'Angen adolygiad' o driniaethau pigiadau estheteg yng Nghymru

Menyw yn cael pigiad yn ei hwynebFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon am y ffordd mae gwasanaethau pigiadau estheteg yn cael eu darparu, a'r effaith ar ddiogelwch cleifion

  • Cyhoeddwyd

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi galw am adolygiad o'r diwydiant triniaethau estheteg sy'n defnyddio pigiadau.

Yn ôl AGIC, mae bylchau yn y gyfraith yn golygu nad yw pob ymarferydd sy'n cynnig pigiadau fel Botox, fillers a meddyginiaethau colli pwysau yn cael yr un lefel o oruchwyliaeth.

Mae'r arolygiaeth yn codi pryderon am y ffordd mae gwasanaethau pigiadau estheteg yn cael eu darparu, a'r effaith ar ddiogelwch cleifion.

Dywedodd prif weithredwr AGIC, Alun Jones, fod angen adolygiad cynhwysfawr o'r mathau o wasanaethau sydd ar gael, pwy sy'n eu cynnig a ble.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai dim ond gyda phresgripsiwn gan ymarferydd iechyd proffesiynol y gall rhywun gael meddyginiaethau colli pwysau a Botox, a bod yn rhaid i'r staff hynny weithredu o fewn y safonau sy'n cael eu gosod gan eu cyrff rheoleiddio.

Beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd?

Yn Lloegr, mae'n rhaid i unrhyw un sy'n rhagnodi meddyginiaethau fel Botox neu Ozempic gofrestru gyda'r Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC).

Ond yng Nghymru, dim ond meddygon sy'n gorfod cofrestru gyda'r arolygiaeth gyfatebol.

Yn ôl AGIC, gall rhai ymarferwyr fod heb lawer o hyfforddiant, ac felly ddim yn barod i ymdrin ag argyfwng meddygol os bydd adwaith i'r pigiad.

Alun Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Jones yn galw am adolygiad cynhwysfawr o'r mathau o wasanaethau sydd ar gael, pwy sy'n eu cynnig a ble

Dywedodd Alun Jones fod "y gyfraith sy'n ein galluogi ni i weithredu yn eithaf hen ffasiwn".

Pwysleisiodd hefyd fod anghysondeb arall yn y gyfraith, gan mai dim ond gwasanaethau o leoliad sefydlog sydd angen eu cofrestru.

Dywedodd bod modd felly cynnig "rhai gwasanaethau'n symudol heb orfod cofrestru gyda ni – ac nid yw hynny'n helpu".

Marc Hamilton
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Marc Hamilton, perchennog The Maintenance Clinic ym Mhorthaethwy, radd mewn gwyddorau meddygol

Mae Marc Hamilton, perchennog The Maintenance Clinic ym Mhorthaethwy, yn pwysleisio bod diogelwch cleifion wrth wraidd ei waith estheteg.

Mae gan Marc radd mewn gwyddorau meddygol, ac mae'n dweud y byddai'n hoff o weld isafswm yn cael ei osod o ran cymwysterau a hyfforddiant, cyn bod modd cynnig rhai triniaethau.

Dywedodd nad yw'n ceisio atal pobl rhag rhoi a chael triniaethau, ond ei fod eisiau gweld "bod pobl o leiaf efo certain level o qualification, a minimum standards o ran training".

"Dwi'n meddwl bod y diwydiant wedi mynd mor fawr - mae'r triniaethau 'ma mor accessible - a mae pobl yn meddwl 'dwi isio dechrau gwneud hynna, mae o'n edrych yn rili lucrative'.

"Mae lot o bobl yn 'neud o [gweithio pethau yn y ffordd gywir] ond fel unrhyw ddiwydiant, mae 'na bobl sy' ddim yn 'neud o fel dylsen nhw - maen nhw'n torri corneli, defnyddio products sydd ddim yn licensed yn y UK."

'Codi safonau a chadw'n saff'

Os na fydd rheoleiddio yn cael ei gryfhau, mae Marc yn ofni y bydd "lot mwy o complications yn codi" yn y dyfodol.

"Pobl ella ddim yn gweithio yn y ffordd dylsen nhw, ecsploetio loopholes, ddim yn gweithio efo medical professionals.

"Ar ddiwedd y dydd, mae o jest am amddiffyn y cleient."

Dywedodd ei fod hefyd eisiau gweld hi'n orfodol i unrhyw staff sydd ddim yn cael rhoi presgripsiwn i weithio gyda rhywun mwy profiadol, sydd yn cael rhoi presgripsion - fel bod rhywun sydd â'r hyfforddiant priodol yn bresennol pe bai rhywbeth yn mynd o'i le.

"Mae lot o bobl yn cael y triniaethau 'ma. Maen nhw'n mynd i gael nhw regardless, ond mae o jest am godi safonau a 'neud yn siŵr bod pawb yn cadw'n saff."

Tan fod hynny'n digwydd, dywedodd Marc ei fod yn annog unrhyw un sy'n mynd i gael triniaeth o'r fath ydy i "beidio bod ofn gofyn be' ydy qualifications rhywun".

"Os dydyn nhw ddim yn prescribio, pwy sydd yn prescribio'r driniaeth yna? Dylech chi weld y person yna wyneb-i-wyneb cyn bob triniaeth sydd angen presgripsiwn, fel Botox."

but has become more aware of the lack of regulation surrounding many of the trending products
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lizzie Day ei bod wedi dod yn fwy ymwybodol o'r lefelau gwahanol o oruchwyliaeth o fewn y diwydiant triniaethau estheteg

Mae Lizzie Day, 30, yn cael triniaeth Botox ym Mro Morgannwg, ac roedd hi hefyd yn arfer cael triniaethau "toddi braster", cyn i ffrind sy'n feddyg godi pryder gyda hi am driniaethau o'r fath.

Dywedodd Lizzie nad oedd hi'n hollol sicr beth oedd yn cael ei roi iddi, ond bod yr hyn mae'r diwydiant yn hawlio yn gallu bod yn ddeniadol.

"Mae'n drend, yn debyg i ffasiwn – os yw pawb yn prynu'r un bag, mae'n dod yn boblogaidd, a byddwn i'n dweud bod yr un peth yn wir am estheteg."

Lydia Cheetham
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lydia Cheetham ei bod yn teimlo fod angen "llawer mwy o reoleiddio" ar y diwydiant

Yn achos Lydia Cheetham o Benarth, dechreuodd gael fillers yn ei gwefusau pan oedd hi'n 18 oed, ond bu'n rhaid iddi gael gwared arnyn nhw ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.

Mae hi'n dweud ei bod hi'n dal i fyw gyda'r effaith barhaol o amgylch ei cheg, ac nid yw'n siŵr a fydd hynny byth yn diflannu'n llwyr.

Dywedodd Lydia fod angen "llawer mwy o reoleiddio i atal pobl rhag gwneud pethau oherwydd eu bod yn trendio, neu oherwydd bod ffrindiau wedi gwneud".

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai dim ond gyda phresgripsiwn gan ymarferydd iechyd proffesiynol y gall rhywun gael meddyginiaethau colli pwysau a Botox, a bod rhaid i'r staff hynny weithredu o fewn y safonau sy'n cael eu gosod gan eu cyrff rheoleiddio.

"Gall methiant i gyrraedd y safonau hynny arwain at reoleiddwyr i gyfyngu ar, neu wahardd practis yr ymarferydd iechyd," meddai llefarydd.

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cyflwyno cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer triniaethau fel tatŵs, gwneud tyllau yn y corff ac aciwbigo.

Dywedodd y llefarydd y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud yn ystod y flwyddyn nesaf i ystyried a oes angen rheoleiddio ychwanegol ar weithdrefnau fel Botox a meddyginiaethau colli pwysau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig