'Edrych ymlaen at fy Sioe Fawr olaf fel Llywydd NFU Cymru'

Bydd Aled Jones, llywydd undeb NFU Cymru, yn ildio'r awennau yn ystod y misoedd nesaf
- Cyhoeddwyd
Wrth i Aled Jones baratoi ar gyfer ei ymweliad olaf â'r Sioe Fawr yn Llanelwedd fel llywydd NFU Cymru dywed fod nifer o bynciau heriol wedi dod i'r amlwg yn ystod ei dymor wrth y llyw.
Yn eu plith mae Brexit, y tafod glas a'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ond mae'n dweud mai'r un sydd wedi bod yn fwyaf o siom iddo yn ddiweddar yw'r dreth etifeddiaeth.

Fe wnaeth cannoedd o bobl deithio i Landudno y tu allan i gynhadledd y Blaid Lafur i ddangos eu gwrthwynebiad i'r dreth etifeddiaeth
"Ma be sy' 'di digwydd ers yr Etholiad Cyffredinol yn San Steffan wedi fy suro i.
"Yr holl eiriau da a'r addewidion am bwysigrwydd amaeth a diogelwch bwyd... ac wedyn mor fuan ar ôl hynny troi sawdl a chyflwyno newidiadau i'r dreth etifeddiaeth," meddai.
"A hwnnw yn fwrdwn ar deuluoedd gweithio sy' wedi gweithio yn galed am genedlaethau."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth San Steffan bod diwygio treth etifeddiaeth yn "hanfodol er mwyn talu am wasanaethau cyhoeddus".
Ychwanegodd y "bydd tri chwarter ystadau yn talu dim treth o gwbl" ac y "bydd y chwarter arall yn talu hanner y dreth y mae'r rhan fwyaf o bobl yn talu" ac y "gellir ymestyn taliadau dros gyfnod o 10 mlynedd yn ddi-log."
Treth etifeddiaeth - 'Y fath bwysau'
Ond mae'r cynllun, medd Aled Jones, yn achosi poen meddwl a phryder mawr i ffermwyr.
"Mae 'di achosi loes i mi wrando ar deuluoedd yn mynd drwy ffeithiau newidiadau treth etifeddiaeth.
"O ran egwyddor, mae hyn yn hollol anghywir.
"I gael pobl sydd bron yn dymuno marw cyn Ebrill 2026, dylse dim un person yn y wlad 'ma gael eu rhoi o dan y fath bwysau."

Mae sawl protest wedi bod yn erbyn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy dadleuol
Mae cefndir Aled Jones fel ffermwr llaeth yng Ngwynedd, ac yntau yr wythfed genhedlaeth i ffermio, wedi ei helpu wrth ymdrin â materion sy'n codi yn ei waith fel llywydd undeb, meddai.
"Petawn i ddim yn amaethu byddwn i ddim yn gallu cydymdeimlo ag amaethwr arall.
"Pan yn cymryd swydd fel hon, rydych chi'n cynrychioli'r un fath â chi eich hunan.
"Mae fy nghydymdeimlad i mor ddwys ag y bu e erioed."
Ychwanegodd: "Yr hyn dwi 'di geisio ei wneud ydy rhoi rhywbeth yn ôl at be dwi 'di dderbyn dros y blynyddoedd. Nid uchelgais oedd o.
"Roedd fy nhad yr un fath ac yn dweud bod yna etifeddiaeth yn dod yn y swydd yma ac mae'n rhaid i'r genhedlaeth sy'n dod roi rhywbeth yn ôl fel mae'r cenedlaethau o'n blaen wedi 'neud."
'Mae gennym drysor'
Yng nghanol y pryder a'r heriau, mae Aled Jones dal yn ffyddiog am ddyfodol y diwydiant.
"Mae doniau a sgiliau amaethwyr Cymru heb eu hail. Mae pobl ifanc sy'n cymryd busnesau drosodd y tu hwnt o dalentog a brwdfrydig.
"Mae'n rhoi hyder mawr i mi yn reddfol am be dw i'n ei weld y tu mewn i'n cefn gwlad ni.
"Mae gennym ni drysor ac mae'n rhaid i ni ddiogelu'r trysor yma."
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2024
Wrth baratoi i drosglwyddo yr awennau, mae ei gyngor i'w olynydd yn syml.
"Rhaid peidio rhoi'r gorau iddi, a dyfalbarhau trwy'r cwbl.
"Cymryd cymorth a chefnogaeth, a pheidio cymryd o'n bersonol wrth gael ei herio, a pheidio disgwyl bo chi'n mynd i newid y byd mewn diwrnod."