyddol, ariannol a gweithredol".
Yn gynharach yn y mis dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ei bod yn "bryderus iawn" am honiadau bod meddygon heb eu talu ac nad oedd cleifion yn gallu cael apwyntiadau ym meddygfeydd eHarley Street.
Ym mis Tachwedd fe ddatgelodd BBC Cymru fod meddygon locwm yn gwrthod gweithio mewn meddygfeydd yng Nghymru sy'n cael eu rheoli gan y cwmni.
Roedd honiadau bod gwerth tua £250,000 mewn cyflogau yn ddyledus i feddygon.
Roedd meddygon hefyd wedi rhybuddio am lefelau staffio "peryglus" a phrinder cyflenwadau "a allai fod yn drychinebus" yn y meddygfeydd.
Mae eHarley Street wedi gwadu'r holl honiadau ac wedi dweud yn y gorffennol eu bod "wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r heriau hyn".
![Meddygfa Brynmawr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/779/cpsprodpb/e0dc/live/e82364b0-e576-11ef-8b8c-73fc0bbdc30b.jpg)
Fe gadarnhaodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan fis Ionawr mai nhw fydd yn rheoli Meddygfa Brynmawr o ddechrau mis Mawrth
Mae eHarley Street wedi bod yn rheoli'r meddygfeydd canlynol yng Nghymru:
Meddygfa Brynmawr
Meddygfa Blaenafon
Canolfan Feddygol Pont-y-pŵl
Meddygfa Bryntirion, Bargoed
Canolfan Iechyd Tredegar
Meddygfa Aberbîg
Meddygfa Gelligaer, Hengoed
Meddygfa Ffordd y Gorfforaeth, Caerdydd
Canolfan Feddygol Llyswyry, Casnewydd
Trosglwyddo pump o'r naw meddygfa
Nawr, mae pump o'r naw meddygfa yng Nghymru sy'n cael eu rheoli gan eHarley Street yn cael eu trosglwyddo yn ôl i'r bwrdd iechyd lleol.
Mae'r llythyr yn nodi y bydd Meddygfa Blaenafon a Meddygfa Aberbîg yn cael eu rheoli gan y bwrdd iechyd o 1 Mawrth.
Bydd Meddygfa Bryntirion a Meddygfa Tredegar yn cael eu rheoli gan y bwrdd iechyd o 1 Ebrill.
Roedd hi eisoes wedi dod i'r amlwg y byddai Meddygfa Brynmawr yn ôl dan ofal y bwrdd iechyd o 1 Mawrth.
Dywedodd y llythyr: "Er gwaethaf ein buddsoddiad helaeth yn y practisau hyn - yn ariannol a thrwy ein hadnoddau ehangach - nid ydym bellach mewn sefyllfa i gynnal mwy o ddyled ariannol wrth geisio cadw'r cytundebau yn hyfyw."
Daw'r cyhoeddiad ar ôl i'r cwmni ail-frandio eu gwefan o eHarley Street Primary Care Solutions, i eHarley Wales.
Dywedodd meddygon fod arian yn ddyledus iddynt o hyd ar ôl gweithio mewn meddygfeydd sy'n cael eu rheoli gan eHarley Street, gyda rhai meddygon teulu locwm yn cymryd camau cyfreithiol i geisio adennill arian sydd heb ei dalu.
Mae eHarley Street wedi dweud yn y gorffennol fod cynllun yn ei le i dalu cyflogau sy'n ddyledus i feddygon.