Snoop Dogg yn gyd-berchennog ar Glwb Pêl-droed Abertawe

Snoop Dogg yn gwisgo crys newydd AbertaweFfynhonnell y llun, Clwb Pêl-droed Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Snoop fwy nag 88 miliwn o ddilynwyr ar Instagram

  • Cyhoeddwyd

Mae'r rapiwr Snoop Dogg wedi buddsoddi yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe gan ddod yn gyd-berchennog.

Fe ymddangosodd Snoop Dogg fel model annisgwyl wrth i Abertawe lansio eu cit cartref ar gyfer tymor 2025-26 y penwythnos diwethaf.

Mae'r Elyrch wedi cyhoeddi bod y seren Americanaidd 53 oed wedi dilyn seren Real Madrid a Croatia, Luka Modric, gan berchen ar gyfran leiafrifol o'r clwb.

Ymhlith y perchnogion eraill mae Andy Coleman, Brett Cravatt, Nigel Morris a Jason Cohen.

"Mae pobl yn gwybod am fy nghariad at bêl-droed, ond mae'n teimlo'n arbennig i mi fy mod wedi gwneud y perfyniad i fod yn berchennog ar glwb gydag Abertawe," meddai Snoop Dogg ar wefan y clwb.

"Gwnaeth stori'r clwb daro nodyn gyda mi. Mae hon yn ddinas a chlwb dosbarth gweithiol balch. Stori 'underdog' sy'n brathu'n ôl, fel fi" meddai

Ychwanegodd: "Rwy'n falch o fod yn rhan o Glwb Pêl-droed Abertawe."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.