Dylai mewnforio a gwerthu ffwr newydd gael ei wahardd - AS

Mae un siop sy'n gwerthu dillad ffwr vintage yn dweud bod y galw'n cynyddu
- Cyhoeddwyd
Mae AS o Gymru yn galw am wahardd ffwr newydd sy'n cael ei fewnforio a'i werthu yn y DU.
Er bod ffermio ffwr wedi'i wahardd yng Nghymru a Lloegr ers 2000, mae llawer o fathau o ffwr yn dal i gael eu mewnforio a'u gwerthu'n gyfreithlon.
Mae Ruth Jones, AS Llafur dros Orllewin Casnewydd ac Islwyn, wedi cyflwyno Bil Aelod preifat i'r Senedd a fyddai'n gwahardd mewnforio a gwerthu cynhyrchion ffwr newydd.
Dywedodd y British Fur Trade Association (BFTA) y byddai'r gwaharddiad yn "anymarferol ac na fyddai modd ei orfodi" ac efallai y bydd yn torri cytundebau masnach gyda'r UE a'r Unol Daleithiau.

Mae Ruth Jones yn galw am waharddiad ar fewnorio a gwerthu ffwr newydd
Dywedodd Ms Jones: "Ugain mlynedd yn ôl fe benderfynodd llywodraeth Lafur wahardd ffermio ffwr gan ei fod yn greulon ac yn annynol.
"Os ydyn ni'n credu ei fod yn greulon ac annynol i'w ffermio, yna pam ydyn ni'n ei fewnforio? Dyw e ddim yn gwneud synnwyr" meddai.
Ychwanegodd: "Mae anifeiliaid mewn cewyll yn cael eu cadw o dan amodau ofnadwy ac annynol i ddarparu ffwr ar gyfer diwydiant sy'n dirywio.
"Fe allai ffwr ffug wneud y tro" meddai.
Mae ymgyrchwyr lles anifeiliaid wedi cefnogi'r bil.
Yn ddiweddar, cyflwynodd Sonul Badiani-Hamment, Cyfarwyddwr y DU ar gyfer yr elusen FOUR PAWS, ynghyd ag ymgyrchwyr eraill, ddeiseb gydag 1.5 miliwn o lofnodion o blaid Prydain heb ffwr.
"Does dim modd cyfiawnhau'r creulondeb mae'r anifeiliaid yma'n wynebu ar ffermydd ffwr," meddai.
"Mae gwlad ar ôl gwlad yn gadael y farchnad. Yn ddiweddar, fe ymrwymodd Sweden i ddadgomisiynu'r fasnach ffwr yn gyfan gwbl."
Dywedodd bod y British Fashion Council wedi mynychu un o ddigwyddiadau'r grŵp ymgyrchu yn y senedd i gefnogi'r mesur arfaethedig.

Mae Mel Kaplan yn dweud bod ffwr vintage yn gynaliadwy
Dywedodd Ms Badiani-Hamment hefyd ei bod wedi sylwi bod y diwydiant ffasiwn yn newid ac "ychydig iawn o ddylunwyr sydd ar ôl yn y wlad sy'n trin ffwr."
Ond yn ôl Mel Kaplan, sy'n gweithio yn Vintage Fur Garden yn Llundain, mae'r galw am ffwr yn tyfu.
"Mae pobl yn ciwio allan o'r drws yn y gaeaf," meddai. "Dros y tair blynedd diwethaf, mae ton newydd o gefnogaeth wed bod am ffwr vintage.
"Rwy'n credu bod pobl iau yn arbennig yn edrych mwy at ddillad vintage yn gyffredinol. Rwy'n credu bod ffasiwn cyflym wedi lleihau mewn poblogrwydd."
Mae ffyrwyr yn y DU yn gwerthu amrywiaeth o ffwr sydd wedi'i fewnforio o wledydd eraill.
Mae mewnforio neu allforio ffwr cathod a chŵn, a chynhyrchion sy'n cynnwys eu ffwr, eisoes wedi'i wahardd.
Mae yna waharddiad hefyd ar werthu ffwr cathod a chŵn yn y DU.
Yn ôl Ms Kaplan mae'r holl gotiau a siacedi yn eu siop o'r 1950au, 60au, 70au ac 80au.
'Mae ffwr yn boblogaidd'
Ychwanegodd Ms Kaplan fod gan y siop broses drylwyr i sicrhau bod yr hyn y maen nhw'n ei werthu yn vintage ac nid ffwr newydd.
Dywedodd hefyd nad oedd hi'n cefnogi creu, ffermio na gwerthu ffwr newydd "ond gallaf gefnogi darn sydd eisoes wedi'i wneud gyda'r bwriad o'i wisgo er mwyn iddo allu barhau i gael ei wisgo".
Mewn datganiad, fe rybuddiodd y BFTA y gallai gwaharddiad arwain at filoedd o swyddi medrus yn cael eu colli ym Mhrydain.
"Mae safonau yn y sector ffwr ymhlith yr uchaf o unrhyw fath o sector magu anifeiliaid" meddai'r gymdeithas.
"Mae ffwr yn boblogaidd, fel sy'n cael ei ddangos gan nifer y bobl ifanc sy'n dewis ei wisgo ac sy'n gwrthod ffasiynau cyflym sy'n seiliedig ar olew ac sy'n aml yn cael eu creu mewn amodau siop chwys," meddai.
"Fe ddylai ASau fel Ruth Jones barchu bod eraill yn hapus i wisgo ffwr".
Mae disgwyl i ail ddarlleniad y mesur ddigwydd yn y Senedd ar 4 Gorffennaf.
Yn y cyfamser, dywedodd llywodraeth y DU eu bod yn adeiladu "sylfaen dystiolaeth glir i lywio camau gweithredu yn y dyfodol", ac mae strategaeth lles anifeiliaid wedi'i diweddaru er mwyn ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd21 Medi 2024