Dau Gymro yn cipio gwobrau Oscar yn Los Angeles

Lol Crawley o Bowys yn ennill Oscar Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y sinematograffwr Lol Crawley ennill ei Oscar cyntaf am ei ffilm, The Brutalist

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn o Gymru wedi cipio gwobr Oscar yn seremoni Gwobrau'r Academi yn Los Angeles.

Fe wnaeth y sinematograffwr Lol Crawley ennill gwobr am ei ffilm ddiweddaraf, The Brutalist, sy'n dilyn hanes goroeswr yr Holocost a ymfudodd i'r Unol Daleithiau.

Cafodd Lol Crawley ei fagu yn Llansanffraid-ym-Mechain, Powys, ac roedd wrth ei fodd yn gwylio ffilmiau gyda'i dad.

Wrth dderbyn ei wobr, fe wnaeth Lol Crawley ddiolch i'w holl deulu a'i "holl ffrindiau nôl yng Nghymru".

Dywedodd ar raglen BBC Breakfast ei fod yn "falch iawn" o'i lwyddiant.

"Rwy'n edrych ymlaen at ddychwelyd i fy hen ysgol, Ysgol Llanfyllin i siarad o flaen y disgyblion ac mewn gwasanaeth," meddai.

Mae'r ffilm wedi derbyn cryn ganmoliaeth ac eisoes wedi ennill tair gwobr y Golden Globe.

Cafodd The Brutalist ei ffilmio yn Budapest dros gyfnod o 33 diwrnod ar gost o tua $10m.

Adrien Brody oedd y prif actor yn y ffilm ac fe enillodd y wobr am yr actor gorau yn y gwobrau nos Sul.

Rhys SalcombeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Rhys Salcombe, sy'n wreiddiol o Aberystwyth, wobr am yr effeithiau gweledol gorau

Roedd llwyddiant hefyd i'r Cymro Rhys Salcombe, sy'n wreiddiol o Aberystwyth.

Ag yntau bellach yn byw yng Nghanada, enillodd y wobr am yr Effeithiau Gweledol Gorau ar gyfer y ffilm Dune: Part Two.

Ond ffilm o'r enw Anora oedd yr enillydd mawr gan gipio bump o wobrau, gan gynnwys y Ffilm Orau ac fe gipiodd Sean Baker y wobr am y cyfarwyddwr gorau Mikey Madison oedd yr actores orau.

Pynciau cysylltiedig