Undeb yn beirniadu addewid Plaid Cymru am lyfrgelloedd ysgol

Plant mewn llyfrgellFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae addewid Plaid Cymru i roi llyfrgell ym mhob ysgol gynradd yn "gam gwag" ac yn "codi sgwarnogod", meddai undeb penaethiaid athrawon.

Wrth lansio'r polisi ddydd Mercher, dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Cefin Campbell, y byddai "gofod llyfrgell" ym mhob ysgol gynradd erbyn 2030 yn helpu gwella llythrennedd.

Ond yn ôl Laura Doel o undeb NAHT Cymru mae gan bob ysgol lyfrau, a'r ffordd o hybu llythrennedd oedd rhoi "staff ac athrawon safonol ac ymroddgar" i ddisgyblion.

Dywedodd Mr Campbell fod y polisi newydd yn ymateb i bryderon a godwyd, gan gynnwys gan yr NAHT, bod tanfuddsoddi mewn llyfrgelloedd yn cael effaith uniongyrchol ar arferion darllen plant.

Mae Plaid Cymru'n gyson yn gwneud cyhoeddiadau am bolisïau wrth i'r blaid geisio gwneud y mwyaf o'r polau piniwn sy'n awgrymu bod ganddyn nhw gyfle i ffurfio llywodraeth ar ôl etholiadau'r Senedd fis Mai.

Fis Gorffennaf roedd addewid i roi gwersi nofio am ddim i holl blant cynradd Cymru.

'Argyfwng llythrennedd'

Yn ôl Plaid Cymru, mae'r polisi llyfrgelloedd yn "rhan o gynllun ehangach i wella canlyniadau llythrennedd".

Ar ddechrau'r flwyddyn ysgol, mae Plaid Cymru'n tynnu sylw at safle Cymru ar dablau rhyngwladol PISA, lle mae Cymru yn olaf ymhlith gwledydd y Deyrnas Unedig.

Cefin CampbellFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

"Byddai gwarantu llyfrgell ym mhob ysgol gynradd yn gam pwysig tuag at godi lefelau llythrennedd" meddai Cefin Campbell

Dywedodd Cefin Campbell fod "ymchwil yn dangos bod mynediad at lyfrgelloedd ysgolion yn hybu darllen ymhlith plant, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig," ond bod Llafur "wedi methu â darparu'r gefnogaeth hanfodol hon".

"Byddai gwarantu llyfrgell ym mhob ysgol gynradd yn gam pwysig tuag at godi lefelau llythrennedd.

"Mae'r prosiect hwn yn un o gyfres o gynlluniau mae Plaid Cymru'n bwriadu eu lansio dros y misoedd nesaf er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng llythrennedd yng Nghymru," ychwanegodd.

Laura Doel
Disgrifiad o’r llun,

"Mae llyfrgelloedd ymhell lawr y rhestr o flaenoriaethau i'r rhan fwyaf o ysgolion" meddai Laura Doel

Ond mae undeb addysg NAHT Cymru wedi beirniadu'r polisi gan ddweud: "Mae mynediad at lyfrau'n bwysig iawn i blant, gyda digon o dystiolaeth ei fod yn cael effaith bositif ar lythrennedd.

"Ond mae gan bob ysgol gynradd fynediad at lyfrau, felly mae ffocws Plaid Cymru ar ofodau llyfrgell penodol yn ymddangos fel eu bod yn codi sgwarnogod."

Ychwanegodd Laura Doel, "gyda chymaint o ofynion brys ar gyllid ysgolion - yn cynnwys costau sy'n cynyddu'n gyflym, adeiladau angen eu hadnewyddu, a mwyfwy o blant gydag anghenion dysgu ychwanegol - yn anffodus mae llyfrgelloedd ymhell lawr y rhestr o flaenoriaethau i'r rhan fwyaf o ysgolion.

"Yn y bôn, y ffordd orau o hybu llythrennedd ydy sicrhau bod gan bob plentyn athrawon a staff safonol ac ymroddgar o'u blaenau.

"Mae unrhyw bolisi sy'n dargyfeirio cyllid oddi wrth bethau sylfaenol fel hyn yn gam gwag."

Sut mae Plaid Cymru wedi ymateb i'r feirniadaeth?

Dywedodd Mr Campbell fod y blaid wedi "ymrwymo i wella llythrennedd" drwy "leoedd gwell, adnoddau gwell, a chefnogaeth gryfach i athrawon".

"Mae'r polisi hwn yn gam ymarferol, fforddiadwy tuag at y nod hwnnw, ac mae'n rhan o becyn ehangach o gynigion addysg y byddwn yn eu cyhoeddi cyn etholiad Senedd y flwyddyn nesaf," meddai.

"Mae polisi llythrennedd a llyfrgelloedd ysgolion Plaid Cymru hefyd yn ymateb yn uniongyrchol i'r pryderon a godwyd, gan gynnwys gan yr NAHT, bod tanfuddsoddi mewn llyfrgelloedd yn cael effaith uniongyrchol ar arferion darllen plant.

"Y llynedd, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol yr NAHT mai testun 'pryder' oedd bod llai o rieni yn darllen i'w plant, gan nodi toriadau i wasanaethau cymunedol a llyfrgelloedd fel ffactor sy'n cyfrannu at hynny.

"Mae Estyn a chyrff arbenigol eraill hefyd wedi tynnu sylw'n gyson at yr angen am ymyriadau wedi'u targedu i wella canlyniadau darllen a meithrin diwylliant darllen cryfach yn ysgolion Cymru.

"Mae tystiolaeth gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol yn dangos bod hon yn ymyrraeth sy'n gweithio."