Y sêr pêl-droed a chwaraeodd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

O Frank Lampard i John Aldridge, mae yna draddodiad balch o sêr y byd pêl-droed yn bwrw'u prentisiaeth gyda thimau pêl-droed Cymru.

Ond fel esbonia Gareth Rhys Owen bydd rhai o sêr mwyaf disglair y gêm yn cofio'u cyfnod yng Nghymru gydag atgofion melysach nag eraill.

Ben White: Casnewydd

Ben White yn brwydro yn erbyn Enzio BoldewijnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

White yn brwydro yn erbyn Boldewijn o Crawley Town am y bêl yn Ionawr 2018

Cafodd amddiffynnwr Arsenal fedydd tân yng Nghymru pan ymunodd ar fenthyg yn 2017.

Roedd White eisoes wedi chwarae dwy waith i dîm cyntaf Brighton, ond mae'n cyfaddef i'r profiad o chwarae yn Rodney Parade gael effaith fawr ar ei yrfa.

Chwaraeodd White 51 o weithiau i'r Alltudion gan ennill gwobr chwaraewr y tymor gyda'r clwb.

Viktor Gyökeres: Abertawe

Viktor GyökeresFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol o Sweden, cafodd Gyökeres dymor siomedig gyda'r Elyrch

Mae'n bur debygol y bydd Viktor Gyökeres yn serennu yn Uwchgynghrair Lloegr y tymor nesaf gydag adroddiadau dyddiol y bydd yn ymuno â Manchester United.

Mae record yr ymosodwr gyda'r clwb Sporting Lisbon wedi bod yn syfrdanol wrth iddo sgorio 42 o goliau mewn 42 gêm.

Mae hyn yn wrthgyferbyniad llwyr â'i gyfnod ar fenthyg gydag Abertawe pan fethodd â sgorio'r un gôl mewn 11 ymddangosiad yn ôl yn nhymor 2020-21.

Harry Wilson: Caerdydd

Harry WilsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn un o chwaraewyr blaenllaw y tîm cenedlaethol, roedd Wilson yn chwarae i Cardiff City ar un adeg

Bellach yn chwaraewr allweddol i Gymru a Fulham, mae'n hawdd anghofio i Wilson dreulio tymor ar fenthyg gyda Chaerdydd.

Yr Adar Gleision oedd y pumed clwb i'r Cymro ymuno gyda nhw ar fenthyg o Lerpwl, a chwaraeodd ran allweddol yn ymgyrch y clwb yn y bencampwriaeth.

Wedi Caerdydd aeth ar fenthyg i Fulham cyn cwblhau trosglwyddiad llawn i Craven Cottage.

Antoine Semenyo: Casnewydd

Antoine SemenyoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Semenyo mewn gêm yn erbyn Leicester City yn 2018

Bydd unrhyw un sy'n chwarae gêm Fantasy Premier League yn ymwybodol o werth ymosodwr Bournemouth Antoine Semenyo.

Treuliodd Semenyo dymor yn Rodney Parade yn 2018 ar fenthyg o Bristol City.

Wedi ei eni a'i fagu yn Llundain, mae e bellach yn cynrychioli Ghana.

Marc Guéhi: Abertawe

Marc GuéhiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Guéhi sylfaen dda yn chwarae i'r Elyrch

Roedd Marc Guéhi eisoes yn enw adnabyddus cyn camu ar y cae yn Wembley fis diwethaf, ac roedd y ffaith mai ef - yn 24 oed - gafodd yr anrhydedd o godi tlws cwpan FA Lloegr yn cadarnhau ei fod yn un o amddiffynwyr mwyaf uchel ei barch yn y gamp.

O Chelsea ymunodd Guéhi â'r Elyrch ar fenthyg ac roedd ei berfformiadau gyda'r Elyrch yn ddigon i ddarbwyllo Crystal Palace i dalu £18 miliwn am ei wasanaeth.

Yn ogystal ag arwain Palace mae e bellach yn rhan allweddol o amddiffyn Lloegr.

Conor Gallagher: Abertawe

Conor GallagherFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gallagher yn chwarae i dîm cyntaf Lloegr ers diwedd 2021

O Chelsea i Atletico Madrid via Abertawe; dyna siwrne chwaraewr canol cae Lloegr, Conor Gallagher.

Roedd Gallagher wedi treulio hanner cyntaf tymor 2019/20 ar fenthyg gyda Charlton cyn iddo symud yn annisgwyl i Abertawe.

Roedd yn llwyddiant mawr fel aelod o dîm Steve Cooper, yn creu mwy o goliau nag unrhyw chwaraewr arall, gan ddweud bod ei gyfnod gyda'r Elyrch wedi cael dylanwad mawr ar ei yrfa.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.