Y GIG wedi cymryd misoedd i godi cwynion gyda chwmni dadleuol
![Meddyg](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/9cc1/live/8110d4a0-e964-11ef-bd1b-d536627785f2.jpg)
Mae'r cwmni eHarley Street yn trosglwyddo'r rhan fwyaf o'i feddygfeydd yng Nghymru yn ôl i'r GIG
- Cyhoeddwyd
Fe gymrodd swyddogion y GIG fisoedd i gwrdd â meddygon yn dilyn cwynion am feddygfeydd sy'n cael eu rhedeg gan gwmni preifat dadleuol.
Mae cwmni eHarley Street - sydd wedi cael ei feirniadu gan gleifion, meddygon a'r Prif Weinidog - bellach yn trosglwyddo'r rhan fwyaf o'i feddygfeydd yng Nghymru yn ôl i'r GIG.
Fe ddatgelodd BBC Cymru y llynedd fod pryderon wedi'u codi ynghylch diogelwch, lefelau staffio "peryglus" a phrinder cyflenwadau o fewn meddygfeydd dan reolaeth y cwmni o Sir Gaerlŷr.
Mae eHarley Street a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cael cais am sylw.
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
- Cyhoeddwyd7 Ionawr
Cafodd pryderon am feddygfeydd - ym Mlaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Chaerffili - eu codi fis Awst diwethaf.
Ond ni wnaeth swyddogion y bwrdd iechyd gwrdd â meddygon teulu eHarley Street tan ddiwedd mis Hydref, yn ôl dogfen fewnol y bwrdd iechyd a welwyd gan BBC Cymru.
Mae hefyd yn dangos bod y bwrdd iechyd wedi rhoi mwy o arian cyhoeddus i'r meddygon sy'n rhedeg eHarley Street ar ôl i bryderon gael eu codi.
Mae'r ddogfen yn dweud: "Ym mis Awst 2024, fe gafodd pryderon eu hamlygu i'r bwrdd iechyd gan staff lleol."
Mae'n ychwanegu: "Mae'r bwrdd iechyd wedi cychwyn cyfnod o fonitro gwell o'r bartneriaeth â'r meddygon teulu gyda chyfarfodydd bob yn ail wythnos.
"Ffocws y cyfarfodydd hyn yw llywodraethu, y gweithlu, a chyllid, yn ogystal ag unrhyw bryderon penodol.
"Cafodd y cyfarfod cyntaf ei gynnal ar 28 Hydref 2024."
![Meddygfa Brynmawr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/779/cpsprodpb/e4bd/live/b2892160-e958-11ef-a319-fb4e7360c4ec.jpg)
Fe gadarnhaodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan fis Ionawr mai nhw fydd yn rheoli Meddygfa Brynmawr o ddechrau mis Mawrth
Mae BBC Cymru wedi gweld dogfennau mewnol Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar ôl cais rhyddid gwybodaeth i Lywodraeth Cymru.
Mae'r dogfennau'n dangos bod y bwrdd iechyd wedi dweud mai'r cyfryngau cymdeithasol oedd yn gyfrifol am fwy o gleifion yn codi pryderon.
"Mae yna nifer o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol sydd wedi annog y cyhoedd i gysylltu â'r bwrdd iechyd i godi pryderon, ac oherwydd hynny mae yna fwy o bryderon wedi'u codi, am Frynmawr yn enwedig," meddai.
Mae'r ddogfen fewnol - "Briff i'r Cadeirydd" - yn amlinellu rhai o'r pryderon a godwyd, gan gynnwys diffyg staff clinigol, methiant i dalu staff locwm, methiant i dalu cyflenwyr a glendid y meddygfeydd.
Mae eHarley Street wedi cael cais am sylw.
Dywedodd y cwmni mewn datganiad blaenorol eu bod yn wynebu "cyfyngiadau ariannol sylweddol" a'u bod "wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r heriau hyn".
Mae aelodau'r Senedd eisoes wedi galw am atebion am sut y daeth y cwmni preifat o Sir Gaerlŷr i weithredu o fewn y GIG yng Nghymru.
![Meddygfa](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3844/live/d372e190-e958-11ef-a319-fb4e7360c4ec.jpg)
Cafodd pryderon am feddygfeydd sy'n cael eu rheoli gan eHarley Street eu datgelu gan BBC Cymru ddiwedd y llynedd
Mae eHarley Street wedi bod yn rheoli'r meddygfeydd canlynol yng Nghymru:
Meddygfa Brynmawr
Meddygfa Blaenafon
Canolfan Feddygol Pont-y-pŵl
Meddygfa Bryntirion, Bargoed
Canolfan Iechyd Tredegar
Meddygfa Aberbîg
Meddygfa Gelligaer, Hengoed
Meddygfa Ffordd y Gorfforaeth, Caerdydd
Canolfan Feddygol Llyswyry, Casnewydd
Trosglwyddo pump o'r naw meddygfa
Mae pump o'r naw meddygfa yng Nghymru sy'n cael eu rheoli gan eHarley Street bellach yn cael eu trosglwyddo yn ôl i'r bwrdd iechyd lleol.
Mae'r dogfennau'n dangos bod "sicrwydd" wedi ei roi i'r bwrdd iechyd "gan y rheolwr gweithrediadau canolog ar ran y bartneriaeth" pan gafodd pryderon eu codi am y meddygfeydd.
Mae pob meddygfa'r GIG wedi'i chytundebu i feddygon teulu unigol sy'n gyfrifol am y feddygfa honno.
Meddygon heb eu talu
Mae'r dogfennau'n dangos bod y bwrdd iechyd wedi rhoi arian cyhoeddus ychwanegol i'r meddygon sy'n gyfrifol am y meddygfeydd - sydd hefyd yn benaethiaid ar eHarley Street - i dalu am feddygon teulu locwm.
"Er mwyn cynnal lefelau diogel o ofal clinigol mae'r bwrdd iechyd wedi cytuno ar gefnogaeth ariannol ar gyfer ad-daliad locwm," meddai'r ddogfen.
Fodd bynnag, mae rhai meddygon teulu locwm yn cymryd camau cyfreithiol i geisio adennill arian sydd heb ei dalu.
Galw am ymchwiliad
Ym mis Rhagfyr roedd galw am ymchwiliad i eHarley Street ar ôl i gleifion, gan gynnwys rhai â salwch angheuol, ddweud eu bod yn cael trafferth cael mynediad at apwyntiadau a thriniaethau.
"Mae'n fy nychryn - dwi ddim yn teimlo'n ddiogel," meddai Katrina Hughes, 69 oed sydd â chanser terfynol, a gafodd drafferth cael apwyntiad neu weld meddyg ym Meddygfa Brynmawr ym Mlaenau Gwent.
Roedd hi ymhlith tua 100 o bobl a fynychodd gyfarfod cyhoeddus i drafod gwasanaethau yn y feddygfa.
Dywedodd llawer eu bod yn cael trafferth cael apwyntiadau neu'n aros am feddyginiaeth a chanlyniadau profion.