'Endometriosis yn gorfodi pobl i newid gyrfa'

Dee Montague-Coast
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dee Montague-Coast ddiagnosis o endometriosis yn 2018 ar ôl profi symptomau am 23 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae un fenyw yn dweud bod yr oedi am ddiagnosis o'r cyflwr endometriosis yn gallu gorfodi pobl i newid gyrfaoedd oherwydd nad ydyn nhw'n ymwybodol bod ganddyn nhw'r cyflwr.

Er mwyn derbyn diagnosis o endometriosis, rhaid cael llawdriniaeth ymledol.

Gallai gymryd rhwng wyth i 10 mlynedd ar gyfartaledd i dderbyn y llawdriniaeth yma o'r pwynt cyswllt cyntaf gyda meddyg.

Nawr mae adnodd i adrodd symptomau, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi'i ddatblygu gan academyddion o Gaerdydd gyda'r nod o dynnu sylw darparwyr gofal iechyd at batrymau symptomau.

Cafodd Dee Montague-Coast, 41 oed o Gasnewydd, ddiagnosis o endometriosis yn 2018 ar ôl profi symptomau am 23 mlynedd.

Penderfynodd adael swydd ym maes marchnata ar ôl i gwestiynau gael eu codi gan gyn-gydweithwyr ynghylch ei symptomau.

"Rwy' wedi cael pobl yn meddwl fy mod i'n trio denu sylw, fy mod i'n gwneud pethau i fyny, fy mod i efallai ychydig yn wan neu ychydig yn pathetig," ychwanegodd.

Roedd ei hamser i ffwrdd o'r gwaith i reoli ei symptomau a'i phoen wedi arwain at wrandawiad presenoldeb.

"O'n i'n teimlo mod i'n cael fy nhrin yn yr un ffordd â rhywun oedd yn berffaith iach," meddai.

Tracio symptomau

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Robyn Jackowich wedi bod yn gweithio ar ddatblygiad yr adnodd symptomau

Mae endometriosis yn gyflwr gynaecoleg sy'n gysylltiedig â'r mislif ac nid oes gwellhad ohono.

Nawr mae academyddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghaerdydd wedi datblygu adnodd i adrodd symptomau ar gyfer y sefydliad Endometriosis Cymru.

Dywedodd Dr Robyn Jackowich, darlithydd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd bod modd defnyddio'r adnodd i dracio "pum symptom allweddol o endometriosis bob dydd, lle bydd claf yn graddio lefel dwyster poen pob symptom a'r effaith mae hynny'n ei gael ar eu bywyd".

"Rydym yn argymell gwneud hynny am tua dau fis," meddai Dr Jackowich.

"O'r fan honno, gallwch gynhyrchu adroddiad byr sy'n crynhoi'r wybodaeth honno ac yn graffio eich symptomau, er mwyn rhannu gyda'ch darparwr gofal iechyd neu'ch cyflogwr."

'Golwg cul o anableddau'

Fe wnaeth Dee rhoi tystiolaeth ym mis Tachwedd, i Ymchwiliad Anabledd a Chyflogaeth y Senedd, a oedd â'r nod o werthuso beth arall y gellid ei wneud i leihau rhwystrau i gyflogaeth sy'n wynebu pobl anabl.

"Pan ddechreuon ni archwilio addasiadau rhesymol, doeddwn i ddim yn deall fy mod i'n anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, nac yn gwybod fy mod i'n cael galw fy hun yn anabl."

Dywedodd Dee. "Mae gennym ni olwg mor gul o beth yw anabledd, a sut mae'n edrych."

Cafodd Model Cymdeithasol o Anabledd ei fabwysiadu'n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru yn 2002, ond mae Dee yn dweud bod "gormod o gyflogwyr o hyd sydd ddim yn gwybod amdano".

Nid yw endometriosis fel cyflwr cronig yn gymwys fel anabledd o dan gyfraith cydraddoldeb - ond gallai person sy'n byw gydag endometriosis gael ei anablu gan y cyflwr - ac mae'r gyfraith yn derbyn hyn.

Mae symptomau endometriosis sy'n gwaethygu dros amser fel 'cyflwr blaengar' hefyd yn dod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae sefydliadau fel Endometriosis UK wedi creu dogfennau ar hawl gweithwyr i weithio - a choladu rhestrau o 'gyflogwyr cyfeillgar endometriosis' ledled y wlad.

Mae gan Karen Hiu Ching Lo, is-gadeirydd Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW), endometriosis hefyd ac yn aml yn colli darlithoedd fel myfyriwr meddygol yng Nghaerdydd, oherwydd ei symptomau.

"Yr hyn ry'n ni'n ceisio ei wneud, yw gwneud i bobl sylweddoli y gallai hyn i gyd fod yn un cyflwr, ac mai'r cyfan oedd ei angen arnoch chi oedd atgyfeiriad at y person cywir," meddai.

"Pan fyddwn yn siarad â gweithwyr iechyd proffesiynol gallai llawer o'n profiadau deimlo'n annilys. Rydym am i'r offeryn hwn allu grymuso cleifion, a hefyd gallu arwain meddygon teulu."

Mae Dee bellach yn gweithio gyda FTWWW, gan ddefnyddio ei phrofiad i gefnogi aelodau sy'n defnyddio'r adnodd.

Dywedodd pe bai wedi bodoli ar adeg ei diagnosis, gallai fod wedi arbed mwy na dau ddegawd o boen difrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Rydym yn ymwybodol o'r effaith y gall oedi mewn diagnosteg ar gyfer cyflyrau iechyd menywod ei chael ar gleifion ac fel rhan o'r cynllun gweithredu endometriosis ar y cyd rydym wedi ymrwymo i gefnogi cleifion i gael mynediad at gymorth sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn modd amserol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r adnodd adrodd ar symptomau yn galluogi menywod i olrhain eu symptomau a chyfathrebu'n hawdd â gweithwyr proffesiynol, a thrwy hynny wella profiadau i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol."

Pynciau cysylltiedig