Mwy o blant nag erioed yn cael eu haddysg yn y cartref

Meinir a'i merch Mali, sy'n derbyn addysg yn y cartref
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y plant yng Nghymru sy'n cael eu haddysg yn y cartref ar ei uchaf erioed, yn ôl ffigyrau newydd.
Yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf roedd y ffigwr yn 7,176.
Mae'r ffigyrau wedi cynyddu'n sylweddol dros y degawd diwethaf, yn enwedig ar ôl y pandemig.
Er mai mynychu'r ysgol sydd orau i'r rhan fwyaf o blant, meddai Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cydnabod yr hawl i addysgu gartref.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd12 Awst
Cafodd Mali, sy'n 15 oed o Fro Morgannwg, ddiagnosis o ddyslecsia ym mlwyddyn 7 wrth ddechrau'r ysgol uwchradd.
Dywedodd ei mam, Meinir, bod ei merch wedi ei chael hi'n anodd prosesu gwybodaeth yn raddol dros y blynyddoedd.
"O'n i ddim yn sylweddoli gymaint oedd hi'n stryglo," meddai.
"Jyst cyn y Nadolig fe wnaeth hi ddechrau cael panic attacks a dechrau cuddio yn y tai bach ac roedden ni'n cael galwadau gan yr ysgol yn dweud nad oedden nhw'n gwybod lle oedd hi."
Bryd hynny fe benderfynodd y teulu dynnu Mali allan o'r ysgol i gael ei haddysgu adref.
"Mae hi lot hapusach ac yn fwy hyderus," meddai Meinir. "Mae safon y gwaith wedi mynd lan ac mae hi'n deall pethau.
"Gydag un tiwtor a ni fel rhieni yn gallu esbonio stwff, mae hi'n deall.
"Yn yr ysgol ambell waith doedd dim amser i'r athrawon esbonio stwff mewn ffordd wahanol felly mae hwn yn ei siwtio hi."
15.3 o bob 1,000 o ddisgyblion
Yn 2014/15, roedd 1,399 o blant yn cael eu haddysgu gartref.
Yn 2018/19 - y flwyddyn cyn y pandemig - roedd y ffigwr yn 2,517.
Ond ym mlwyddyn academaidd 2024/25 roedd y ffigwr wedi codi i 7,176.
Cyfradd y disgyblion oedd yn cael addysg gartref dewisol yn 2024/25 oedd 15.3 o bob 1,000 o ddisgyblion.
Mae'r gyfradd yma wedi cynyddu bob blwyddyn ym mhob awdurdod lleol ers 2009/10, pan roedd yn 1.6 o bob 1,000 o ddisgyblion.
Ceredigion oedd â'r gyfradd uchaf - 32.6 o bob 1,000 o ddisgyblion - ac mae hynny wedi bod yn gyson ers 15 mlynedd.
Mae llai na 2% o blant Cymru yn derbyn eu haddysg yn y cartref.
Mae rhieni yn wirfoddol yn rhoi gwybod i'r awdurdod lleol os ydyn nhw'n addysgu eu plant adref, oni bai eu bod wedi eu tynnu allan o'r ysgol.
Mae'n golygu bod y nifer yn debygol o fod yn uwch.

Fe wnaeth Gavin a Kate Gibson sefydlu Crossroads, sy'n darparu addysg yn y cartref, yn 2024
Gŵr a gwraig ydi Gavin a Kate Gibson ac maen nhw'n ymgynghorwyr addysg.
Fe sefydlon nhw Crossroads, sy'n darparu addysg yn y cartref, yn 2024.
Ar ôl y pandemig, mae nifer mwy o blant yn dioddef o orbryder cymdeithasol, meddai Kate.
"Mae tua 97% o'n plant gydag anghenion dysgu ychwanegol.
"Mae ysgolion yn lefydd prysur ac ar ôl bod adref mewn tawelwch gan weithio ar gyflymder sy'n gyfforddus iddyn nhw, roedd mynd yn ôl i awyrgylch yr ysgol i nifer o'n plant sydd yn neurodiverse yn heriol iawn."
Dywedodd bod ysgolion yn ei chael hi'n gynyddol anodd i gefnogi plant gan fod y nifer sydd wedi cael diagnosis o anhwylder ar y sbectrwm awtistig ar gynnydd.

Mae rhai teuluoedd yn teimlo mai addysg gartref yw'r "unig opsiwn", yn ôl Rocio Cifuentes
Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru, mae rhai teuluoedd yn teimlo mai addysg gartref yw'r "unig opsiwn" oherwydd bod eu plant yn ei gweld hi'n anodd ymdopi yn yr ysgol.
"Yn aml, mae hyn yn gysylltiedig â materion fel iechyd meddwl, neu ddiffyg cefnogaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol," meddai Rocio Cifuentes.
"Rhaid i gyllid ac adnoddau ar gyfer ein system addysg fod yn flaenoriaeth allweddol er mwyn gallu gwneud yn siŵr bod plant yn derbyn y gefnogaeth gywir yn y meysydd yma."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cynnydd wedi bod yn nifer y rhai sy'n dewis addysgu eu plant gartref ers y pandemig.
"Er mai mynychu'r ysgol sydd orau i'r rhan fwyaf o blant, rydym yn cydnabod yr hawl i addysgu gartref," meddai llefarydd.
"Pan fydd teuluoedd yn penderfynu addysgu eu plant gartref, mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg addas."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.