Gwasanaeth Ambiwlans Cymru'n penodi prif weithredwr newydd

Llun o Emma WoodFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd Emma Wood yn dechrau yn ei rôl yn swyddogol ym mis Hydref

  • Cyhoeddwyd

Prif weithredwr newydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fydd Emma Wood.

Daw ar ôl i gyn-bennaeth y gwasanaeth, Jason Killens, adael i gymryd yr awenau fel prif weithredwr y gwasanaeth ambiwlans yn Llundain ar ôl saith mlynedd wrth y llyw.

Mae Emma Wood wedi wedi cael profiad blaenorol fel uwch swyddog yn y GIG a gwasanaethau brys, ac wedi cael profiad fel cyfarwyddwr bwrdd am dros ddau ddegawd.

Dywedodd ei bod yn "anrhydedd mawr cael ymuno â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystod cyfnod mor bwysig yn ei hanes".

Mi fydd yn gadael Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Bryste a Weston, lle mae wedi gwasanaethu fel Prif Swyddog Pobl a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol.

Mae Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Colin Dennis yn dweud y bydd yn "dod â chyfoeth o brofiad o arweinyddiaeth ac angerdd clir dros bobl a gwella gwasanaethau".

Mi fydd hi'n dechrau yn ei rôl yn swyddogol ym mis Hydref.

Mewn cyfweliad ym Mehefin wrth adael y swydd, dywedodd Mr Killens bod yr oedi i gleifion oherwydd bod ambiwlansys yn gorfod aros y tu allan i ysbytai Cymru yn "anghynaladwy, annerbyniol".

Mae'n gadael y gwasanaeth mewn sefyllfa ble mae'r oedi pedair gwaith yn hirach na phan ddechreuodd y swydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig