Buddsoddi £280,000 ym maes coedwigaeth i ddenu gweithwyr iau

Tomos Williams yn sefyll mewn hi-vis oren o flaen cloddiwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tomos Williams yn annog pobl i weithio ym maes coedwigaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae Tomos Williams, 29, o Geredigion yn driniwr coed ac yn gweithio i’r busnes teuluol Gwasanaethau Coed Llanbed, ond mae’n ddiwydiant ble mae’r gweithlu yn heneiddio.

“Mae fe’n gallu bod yn job eithaf caled, mas ym mhob tywydd ond bydden i’n annog unrhyw un i wneud y swydd,” meddai.

Y gred ydi y bydd Cymru wedi colli 20% o weithwyr yn y sector goedwigaeth erbyn 2030 oherwydd ymddeoliad.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £280,000 mewn cronfa sgiliau a hyfforddiant newydd sy'n gysylltiedig â choedwigaeth i geisio cynyddu’r nifer sy’n gweithio yn y maes.

Yn ôl gweinidogion, mae angen gweithwyr ychwanegol i gyrraedd targedau plannu coed a newid hinsawdd.

Nod y gronfa ydi cefnogi busnesau ble mae yna fwlch o ran sgiliau o fewn y gweithlu gan roi cymhorthdal ar gyfer cyrsiau coedwigaeth a choed, gyda hyd at £20,000 ar gael i bob sefydliad.

Mae gan y llywodraeth darged i blannu 5,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn.

Ond llynedd dim ond 640 hectar gafodd eu plannu – ychydig dros 12% o’r nod.

Prifysgol Bangor ydi un o’r ychydig brifysgolion sy’n cynnig hyfforddi coedwigwyr ar lefel gradd.

Yno y cafodd Tomos ei radd ac mae’n dweud bod ei waith yn amrywiol iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen mwy o goedwigwyr fel bod y llywodraeth yn cyrraedd targedau plannu coed a newid hinsawdd

“Allen ni fod yn torri coed sydd wedi marw neu docio coeden mewn lle gwahanol bob dydd fel arfer,” meddai.

“Ry’n ni’n gweithio mewn lot o lefydd pert fel parciau cenedlaethol a phlastai mawr… llefydd lle mae pobol yn mynd yn eu hamser rhydd neu ar benwythnosau."

Mae Gwasanaethau Coed Llambed yn darparu gwasanaethau coedwigaeth ar gyfer cyrff cyhoeddus ac i gwsmeriaid preifat gan gyflogi 25 o bobol.

'Dydi o ddim jyst am ddynion'

Disgrifiad o’r llun,

Dr Bid Webb o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor

“Mae’n gallu bod yn waith eithaf peryglus,” meddai Emyr Williams, un o’r cyfarwyddwyr.

“Efallai fod pobol yn edrych am bethau rhwyddach i’w wneud, ond ry’n ni’n eithaf lwcus mae ganddo ni lot o bobol ifanc gyda ni a ni’n rhoi nhw gyda bois profiadol a rhoi nhw ar gyrsiau pan maen nhw gyda ni.”

Ond yn ôl Dr Bid Webb o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor dydi nifer o bobol ddim yn ymwybodol o’r ystod o yrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant coedwigaeth.

“Dydi pobol ddim yn gwybod be ydi coedwigaeth a pha fath o yrfaoedd sydd ar gael,” meddai.

“Dydi o ddim jyst am ddynion efo chainsaws. Mae yna lot mwy o gyfleoedd na hynny ar gael.

"Da ni angen pobol i reoli coedwigaeth a choeditiroedd mewn ffordd gynaliadwy i’r dyfodol, nid jyst plannu coed.”