Cymorth i blant ysgol â nam golwg yn 'anghyson'
- Cyhoeddwyd

Mae Jayden yn cael cymorth dyddiol gan gynorthwydd dosbarth arbenigol yn yr ysgol.
Mae rhybudd bod diffyg cysondeb o ran y ddarpariaeth sydd ar gael i ddisgyblion â nam golwg yn ysgolion Cymru.
Daw hyn ar ddiwrnod Golwg y Byd - 12 Hydref.
Mae'r Royal National Institute of Blind People (RNIB) yn galw ar y llywodraeth i sicrhau bod gan bob "awdurdod lleol athro sydd ag arbenigedd" i edrych ar ôl plant dall.
Dywed Llywodraeth Cymru bod y cwricwlwm i Gymru wedi ei ddatblygu i fod yn hygyrch i bawb.
'Ddim am stopio fi'
Un sydd yn ddiolchgar o'r gofal y mae'n derbyn yn yr ysgol yw Jayden Williams, sydd ym mlwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Gymraeg Gwynllyw.
"Pan ges i fy ngeni do'n i ddim yn gallu gweld," meddai.
"Mae gen i ddau gyflwr - mae un ohonyn nhw'n meddwl bo' fi ddim yn gallu gweld, a'r un arall yn meddwl bo' fi ddim yn tyfu fel pobl eraill.
"Mae gen i lawer o offer arbennig yn yr ysgol. Fi'n defnyddio'r [tabled] BrailleNote Touch Plus i wneud gwaith yn Gymraeg a Saesneg.

Mae Jayden Williams yn un o'r rhai lwcus sydd wedi derbyn cefnogaeth gan ei athrawon
"Dwi'n dweud 'ie' i bopeth, a dwi'n teimlo bod fi'n gallu gwneud popeth mae pawb arall yn gwneud.
"Dydw i ddim yn gadael y ffaith bo' fi dim yn gallu gweld stopio fi o gwbl."
Pwysigrwydd cael darpariaeth
Mae Jayden yn cael cymorth dyddiol gan gynorthwyydd dosbarth arbenigol yn yr ysgol.
Yn ôl Anna Davies, arweinydd anghenion dysgu ychwanegol Ysgol Gymraeg Gwynllyw: "Mae e wedi newid ein cymuned ysgol ni.
"Mae e'n dangos ethos yr ysgol, a faint mor groesawgar mae dysgwyr Gwynllyw.
"Mae plant gydag ADY (anghenion dysgu ychwanegol) - dim ots pa iaith ma' nhw'n astudio, 'mond bod y ddarpariaeth yn gywir - yn gallu llwyddo.
"Maen nhw'n gallu cael mynediad at addysg, ac mae'r rhwystrau'n gallu cael eu bwrw lawr."
Ond mae diffyg cefnogaeth wedi golygu cyfnod heriol i'r ysgol.

Fe wnaeth Cerys Leeson ddysgu Braille er mwyn gallu cefnogi Jayden yn yr ysgol
"Ni'n teimlo weithie fel ysgol, achos bo' ni'n Ysgol Gymraeg, 'dy ni ddim ar yr un lefel â phawb arall falle o ran y gefnogaeth.
"Does dim lot o siaradwyr Cymraeg i gefnogi ni gyda'r iaith Gymraeg."
Dywedodd cynorthwyydd arbennig Jayden, Cerys Leeson: "Falle bydde Jayden wedi symud i ysgol arall lle bydde mwy o gefnogaeth o ran y Braille os na fydden i wedi dysgu Braille dros yr haf."
'Post code loteri ar draws Cymru'
Dywedodd Liz Williams o RNIB Cymru: "Rydym ni'n gwybod bod post code loteri ar draws Cymru ar y funud, ac mae rhai yn cael safon well o addysg nag eraill.
"Rydyn ni hefyd yn gwybod bod rhai awdurdodau lleol ddim yn cael athro sydd ag arbenigedd mewn edrych ar ôl plant dall a golwg rhannol.

Mae Liz Williams o RNIB Cymru yn dweud ei fod yn sefyllfa o post code loteri ar draws Cymru
"Rydym ni'n galw ar y llywodraeth i 'neud yn siŵr bod pob awdurdod lleol yn cael athro i blant dall a golwg rhannol ac rydym ni isie iddyn nhw 'neud yn siŵr bod y cyllid ar gael iddyn nhw allu 'neud hwnna'n dda."
Wrth ymateb i'r pryderon fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y cwricwlwm i Gymru wedi ei ddatblygu i fod yn hygyrch i bawb, gan gynnwys y rhai â nam ar eu golwg.
Fe ychwanegon nhw fod hawliau plant yn greiddiol i'r system anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd27 Mai 2022