Gigiau yng Nghaerdydd heb gael caniatâd cynllunio cywir - cyngor

Cyngerdd Blackweir
Disgrifiad o’r llun,

Roedd miloedd yn bresennol ar gaeau Blackweir am gynherddau gafodd eu trefnu heb y caniatâd cynllunio cywir

  • Cyhoeddwyd

Cafodd cyfres o gyngherddau eu cynnal mewn parc poblogaidd yng Nghaerdydd heb ganiatâd cynllunio, yn ôl adroddiad gan y cyngor.

Daeth degau o filoedd o bobl ynghyd ar gyfer perfformiadau Noah Kahan, Alanis Morissette, Slayer a Stevie Wonder ar gaeau Blackweir.

Mae adroddiad Cyngor Caerdydd yn nodi na chafodd cais ei wneud am ganiatâd cynllunio, ac na chafodd tystysgrif cyfreithlondeb - sy'n dangos a oes angen caniatâd cynllunio ai peidio - wedi'i chyhoeddi.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor ei fod wedi adolygu'r sefyllfa a phenderfynu peidio â chymryd camau gorfodi cynllunio swyddogol yn erbyn trefnwyr y digwyddiadau.

Caeau Blackweir
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor wedi derbyn bod y gwaith o baratoi a dadosod y safle wedi bod dros 28 diwrnod

Fe wnaeth trigolion lleol gwyno am y gigiau - sy'n cael eu galw'n Blackweir Live - gan lunio deiseb ynghylch y ffensys mawr gafodd eu codi o amgylch y safle.

Dywedodd Cyngor Caerdydd y byddai'r cyngherddau'n dod â £35m i economi'r ddinas a fyddai'n cael ei ddefnyddio i wella parciau a seilwaith.

Mae adroddiad cynllunio Cyngor Caerdydd yn nodi na chafodd cais ei wneud am ganiatâd cynllunio cyn i'r digwyddiadau gael eu cynnal.

Dywedon nhw, heb dystysgrif cyfreithlondeb, bod y trefnwyr Depot Live a Cuffe & Taylor yn "bwrw ymlaen mewn perygl".

Mae deddfau cynllunio'n gwahardd pobl rhag newid y defnydd o barciau dros dro am fwy na 28 o ddiwrnodau bob blwyddyn heb ganiatâd cynllunio ychwanegol.

Ond mae'r adroddiad yn nodi fod ardal caeau Blackweir wedi'i heffeithio am gyfanswm o 37 o ddiwrnodau - naw diwrnod yn fwy nag a ganiateir.

Fe dynnodd yr adroddiad sylw at achos yn Llundain yn gynharach eleni, pan aeth preswylydd â'i chyngor lleol i'r llys, gan ddadlau nad oedd gan Gyngor Lambeth y caniatâd cynllunio cywir.

Dywedodd yr adroddiad: "Nid oes unrhyw ddigwyddiadau dros dro eraill wedi bod yng nghaeau Blackweir yn ystod y flwyddyn galendr hon, ond mae'r canlyniad yn parhau, bod nifer y dyddiau'n fwy na'r hyn a ganiateir."

Ystyriodd swyddogion y sefyllfa gan benderfynu "na fyddai'n hwylus i'r cyngor gymryd unrhyw gamau gorfodi swyddogol yn erbyn trefnydd y digwyddiad".

Ychwanegon nhw "na fyddai natur fach yr achos hwn o dorri'r rheolau yn cael unrhyw effaith amlwg o ran y polisïau yn y Cynllun Datblygu sy'n ceisio amddiffyn mannau agored rhag datblygiad newydd amhriodol er budd ehangach y cyhoedd."

Rhes o doiledi portaloo o flaen llwyfan ar gae Blackweir
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r olygfa oedd o flaen tŷ un o'r ymgyrchwyr yn erbyn y cyngherddau

Daeth yr adroddiad i'r casgliad y dylai Cyngor Caerdydd, a threfnwyr unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol, wneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddigwyddiad sy'n hirach na'r terfyn o 28 o ddiwrnodau.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd fod y penderfyniad ynghylch Cyngor Lambeth wedi'i wneud ar ôl i gyngherddau Blackweir Live gael eu cymeradwyo a'u trefnu.

Ychwanegodd hefyd fod trwydded digwyddiadau wedi'i rhoi ar gyfer y cyngherddau ymlaen llaw.

"Er bod sefydlu a dadosod y safle wedi mynd y tu hwnt i'r terfyn o 28 o ddiwrnodau ar gyfer digwyddiadau dros dro, arhosodd y cyngherddau eu hunain o fewn yr amserlen honno, a dyna pam na cheisiwyd caniatâd cynllunio ar gyfer digwyddiad dros dro o'r fath.

"Bydd goblygiadau'r dyfarniad llys diweddar nawr yn rhan o adolygiad ehangach o drefniadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol yng Nghaerdydd."

Mae trefnwyr y digwyddiadau, Depot Live a Cuffe & Taylor wedi dweud na fyddan nhw'n gwneud sylw ar y mater.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.