Wynebau newydd i Gymru i herio Awstralia yng ngêm olaf Fishlock

Chwaraewraig canol cae Cymru Jess Fishlock a baner CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does neb wedi ennill mwy o gapiau na sgorio fwy o goliau dros Gymru na Jess Fishlock

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd gyrfa ryngwladol seren Cymru, Jess Fishlock yn dod i ben mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Awstralia y mis hwn, wrth i wyth o chwaraewyr ddechrau ar eu taith nhw.

Mae'r rheolwraig Rhian Wilkinson wedi cynnwys wyth o chwaraewyr sydd eto i ennill cap yn ei charfan o 26 ar gyfer y ddwy gêm gyfeillgar yn erbyn Y Matildas ar 25 Hydref 25 (14:00) yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac yna'n erbyn Gwlad Pwyl ar 28 Hydref (19:45).

Ddydd Mercher, fe gyhoeddodd Fishlock y bydd hi'n ymddeol o bêl-droed rhyngwladol wedi'r gêm yn erbyn Awstralia.

Dyma fydd cap rhif 166 iddi, ac fe fydd hi'n gobeithio ychwanegu at ei record o goliau dros Gymru, sy'n sefyll ar 48 ar hyn o bryd.

Disgrifiad,

Gwyliwch rai o goliau pwysicaf Jess Fishlock i Gymru

Yn ystod ei gyrfa lewyrchus, buodd Fishlock, sy'n 38 oed, yn chwarae i glwb Melbourne Victory – gan eu helpu nhw i sicrhau'r dwbl drwy ennill yr Uwch Gynghrair a'r Bencampwriaeth.

Mae'n addas felly y bydd hi yng nghanol yr holl sylw pan fydd timau menywod Cymru ac Awstralia yn wynebu ei gilydd am y tro cyntaf erioed yr wythnos nesaf.

Ni fydd Fishlock yn rhan o'r garfan wedi'r gêm yn erbyn Awstralia – ac fe fydd Wilkinson heb sawl un arall i wynebu Gwlad Pwyl.

Oherwydd anafiadau fe fydd saith chwaraewr oedd yn rhan o'i charfan ar gyfer yr Euros eleni yn absennol - Josie Green, Ella Powell, Rhiannon Roberts, Lily Woodham, Rachel Rowe, Esther Morgan a Soffia Kelly – sydd eto i ennill cap er iddi gael ei chynnwys yn y garfan i'r Euros.

Mae lle felly i gynnwys Mia Ross, Annie Wilding, Gwen Zimmerman, Scarlett Hill ac Amy Richardson yn y garfan am y tro cyntaf, gyda Poppy Soper, Teagan Scarlett a Tianna Teisar yn gobeithio am eu capiau cyntaf.

Fe gyhoeddodd blaenwr Cymru Kayleigh Barton ei hymddeoliad hi o bêl-droed fis Awst eleni. Yr ymgyrch ryngwladol hon fydd y gyntaf i Gymru hebddi.

Carfan Cymru

Olivia Clark (Caerlŷr), Safia Middleton-Patel (Manchester United), Poppy Soper (Rugby Borough), Ceri Holland (Lerpwl), Amy Richardson (Celtic), Annie Wilding (Portsmouth), Anna Filbey (Watford), Hayley Ladd (Everton), Gemma Evans (Lerpwl), Gwen Zimmerman (Eclipse Select Soccer), Charlie Estcourt (DC Power), Teagan Scarlett (Arsenal), Sophie Ingle (Bristol City), Alice Griffiths (Rangers), Mia Ross (Charlton Athletic), Angharad James (Seattle Reign), Scarlett Hill (Manchester United), Lois Joel (Newcastle United), Jess Fishlock (Seattle Reign), Carrie Jones (IFK Norrköping), Tianna Teisar (Plymouth Argyle – ar fenthyg o Bristol City), Mared Griffiths (Manchester United), Hannah Cain (Caerlŷr), Ffion Morgan (West Ham United), Elise Hughes (Crystal Palace), Mary McAteer (Charlton Athletic).