Y bêl gron a'r bêl hirgron: Talent dwy gamp Brett Davey

Brett DaveyFfynhonnell y llun, Brett Davey/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pêl-droed neu rygbi...?

  • Cyhoeddwyd

Gareth Rhys Owen sy’n olrhain hanes y Cymro a gyflawnodd y gamp unigryw o chwarae mewn cystadlaethau Ewropeaidd mewn pêl-droed a rygbi, Brett Davey.

Ymosodwr Milan a Chefnwr Ponty

Yn 2002 roedd Jon Dahl Tomasson ar ben ei ddigon. Newydd ei enwebu yn chwaraewr mwyaf disglair Denmarc, roedd ar fin dechrau’r daith i hawlio tlws pwysica’r byd pêl-droed: Cynghrair y Pencampwyr gyda’i glwb AC Milan.

Yn yr un flwyddyn roedd Brett Davey o bentref bach Beddau yn ymbaratoi ar gyfer rownd derfynol Ewropeaidd ei hun. Roedd ei glwb Pontypridd ar fin wynebu Sale yn rownd derfynol tlws Parker Pen. Wythnos yn gynharach, Davey oedd seren y gêm wrth i Ponty drechu Llanelli o flaen torf o 40,000 yn Stadiwm y Mileniwm.

Ond pam sôn am gefnwr clwb rygbi Pontypridd ac ymosodwr clwb pêl-droed AC Milan yn yr un drafodaeth? Wel y gwirionedd yw i’r ddau wynebu ei gilydd ar gae chwarae mewn gêm gystadleuol Ewropeaidd saith blynedd ynghynt.

Ton Pentre v SC Heerenveen 30/6/1995

Mae’n annhebygol y byddai Jon Dahl Tomasson yn nodi buddugoliaeth SC Heerenveen ym Mharc yr Arfau fis Mehefin 1995 fel un o uchafbwyntiau ei yrfa.

Roedd Tomasson yn 18 oed ac yn un o’r rhai a rwydodd y bêl wrth i’r clwb o’r Iseldiroedd chwalu Ton Pentre o saith i ddim.

O edrych ar restr timau’r gêm, prin iawn yw’r enwau sy’n tynnu sylw, heblaw am Tomasson ac ymosodwr Ton Pentre, Brett Davey.

Ffynhonnell y llun, Brett Davey
Disgrifiad o’r llun,

Brett Davey â meddiant yn ystod gêm Ton Pentre yn erbyn SC Heerenveen yn 1995

“Roedd yn amlwg bod gan Tomasson dalent,” meddai Davey, “ond roedden nhw’n dîm proffesiynol, tra bo’ ni mond yn ymarfer unwaith yr wythnos. Roedden nhw gymaint gwell na ni.”

Y natur amaturaidd hwnnw a alluogodd Brett Davey i chwarae dwy gamp ar yr un pryd, wrth rannu ei amser, bryd hynny, rhwng Ton Pentre a chlwb rygbi Caerffili a oedd ym mhrif adran rygbi Cymru.

Fe fyddai’n chwarae pêl-droed ganol wythnos a rygbi ar y penwythnos.

Dewis anodd

Fe chwaraeodd Davey bedair gêm i Don Pentre yn Ewrop, ond yn fuan daeth yn anochel bod rhaid blaenoriaethu un gamp. Fe drodd at rygbi, ac er iddo brofi mwy o lwyddiant a hawlio mwy o sylw gyda’r bêl hirgron, mae Davey yn grediniol hyd heddiw ei fod yn bêl-droediwr gwell.

“Y gwirionedd oedd bod y League of Wales yn hawdd i mi,” meddai Davey. “Dwi’n cofio sgorio dwy gôl yn erbyn Bangor a’u rheolwr nhw, Graham Sharpe, yn holi ein rheolwr ni, ‘Pwy yw’ch ymsodwr?’ Dyma’n rheolwr ni yn ateb ‘Brett Davey, mae’n chwarae rygbi hefyd’. Doedd Sharp yn methu credu ei glustiau.

“Fe benderfynais i ganolbwyntio ar rygbi a Chaerffili,” ochneidia Davey. “Roedd yn anodd. I fod yn onest tase clwb o gynghrair Lloegr wedi cynnig cyfnod prawf i mi, basen i ‘di rhoi’r gorau i rygbi.”

Cafodd Davey yrfa lewyrchus dros ben ar y meysydd rygbi. Roedd yn giciwr o fri, yn torri nifer o recordiau’r gynghrair gan gynnwys cyfanswm o 393 pwynt mewn un tymor i Bontypridd. Cafodd ei ddewis i dîm A Cymru a daeth o fewn trwch blewyn i ennill cap lawn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Brett Davey yn trosi cais yn ystod gêm fuddugol Pontypridd yn erbyn Llanelli yn Stadiwm y Mileniwm yn 2002

Hyd heddiw mae rhan ohono yn difaru peidio dilyn gyrfa mewn pêl-droed, ond mae’n hynod o falch ei fod wedi chwarae mewn cystadlaethau Ewropeaidd proffesiynol yn y byd rygbi a phêl-droed.

“Cyn belled fy mod i’n gwybod, does neb ’di cyflawni beth wnes i. Dwi wrth fy modd gyda chwaraeon yn gyffredinol ac mae cyrraedd y lefel wnes i mewn dwy gamp yn dipyn o beth. Dwi’n ofnadwy o falch o beth wnes i,” medd Davey yn mwynhau’r sylw. “Prin dwi’n cael y cyfle i siarad am hyn ac mae’n beth braf.”

Atgofion

Wrth hel atgofion am ei uchafbwyntiau, mae ei ymdrech yn y rownd derfynol honno yn 2002 yn uchel ar y rhestr, ond mae’r noson yn erbyn Heerenveen hefyd yn atgof melys. Nid y gêm (er ei fod yn mynnu y dylai fod wedi sgorio dwy gôl) ond yn hytrach y noson wedi’r chwiban olaf.

“Fe adawodd pob aelod arall o’r tîm yn fuan wedi newid ond fe arhoses i yng Nghaerdydd i fynd allan gyda’r chwaraewyr o’r Iseldiroedd.” Mae yna dinc drygionus i’w lais.

“Ces i, Jon Dahl a’i gyd-chwaraewyr noson a hanner. Aeth hi’n hwyr ac yn llanast. ’Nes i ddysgu’r noson honno ein bod ni mor debyg fel pobl.”

Tebyg falle, ond does neb arall o’r criw detholedig hwnnw yn medru brolio’r hyn a gyflawnodd Brett Davey.

Pynciau cysylltiedig