Ras Ultra oedd 'y profiad gorau erioed'
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

"Os dwi'n eistedd yn llonydd yn rhy hir mae pobl yn dechrau dweud fod rhywbeth yn bod ar Ann..."
Mae'r rhedwraig Ultra Ann Evans wedi byw ym Merthyr Tudful am 47 o flynyddoedd, yn dysgu yn ysgol gynradd Gymraeg Santes Tudful ac hefyd dysgu dosbarthiadau ffitrwydd.
Yn 66 oed mi wnaeth hi redeg ail ras Ultra yn Kenya.
Roedd yn siarad am ei bywyd ar raglen Heledd Cynwal ar Radio Cymru.
Cafodd Ann ei magu ar fferm tu allan i Eglwyswrw yn Sir Benfro, yn un o bump o blant.
Symudodd i ardal Merthyr i ddysgu yn yr ysgol uwchradd yno yn 1978.
Meddai: "Oedd Merthyr ddim y lle hyfryd mae e heddi, oedd dal y pyllau glo.
"Oedd e'n le llwyd – bob man oeddech chi'n edrych oedd e'n llwyd."
Mae Ann dal yno 47 o flynyddoedd yn ddiweddarach ac erbyn hyn mae hi'n caru'r ardal.
Meddai: "Roedd e'n le diwydiannol iawn 47 o flynyddoedd yn ôl ond erbyn hyn mae'n wyrdd iawn.
"Mae gwyrddni a blodau ac oedd rheiny ddim yna 47 o flynyddoedd yn ôl."

Merthyr Tudful
Mae Ann wedi priodi a magu plant yn yr ardal ac mae wrth ei bodd gyda'r gymuned agos. Daeth hi i adnabod pobl wrth ddechrau gweithio yno fel athrawes.
Meddai: "Byddwn i byth fod wedi dewis lle hapusach i fyw. Ges i groeso mawr gan yr athrawon, rhieni a'r plant.
"A dechreuais i redeg. Oedd grŵp o athrawon yn dechrau rhedeg – chwech neu saith o ni. Ni gyd nawr yn ein 60au hwyr a ni gyd dal i redeg."
Mae Ann wedi rhedeg sawl marathon Ultra erbyn hyn.
Meddai: "Pan ges i fy ail blentyn nes i roi lan gwaith a dyna'r tro cyntaf i fi fod adre yn ystod y dydd erioed.
"Bydden i'n cerdded ar draws y tips a bydden i'n dechrau rhedeg yn ôl a licio'r teimlad o deimlo lot yn well yn y prynhawn."
Ac roedd Ann yn mynd i gyfarfod yr athrawon yn yr ysgol lle roedd hi wedi dysgu er mwyn rhedeg gyda nhw ar ôl ysgol.
Meddai: "Mae rhywbeth cymdeithasol iawn amdano fe. Mae'n rhywbeth dwi'n hoffi ei wneud gyda rhywun."
Penderfynodd y grŵp redeg ras 10km ac enillodd Ann y ras.
Wedyn cafodd lythyr gan hyfforddwr athletau yn dweud y byddai'n hoffi hyfforddi Ann.
Wedi iddi gael hyfforddiant cafodd hi ei dewis i redeg yng Ngemau'r Gymanwlad.
Meddai: "Dwi'n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd ges i i weld y byd."

Ann yn gorffen ras Ultra yn Kenya
Ultra cyntaf
Rhedodd Ann ei ras hir cyntaf yn yr Amazon wyth mlynedd yn ôl.
Roedd rhaid iddi redeg 250 milltir mewn pum diwrnod gan gario bwyd, sach gysgu a phopeth arall ar ei chefn.
Mae Ann yn dweud mai'r ras Ultra yn yr Amazon oedd "y profiad gorau erioed".
Ei her nesaf oedd rhedeg ras Ultra yn Kenya yn 66 oed.
Meddai: "Oedd hwnnw'n wahanol iawn. O'n i'n gwybod dyna'r Ultra olaf bydden i'n neud.
"Daeth cyfnither i gwrdd â ni ac roedd yn sbeshal iawn."
Roedd Ann wedi gweld jiraffod, eliffantod a llewod wrth redeg.
Meddai: "O'n i wedi ymarfer am bron blwyddyn cyn mynd ac yn gwybod pob carreg ar y Taff Trail!
"Ond o'n i byth wedi ymarfer ar gyfer y gwres a dyna beth oedd yn galed.
"Oedd e'n hyfryd o brofiad."
Geirfa
Llonydd / still
Rhedwraig / runner (female)
Ffitrwydd / fitness
Ail / second
Magu / to raise (a child)
Pyllau glo / coal pits
Yn ddiweddarach / later
Diwydiannol / industrial
Gwyrddni / greenery
Priodi / to marry
Magu plant / to raise children
Cymuned / community
Adnabod / to know
Rhoi lan / give up
Cymdeithasol / sociable
Hyfforddwr athletau / athletics coach
Gemau'r Gymanwlad / Commonwealth Games
Diolchgar / grateful
Cyfleoedd / opportunities
Milltir / mile
Sach gysgu / sleeping bag
Her / challenge
Cyfnither / counsin (female)
I gwrdd / to meet
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
- Cyhoeddwyd11 Mehefin
- Cyhoeddwyd22 Medi 2023