Cymuned yn 'byw mewn ofn' wedi tirlithriad 'brawychus'

Daniel Minty, sy'n gweithio i brosiect cymunedol yng Nghwmtyleri, yn sefyll o flaen y tirlithriad.
Disgrifiad o’r llun,

"Diolch byth" na fuodd 'na farwolaethau yn ystod y tirlithriad, meddai Daniel Minty

  • Cyhoeddwyd

Mae pentrefwyr Cwmtyleri ym Mlaenau Gwent yn "byw mewn ofn" y gallai mwy o'r domen lo uwch eu pennau ddymchwel yn ystod glaw trwm.

Dyna oedd eu neges i'r dirprwy brif weinidog Huw Irranca-Davies ddydd Iau ar ymweliad i safle tirlthriad brawychus yn ystod Storm Bert ym mis Tachwedd.

Bu'n rhaid symud pobl o oddeutu 40 o gartrefi ar y pryd, wrth i afon o fwd a cherrig lifo "fel lafa" drwy'r strydoedd.

Addo ystyried cynlluniau parhaol ar gyfer trwsio'r domen "ar frys" wnaeth Mr Irranca-Davies.

Yn gynharach eleni, dangosodd data a ddaeth i law Cymru Fyw bod sawl tomen lo bellach yn cael eu hystyried yn rhai a allai effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd yn dilyn ailasesiad.

Disgrifiad,

Difrod y tirlithriad yn ardal Cwmtyleri ym mis Tachwedd

Cafodd llawr gwaelod tŷ Tina Honeyfield ei ddifetha gan y tirlithriad, wrth i fwd a dŵr lifo drwy'r drws ffrynt.

Mae ei theulu yn dal i fyw mewn llety dros dro, ac wedi cael gwybod na fydd modd dychwelyd i'w cartref am o leia' chwe mis.

Tina Honeyfield yn eistedd mewn caffi yn gwisgo top blodeuog.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tina Honeyfield yn rhedeg caffi cymunedol lle bu trigolion lleol yn cwrdd â'r dirprwy brif weinidog

Wrth gofio'r noson "frawychus", mae'n dweud iddi edrych drwy'r ffenest a sylweddoli nad oedd hi'n medru gweld y stryd.

"Fe gymrodd hi funud i fi amgyffred beth oedd yn digwydd," meddai.

"Roedd fy merch yn ei 'stafell hi ar y pryd a fe glywodd hi rywbeth fel jet yn hedfan yn isel. Y tirlithriad oedd y swn yna."

"Roeddwn i'n darllen atgofion pobl o Aberfan neithiwr a dywedodd un o'r goroeswyr yn union yr un peth," ychwanegodd.

"Pan o'n nhw yn yr ysgol, nethon nhw glywed fod tirlithriad yn dod ac roedd yn swnio fel jet yn hedfan yn isel."

"Wnes i erioed feddwl mewn miliwn o flynyddoedd y byddai fy merch yn clywed yr un sŵn mae'n rhaid bod y plant hynny wedi'i glywed ar y diwrnod ofnadwy hwnnw."

Stryd wedi'r tirlithriad - mwd ar lawr a'r gwasanaethau brys yn ceisio clirio.Ffynhonnell y llun, Tina Honeyfield
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid gofyn i bobl adael oddeutu 40 o gartrefi wedi'r tirlithriad

Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai "llawn straen" i'r gymuned, sy'n byw mewn ofn bob tro y maen nhw'n gwybod bod 'na dywydd garw yn dod, ychwanegodd.

"Bob tro mae 'na storm ry'ch chi'n poeni y bydd y tip yn dymchwel hyd yn oed yn fwy," meddai.

Cyngor Blaenau Gwent sydd bia'r domen a nhw sydd wedi bod yn arwain y gwaith trwsio, ar ôl i Lywodraeth Cymru gyfrannu gwerth £174,000 hyd yma.

Mae system ddraenio newydd wedi'i osod a matiau gwarchodol i atal rhagor o erydiad.

Mae'r awdurdod lleol yn dweud eu bod yn hyderus fod hyn yn golygu nad oes perygl pellach yn y tymor byr.

Daw hyn wrth i ddeddfwriaeth newydd barhau ar ei thaith drwy'r Senedd i sefydlu corff cyhoeddus i oruchwylio'r hen domenni.

Ond dywedodd arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, Stephen Thomas na allai cymuned Cwmtyleri aros tan bod yr awdurdod hwnnw'n weithredol cyn gweld ateb parhaol i'w sefyllfa nhw.

"Datrysiad tymor hir sydd angen ar bobl Cwmtyleri a ry'n ni am weld hynny cyn gynted â phosib," meddai.

"Mae'r bil yn mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd a bydd 'na gorff newydd erbyn 2027."

"Ond ry'n ni angen gweld gweithredu cyn hynny - a dyna oedd ein neges i'r dirprwy brif weinidog heddiw."

Gwaith trwsio ar dirlithriad Cwmtyleri, Blaenau Gwent.  Matiau gwarchodol wedi'u gosod ar y domen lo i atal rhagor o erydiad.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfrannu £174,000 ar gyfer gwaith trwsio ar y domen lle ddigwyddodd y tirlithriad

Mae Daniel Minty yn gweithio gyda phrosiect cymunedol Pentref Teleri fel swyddog ymgysylltiad cymunedol a chyfathrebu.

Gyda'r hinsawdd yn newid dywedodd bod "angen meddwl am y dyfodol i sortio'r problemau mas".

Yn yr ardal, "mae llawer o bobl yn sgwrsio amdano fe," meddai.

"Mae fy rheolwr [Tina] wedi colli eu tŷ nhw."

"Diolch byth bo' nhw ddim yn colli eu bywydau fel trychinebau arall yn y gorffennol."

"Dyna pam dwi'n credu bo' ni angen atebion am y tir i sicrhau yn y dyfodol fydd dim trychinebau fel hyn yn digwydd eto."

'Sicrhau diogelwch hirdymor'

Bu Mr Irranca-Davies, sydd hefyd yn gyfrifol am newid hinsawdd yng nghabinet Llywodraeth Cymru, yn cwrdd â thrigolion ar ei ymweliad.

Dywedodd bod y cyngor lleol wedi cyflwyno cais am arian ychwanegol - gwerth £610,000 - dan gynllun grant y llywodraeth ar gyfer diogelwch tomenni glo.

Byddai hyn yn helpu cam nesa'r gwaith trwsio, eglurodd.

Roedd yn addo ystyried atebion hirdymor ar gyfer y safle "ar frys".

"Mae'r tirlithriad a ddigwyddodd yn dangos pa mor hanfodol yw ein gwaith o ran diogelwch tomenni glo," meddai.

"Rydym wedi buddsoddi mwy na £100m ers 2022 i helpu i sicrhau bod cymunedau sy'n byw ger hen domenni yn ddiogel, nawr ac yn y dyfodol."

"Ym mis Rhagfyr, fe wnes i hefyd gyflwyno'r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) i'r Senedd, a fydd yn moderneiddio deddfwriaeth ac yn sefydlu corff cyhoeddus newydd erbyn mis Ebrill 2027 i sicrhau diogelwch hirdymor y safleoedd hyn."

"Yn y cyfamser, mae ein rhaglen waith yn mynd rhagddi o hyd a byddaf yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio i gyflawni trefn effeithiol o ran prosesau archwilio a gwaith cynnal a chadw ledled Cymru."

Pynciau cysylltiedig