Portreadau o ferched ar lestri ac mewn geiriau

Cwpan Angharad TomosFfynhonnell y llun, Lowri Davies
Disgrifiad o’r llun,

Ceridwen a Rwdlan - dwy o gymeriadau adnabyddus llyfrau Gwlad y Rwla sydd ar un o'r darnau o lestri yng nghasgliad Angharad Tomos

  • Cyhoeddwyd

Mae artist a bardd wedi cydweithio ar brosiect celf arbennig sy'n cyfuno cerameg a geiriau er mwyn creu portreadau o ferched.

Yn yr arddangosfa, Merched ar Lestri, mae gwaith yr artist cerameg, Lowri Davies, yn eistedd ochr-yn-ochr â darnau ysgrifenedig gan y bardd, Elinor Gwynn, ac yn cynnig cipolwg ar fywydau a phersonoliaethau saith dynes wahanol sy'n byw yng Nghymru.

Mewn cerameg...

Daeth y prosiect i fod yn dilyn ymddangosiad Lowri - sy'n creu darluniau cywrain ar lestri cerameg, fel cwpanau a phlatiau - ar y gyfres S4C, Cymru ar Gynfas, ble cafodd greu portread o'r Aelod Seneddol, Liz Saville-Roberts.

Cafodd wedyn ei gwahodd i gydweithio gydag Elinor i lunio portreadau o ferched amrywiol o Gymru. A chanlyniad dros ddwy flynedd o waith yw portreadau mewn cerameg ac mewn geiriau o saith merch o gefndiroedd, gyrfaoedd ac oedrannau gwahanol.

"O'n i eisiau merched oedd yn edrych yn weledol ddiddorol, oedd wedi cyflawni rhywbeth," eglurodd Lowri. "Liz Saville-Roberts oedd y cynta', gyda'i gwallt pinc hi; o'n i'n meddwl 'sa hynny wir yn ddiddorol.

"Dwi'n hoffi meddwl amdano fo fel clytwaith; dechrau efo un, a dod ag eraill at ei gilydd a gweld beth oedd angen a phwy oedd yn gweddu efo'i gilydd yn yr arddangosfa. Os faswn i'n dechrau eto fory, 'sa'r casgliad siŵr o fod yn wahanol."

Portread mewn cerameg o Dolly ChildsFfynhonnell y llun, Dewi Tannatt Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Portread mewn cerameg o Dolly Childs, sydd wedi creu gardd drofannol yn ei gardd yn y Drenewydd

A hithau wedi arfer â gweithio ar ei phen ei hun yn ei stiwdio, doedd hi nid yn unig yn gorfod cydweithio'n agos ag Elinor, ond hefyd â'r merched roedd hi'n eu portreadu. Er mwyn creu portreadau cywir a llawn, roedd hi angen treulio amser gyda nhw a dod i'w hadnabod yn well, eglurodd.

"O'n i'n eu cyfweld ac yn eu recordio nhw, ac yn danfon y recordiadau sain ymlaen at Elinor.

"Fi oedd yn llywio'r cyfweliadau, ond roedd Elinor hefyd yn rhoi ambell i gwestiwn i mi ofyn iddyn nhw. O'dden ni'n edrych am bethau gwahanol; o'n i angen pethau gweledol.

"O'n ni'n siarad am olygfeydd o bwys neu bethau o bwys. Roedd Georgia Ruth yn ddiddorol achos roedd hi wir yn glir am sut roedd hi eisiau cael ei phortreadu; o'dd Pen Llŷn yn bwysig iddi, a'r lliw melyn.

"Ar gasgliad Liz mae Eglwys Gadeiriol Salisbury, achos o'dd ei thaid hi yn saer yna. O'dd nain Dolly [Childs] yn bwysig iddi hi hefyd.

"O'dd Krystal Lowe yn wahanol achos 'nes i ei chyfweliad hi tra roedd ei mab hi efo hi, ac mae 'na elfennau ohono fe yn y casgliad hefyd."

Casgliad Krystal LoweFfynhonnell y llun, Dewi Tannatt Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lowri wedi addurno casgliad y ddawnswraig, Krystal Lowe, yn lliwgar iawn, i gynrychioli ei mab

Aeth Lowri yna ati i greu casgliad o wahanol eitemau o lestri, gyda phob llestr yn darlunio rhan wahanol o bersonoliaeth y ddynes.

"Dydyn nhw ddim jest yn wyneb yr unigolyn; mae'n lot o elfennau amdanyn nhw.

"Oedden nhw i gyd yn eitha' gwahanol, ond yn bortread cyflawn o'r unigolyn."

... ac mewn geiriau

Lle'r oedd Lowri yn gorfod creu rhywbeth o'r newydd, roedd Elinor yn dechrau gyda 'swmp anferth o eiriau' ar ôl trawsgrifio'r holl gyfweliadau.

Roedd hi wedyn angen torri'r swmp hynny i lawr yn 'gameos' ysgrifenedig cryno ond cynhwysfawr – tasg anodd iawn, â hithau â gymaint o eiriau i weithio gyda nhw, meddai:

"'Nes i amcangyfrif, efo'r holl gyfweliadau, o'n i'n gweithio efo rhyw 450,000 o eiriau yn y diwedd! Ac yn trio naddu rheiny lawr, yn bortreadau bach o'r menywod yma; pwy o'n nhw, beth oedd eu gwerthoedd nhw, y pethau oedden nhw'n teimlo fwyaf balch yn eu bywydau nhw, fel menywod...

"'Nes i benderfynu gwneud y portreadau geiriol 'ma yn lleisiau'r merched eu hunain, fel bod nhw, a'u ffyrdd bach unigol o siarad a mynegi eu hunain yn dod yn rhan o'r broses greadigol ac wedyn yn rhan o'r arddangosfa."

Geiriau 'Golud Gwlad yw ei Merched Glew' Ffynhonnell y llun, Dewi Tannatt Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

'Golud Gwlad yw ei Merched Glew' - geiriau Elinor sydd ar y bwa uwch gwaith cerameg Lowri, yn Oriel Mission, Abertawe, sydd yn hen eglwys

"O'n i'n gosod rheolau eithaf tynn i mi fy hun; o'n i ond yn defnyddio'r hyn oedden nhw wedi ei ddweud, yn y drefn roedden nhw'n dweud y geiriau.

"Mae proses fel yna yn heriol ac mae'n gofyn am wneud penderfyniadau eitha' sensitif am beth mae rhywun yn cadw mewn, beth mae rhywun yn gadael allan. Dwi'n gobeithio mod i wedi cadw'n driw i'w merched eu hunain.

"A dwi wrth fy modd, wrth eu darllen nhw, dwi'n clywed eu lleisiau nhw! Dwi'n hoffi'r ffaith eu bod nhw wedi eu sgwennu yn y ffordd maen nhw'n siarad hefyd yn hytrach na'u bod nhw wedi eu llyfnu'n ormodol, achos mae'r ffyrdd 'da ni'n siarad yn rhan ohona ni."

Y merched sydd yn cael eu portreadu yn Merched ar Lestri:

  • Novlet 'Dolly' Childs - garddwraig

  • Krystal Lowe - dawnswraig

  • Dr. Ffion Reynolds - archeolegydd

  • Nansi Richards - 'Telynores Maldwyn'

  • Liz Saville-Roberts, AS

  • Georgia Ruth - cerddor

  • Angharad Tomos - awdur ac ymgyrchydd

Dod o hyd i lais Nansi

Cafodd Lowri gyfle i gwrdd a chyfweld chwech o'r merched ar y rhestr, ond wrth gwrs, bu farw'r delynores enwog, Nansi Richards – y seithfed ddynes - yn 1979.

Sut felly wnaeth yr artistiaid oresgyn hyn, er mwyn cynhyrchu portreadau oedd yr un mor gynhwysfawr amdani hi, ag oedden nhw am y merched eraill?

"Roedd hi 'chydig bach o wildcard, ond o'dd Nansi yn ffrindiau efo Nain," eglurodd Lowri.

"Treulio amser yn y Llyfrgell Genedlaethol 'nes i, yn edrych ar hen ffilmiau; roedd rhyw bum cyfweliad yn yr Archif Sain a Theledu.

"A 'nath y ddwy ohona ni ddarllen Cwpwrdd Nansi, sy' jest yn llyfr mor arbennig. Mae ei thafodiaith hi yn y llyfr, ac mae'n drysor. Ti'n dod i'w 'nabod hi'n dda iawn."

Casgliad Nansi RichardsFfynhonnell y llun, Dewi Tannatt Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lowri yn awyddus i gynnwys telynores yn yr arddangosfa, ac fe benderfynodd wneud portread o Nansi Richards

Ychwanegodd Elinor: "'Nes i fwynhau'r llyfr gymaint. Hwnna 'nes i ei ddefnyddio i wneud y portread a thorri hwnna i lawr.

"Beth darodd fi oedd yr hiwmor oedd yn dod allan yn ei sgwennu hi; roedd yna rywbeth reit ddrygionus amdani."

Ar ddiwedd yr arddangosfa, bydd y merched gafodd eu holi yn derbyn y portreadau yn rhodd, gyda chasgliad Nansi Richards yn cael ei gyflwyno i'r Llyfrgell Genedlaethol.

Portreadau ychwanegol

Er mai saith dynes sydd wedi cael eu portreadu, mae wyth mewn cerameg ac wyth mewn geiriau yn yr arddangosfa, gan fod y naill artist wedi creu portread o'r llall hefyd.

Mae cerdd Elinor yn sôn am y tro cyntaf i'r ddwy gyfarfod, pan ymwelodd â stiwdio Lowri yn Nghaerdydd; 'lleoliad hollol fendigedig' a'i hysbrydolodd, meddai.

Mae Lowri wrth ei bodd â'r gerdd.

"O'n i methu credu ei bod hi wedi sgwennu cerdd mor hyfryd ynglŷn â dod i [stiwdio] Tudor Lane a gweld harddwch yn y lle.

"Mae'n nheulu i hefyd wrth eu boddau efo'r gerdd yma; mae hi'n arbennig iawn. Mi fydda i'n ei thrysori hi."

Mae arddangosfa Merched ar Lestri yn Oriel Mission, Abertawe tan 30 Awst 2025.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.