Beth yw effaith yr Eisteddfod Genedlaethol ar yr amgylchedd?

Mae'r brifwyl wedi dechrau ar y gwaith o geisio gwella eu ôl troed carbon
- Cyhoeddwyd
Mae gwella ôl troed carbon y Brifwyl a'r Maes yn her ond mae'r Eisteddfod yn cychwyn ar y gwaith eleni.
Y bwriad yw gosod safon newydd o ran cynaliadwyedd nid yn unig ar y Maes ond hefyd mewn gwyliau diwylliannol mawr eraill yng Nghymru.
Maen nhw am geisio datblygu strategaeth net sero mewn partneriaeth ag M-Sparc.
Yn ôl Rheolwr Arloesi Carbon Isel M-sparc, Dr Debbie Jones mae llawer o fusnesau yn gweld yr angen i ddadgarboneiddio - ond mae angen cymorth arnyn nhw.

Yn ôl Dr Debbie Jones mae llawr o fusnesau ac unigolion am wneud newidiadau er mwyn lleihau eu hôl troed carbon
Ychwanegodd Dr Jones "weithiau ma' angen y cymorth a'r arbenigedd i wybod yn union be alla' nhw [busnesau ac unigolion] 'neud er mwyn gwneud gwahaniaeth".
Mae rhai mesurau mewn lle yn barod.
Mae gan yr Eisteddfod bolisi cynaliadwyedd gyda phlastig un-tro wedi ei wahardd ers rhai blynyddoedd.
Mae yna ymgais i ddefnyddio cyflenwyr lleol.
Ond yn ogystal, eleni mae holl swyddfeydd ar safle'r Eisteddfod yn defnyddio ynni solar yn unig wrth gael eu hadeiladu a'u tynnu i lawr.

Mae Betsan Moses am gyrraedd eu nod ymhen pum mlynedd
Er hyn, mae prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, yn dal i gredu fod yna sialensau i ddod: "Mae yn daith heriol ond ma' rhaid i ni edrych fel allwn ni weithredu hyn yn gynt na mae eraill yn ei neud.
"O fewn pum mlynedd ry' ni eisiau gweld ein bod ni'n cyrraedd diwedd y daith."
Ar y Maes mae stondinwyr yn gwylio'r datblygiad yn ofalus ac yn pwyso a mesur be fydd yr effaith.
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf
Yn eu plith mae Lowri Roberts, perchennog Siop Cwlwm Croesoswallt sydd â stondin yma eleni: "Ry' ni eisoes yn ceisio cael cyn lleied o wastraff â phosib.
"Rwy'n angerddol am hyn. Ry' ni heb argraffu cyment o daflenni ag arfer ac ry' ni'n gofyn i bobl sganio côd QR er mwyn cael gwybodaeth am ein nwyddau yn hytrach na dosbarthu flyers.
"Ond dwi meddwl os bydde mwy o arweiniad a mwy o ganllawiau am be allwn ni 'neud bydde hyn yn ddefnyddiol iawn."
Mae natur deithiol yr ŵyl yn golygu bod mwy o bwysau o ran gofynion amgylcheddol ac mae trafnidiaeth yn her o ran torri defnydd ynni ac allyriadau carbon.
Yn y blynyddoedd nesaf y nod yw creu safon newydd o ran cynaliadwyedd nid yn unig yn y Brifwyl, ond mewn gwyliau diwylliannol mawr a bach ar hyd a lled Cymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.