Gwirio disgyblion am gyllyll 'ddim yn swydd i athrawon'

Dafydd Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd Llywelyn yn teimlo fod problemau ymddygiad mewn ysgolion yn gwaethygu

  • Cyhoeddwyd

Mae ymddygiad plant ysgol wedi gwaethygu yn y blynyddoedd diwethaf, yn ôl un o gomisiynwyr heddlu Cymru, wrth i'r sylw droi at ddefnydd o gyllyll yn ein hysgolion.

Ddydd Mawrth cafodd merch 14 oed ei chanfod yn euog o geisio llofruddio ar ôl trywanu dwy athrawes a disgybl mewn ysgol yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn fod angen i'r awdurdodau ddod at ei gilydd i drafod a dysgu gwersi wedi'r ymosodiad.

Daw wrth i gyn-athro a pherchennog cwmni diogelwch rybuddio bod gormod o faich ar athrawon heb ofyn iddyn nhw wirio disgyblion am gyllyll hefyd.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru eu bod wrthi'n trefnu cyfarfod gyda'r heddlu a'r awdurdod lleol i drafod y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman.

Disgrifiad,

'Ni ddylai unrhyw athro deimlo'n ofnus am ei ddiogelwch'

Cafodd dwy athrawes, Liz Hopkin a Fiona Elias, a disgybl eu trywanu yn ystod amser egwyl yn yr ymosodiad yn Ysgol Dyffryn Aman ar 24 Ebrill 2024.

Bydd y ferch, na allwn ei henwi am resymau cyfreithiol, yn cael ei dedfrydu cyn diwedd Ebrill.

Yn ei datganiad wedi'r achos llys, dywedodd Fiona Elias "na ddylai unrhyw aelod o staff mewn ysgol deimlo'n ofnus am ei ddiogelwch ei hun wrth gyflawni dyletswyddau o ddydd i ddydd".

Mewn achos ar wahân ddydd Llun, daeth cadarnhad fod bachgen 15 oed wedi ei ladd yn dilyn achos o drywanu mewn ysgol yn Sheffield.

Mae bachgen arall 15 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n parhau yn y ddalfa.

'Pwysau aruthrol ar athrawon'

Mae'r cyn-athro Emlyn Jones, sydd bellach yn rhedeg cwmni diogelwch, yn credu fod mwy o gyllyll yn cael eu ffeindio a'u defnyddio yn y pum mlynedd ddiwethaf.

Wrth siarad â disgyblion, dywedodd fod plant yn cario cyllyll i "deimlo'n fwy diogel - sydd yn creu mwy o broblem".

Dywedodd fod swyddogion diogelwch mewn ysgolion yn "opsiwn" ond awgrymodd y gallai hynny fod yn gostus ac yn ormod o faich ar athrawon sydd eisoes dan straen.

"Os oes rhywun eisiau cael cyllyll mewn i ysgol, gallen nhw taflu fe dros ben clawdd neu cuddio'r gyllell gyda'r nos felly dyw hwnna ddim yn mynd i stopio pob un dod â chyllell i ysgol," meddai.

"Mae mwy a mwy o faich arnyn nhw [athrawon] i gario mwy o bethau felly dim eu gwaith nhw [yw archwilio am gyllyll]."

Ychwanegodd: "Dwi'n gyn-athro. Ni 'ma i ddysgu a gofalu am ein plant ni.

"Ond pan ni'n gorfod mynd gam ymhellach i edrych be mae plant yn ei gario ac ati, does dim digon o amser.

"Mae 'na bwysau aruthrol ar athrawon a dwi'n teimlo drostyn nhw. Mae'n amser eithaf pryderus."

Dywedodd Emlyn Jones fod yr hyn ddigwyddodd yn Rhydaman yn "hynod drist"
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emlyn Jones fod yr hyn ddigwyddodd yn Rhydaman yn "hynod drist"

Dywedodd y comisiynydd Dafydd Llywelyn ei fod yn awyddus i helpu Fiona Elias gyda'i hymdrech i drafod diogelwch ysgolion gyda'r awdurdodau.

"Dwi'n teimlo fod pethau'n gwaethygu i ryw raddau, a dwi'n dweud hynny o safbwynt lle mae fy ngwraig a'n chwaer yn athrawon felly dwi'n clywed straeon," meddai ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth.

"Rydw i, digwydd bod, yn adnabod teulu Fiona Elias hefyd a fyddai'n estyn mas i Fiona gan ei bod hi wedi gofyn i gael cwrdd â gweinidogion a swyddogion addysg i weld sut alla i helpu i agor ambell i ddrws ym Mae Caerdydd.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi cyfle i bobl sydd wedi bod trwyddo'r trawma a'r fath yma o brofiadau i siarad gydag arweinwyr."

Aeth Mr Llywelyn ddim mor bell â dweud bod angen dechrau archwilio bagiau disgyblion.

"Fi'n credu falle mewn ambell i achlysur byddai angen gwneud hynny, ond ar hyn o bryd dy' ni ddim yn teimlo fod hynny'n rhywbeth sydd angen ei wneud."

Cefin Campbell
Disgrifiad o’r llun,

Roedd brawd Cefin Campbell, Darrel, yn un o'r rhai cyntaf i gyrraedd y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman

Yn ôl Cefin Campbell, dylai ysgolion ystyried a oes angen cyflogi swyddogion diogelwch i helpu delio gyda disgyblion sy'n dod ag arfau i'r ysgol drwy archwilio bagiau ac ati.

"Dwi'n meddwl bod angen trafod gyda'r undebau addysg er mwyn gweld a fyddai athrawon yn hapus i 'neud y gwaith yma eu hunain," meddai'r Aelod o'r Senedd.

"Os ydyn nhw'n hapus, mae hynny'n iawn, ond mae angen hyfforddiant arnyn nhw i allu delio â gwrthdaro corfforol posib.

"Os dydyn nhw ddim yn hapus, yna mae ysgolion ac awdurdodau lleol angen ystyried cyflogi swyddogion diogelwch arbenigol i wneud y gwaith, swyddogion heddlu sydd wedi ymddeol efallai, pwy a ŵyr? Ond mae angen mynd i'r afael â'r mater."

Dywedodd Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb UCAC, fod materion yn ymwneud ag ymddygiad "wedi codi ers blynyddoedd cyn hyn, ac rwy'n meddwl ein bod ni wedi gweld heriau penodol mewn ysgolion dros y pedair neu bum mlynedd diwethaf".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n cynnal uwchgynhadledd ymddygiad yn y gwanwyn, ond mae'r oedi wedi bod yn rhy hir, meddai.

"Fisoedd a misoedd yn ddiweddarach ar ôl i ni fod yn gofyn a gofyn iddyn nhw weithredu ar hyn. Mae o'n siomedig iawn ei fod o wedi cymryd mor hir â hyn.

"Ma' 'na rwystredigaeth weithiau nad ydy'r llywodraeth yn gwrando.

"Ma' 'na rywbeth pendant iawn wedi gyrru'r galwadau cyson yma, ac mae angen i'r proffesiwn ddeall bod angen i'r proffesiwn gael ei ddiogelu."

Cymryd y mater 'wir o ddifrif'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio gan yr achos yma.

"Mae unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth yn erbyn staff yn ein hysgolion yn gwbl annerbyniol.

"Mae pwerau gan ysgolion i gymryd camau brys a pharhaol i ddiarddel unrhyw ddisgybl sydd ag arf yn eu meddiant, ac mae pwerau eisoes gan ysgolion i chwilio am arfau.

"Mae'r Ysgrifennydd Addysg yn cymryd y mater o ddiogelwch yn yr ysgol wir o ddifri, a bydd Cynhadledd Ymddygiad Genedlaethol yn cael ei chynnal yn y Gwanwyn i ddod ag ysgolion, awdurdodau lleol ac undebau at ei gilydd i drafod diogelwch staff a disgyblion."

Ychwanegodd: "Rydym yn gweithio i drefnu cyfarfod gyda'r heddlu a'r awdurdod lleol i drafod y materion hyn a pha wersi y gallwn eu cymryd."