Dewch i adnabod enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2025

- Cyhoeddwyd
Draw yn Theatr Sherman, Caerdydd neithiwr fe gafodd seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2025 ei chynnal.
Pob blwyddyn mae Llenyddiaeth Cymru yn anrhydeddu awduron o Gymru sydd wedi cyhoeddi gwaith yn Gymraeg a Saesneg, ac roedd amrywiaeth a safon y gwaith eleni yn amlwg wedi creu argraff fawr ar y beirniaid.
Dewch i gyfarfod enillwyr y noson.

Iola Ynyr
Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn a Ffeithiol Greadigol (Cymraeg)
Camu (Y Lolfa) gan Iola Ynyr wnaeth gipio'r brif wobr Gymraeg eleni, gyda gwobr o £4,000 ynghyd â thlws wedi'i dylunio gan Angharad Pearce Jones.
Llynedd fe ddywedodd Iola Ynyr wrth Cymru Fyw mai rhaglen adferiad 12 cam wnaeth achub ei bywyd ar ôl cyfnodau tywyll o ddibyniaeth ar alcohol.
Yn nhudalen agoriadol Camu, dywedai fod y llyfr yn "ymgais i berchnogi fy mywyd a'm hatgofion drwy greadigrwydd".
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2024

Carys Davies
Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn a Gwobr Ffuglen (Saesneg)
Clear gan Carys Davies (Granta) oedd enillydd Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn ac hefyd y Wobr Ffuglen yn Saesneg.
Mae'r nofel fer wedi'i lleoli ar ynys anghysbell yn yr Alban yn 1843. Mae Ivar, yr unig breswylydd, yn byw bywyd tawel ac unig hyd nes iddo ddod o hyd i ddyn yn anymwybodol ar y traeth islaw'r clogwyni.
Tra'n derbyn y wobr, fe wnaeth yr awdur dalu teyrnged i'w gŵr a fu farw yn 2024 gan rannu ei fod wedi darllen fesul pennod wrth i'r nofel gael ei hysgrifennu.
Fe alwodd y beirniad hon yn "nofel grefftus, chywrain ac angerddol".

Angie Roberts
Plant a Phobl Ifanc (Cymraeg)
Arwana Swtan a'r Sgodyn Od (Gwasg y Bwthyn) gan Angie Roberts a Dyfan Roberts wnaeth gipio'r wobr yn y categori Plant a Phobl Ifanc. Eu merch, Efa Dyfan oedd arlunydd y gyfrol.
Wrth dderbyn y wobr, meddai Angie o'r llwyfan: "Yn y bôn dwi'n sgwennu i blant am fod gymaint ganddyn nhw i ddysgu i ni.
"Mewn ysgolion cynradd ledled Gwynedd a Môn, dwi wedi fy ysbrydoli gan eu gallu nhw i feddwl tu allan y bocs. Gan eu synnwyr cryf o degwch sy'n rhoi gobaith i ni yn y byd sydd ohoni heddiw."

Chloë Heuch
Plant a Phobl Ifanc (Saesneg)
A History of My Weird (Firefly Press) gan Chloë Heuch ddaeth i'r brig. Dyma stori Mo wrth iddo gychwyn yn yr ysgol, a derbyniodd y llyfr ganmoliaeth gan y beirniaid am y modd mae'n portreadu bywyd person ifanc nirwoamrywiol ac am ddathlu y pethau sy'n gwneud pawb yn unigryw.
Mae addasiad Cymraeg gan Delyth Ifan a Mared Llwyd o'r gyfrol ar y gweill o'r enw Hanes Fy Hynodrwydd.

Gwenno Gwilym - V a fo
Gwobr Ffuglen (Cymraeg) a Barn y Bobl Golwg360
Mae V + Fo (Gwasg y Bwthyn) gan Gwenno Gwilym yn stori ramant sy'n ystyried y cymhlethdodau o fagu plant pan fo cwpwl ifanc yn gwahanu, ac yn ceisio llywio hynny mewn dwy iaith.
Cafodd y wobr Barn y Bobl ei rhoi yn dilyn pleidlais gyhoeddus ar wasanaeth Golwg360, ac fe dderbyniodd Gwenno Gwilym waith celf gan yr artist Awel Mari o Adran Gelf Prifysgol y Drindod, Dewi Sant.

Gwyneth Lewis
Ffeithiol Greadigol (Saesneg)
Nightshade Mother (Calon Books) gan Gwyneth Lewis ddaeth i'r brig, llyfr gonest sy'n trafod agweddau heriol o fagwraeth yr awdur.
Ar raglen Dros Ginio llynedd, fe ddywedodd yr awdur profiadol fod hon yn gyfrol y mae wedi bwriadu ei ysgrifennu ar hyd ei hoes:
"Gyda cham-drin emosiynol, byddech chi'n meddwl byddai'r canlyniadau yn gwella wrth i chi heneiddio ac aeddfedu. Ond fy mhrofiad i yw fod yr effeithiau yn mynd yn waeth, nid gwell.
"...Er mwyn cael gwared o'r ysbrydion yna, roeddwn i'n meddwl fod rhaid i mi wneud y llafur caled o edrych ar natur y profiad a'i effeithiau arna'i."

Rhian Elizabeth
Barddoniaeth (Saesneg) a Gwobr Barn y Bobol Nation.cymru
Daw Rhian Elizabeth o'r Rhondda, ac fe gipiodd ddwy wobr gyda'i chyfrol Girls etc (Broken Sleep Books).
Mae'r awdur yn ysgrifennu o safbwynt personol, a derbyniodd y gyfrol ganmoliaeth y beirniaid am fod yn 'dapestri cyfoethog sy'n tynnu'r darllenydd yn agos' ac am eglurder emosiynol y gwaith.
Wrth ddiolch o'r llwyfan fe ddiolchodd yr awdur "i'r holl ferched ofnadwy wnaeth ysbrydoli'r llyfr, gallwn i ddim fod wedi ei wneud hebddoch chi!"

Meleri Davies
Barddoniaeth (Cymraeg)
Rhuo ei distawrwydd hi (Cyhoeddiadau'r Stamp) gan Meleri Davies ddaeth i'r brig yn y categori Cymraeg am farddoniaeth.
Fe ddiolchodd i Gyhoeddiadau Stamp yn enwedig wrth dderbyn y wobr:
"Heb y Stamp bydden i ddim wedi cyhoeddi. Dwi yn fy mhedwardegau a nhw sydd wedi rhoi'r hyder i mi ddechrau rhannu fy ngwaith.
"Mae hon am ferched tawel yn dechrau ffeindio eu llais".
Bydd rhifyn arbennig o raglen Ffion Dafis ar Radio Cymru ddydd Sul yn dathlu llyfrau buddugol eleni.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd25 Mehefin