Bethan Elfyn: Edrych yn ôl ar 10 mlynedd o Gorwelion

  • Cyhoeddwyd

Deng mlynedd yn ôl cafwyd egin syniad; i ddathlu cerddoriaeth Gymreig mewn ffordd newydd, ffres, a thrawiadol.

Nid rhaglen deledu, nid rhaglen radio, nid gŵyl, nid un peth yn unig ond cynllun blwyddyn fyddai'n ymrwymo 12 artist dros gyfnod y calendr cerddorol i chwarae gwyliau, sesiynau radio, meithrin cysylltiadau, creu cymdeithas.

Disgrifiad,

Mae Bethan Elfyn wedi bod wrth lyw cynllun Gorwelion ers y dechrau, ddeng mlynedd yn ôl

Ffrwyth y syniad hwnnw oedd Gorwelion – cynllun a fyddai'n noddi, meithrin a rhoi cyfleoedd di-ri i artistiaid ar ddechrau eu taith gerddorol a chreadigol.

Gyda nawdd a chefnogaeth partneriaeth arbennig gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, aeth y cynllun o nerth i nerth.

Cafodd Cymru Fyw sgwrs efo'r person sydd wedi bod wrth y llyw ers y dechrau, Bethan Elfyn.

Bethan Elfyn
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Elfyn yw Rheolwr Cynllun Gorwelion

"Gan ein bod yn gynllun BBC roedden ni'n gallu manteisio ar radio, arlein a theledu i agor drysau i artistiaid newydd, a chwistrellu egni newydd i'r sîn yng Nghymru.

"A rydyn ni'n dal i holi; sut gallwn ni dynnu sylw ehangach at dalent Cymru ac allforio'r talent mwyaf i farchnadoedd cerddorol y byd?

Hollie Singer o Adwaith ar y llwyfan gyda gitâr drydanFfynhonnell y llun, Gorwelion
Disgrifiad o’r llun,

Hollie Singer o fand Adwaith yn perfformio yn Rough Trade East fel rhan o brosiect Wales in London gan Gorwelion

"Mae’r diwydiant cerddorol yn un cymhleth. Rhaid delio efo managers, asiantau byw, labeli bach, labeli mawr, gwyliau annibynnol, gwyliau corfforaethol – mae hi bron yn amhosib i gerddorion newydd ddeall beth yw’r camau a’r llwybrau angenrheidiol er mwyn chwarae'r gwyliau mawr y tu allan i Gymru.

"Who you know yw’r sefyllfa o hyd efo’r byd cerddorol, ac yn anffodus, mae’n cymryd dipyn o lwc a blynyddoedd o waith caled, ac hyd yn oed wedyn does dim guarantee am lwyddiant!

"Mae’n dipyn o her i gerddor ifanc sydd just moyn chwarae cerddoriaeth!"

Montage o rai o artistiaid Gorwelion
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r bandiau ac artistiaid mae Gorwelion wedi eu helpu ers 2014

Mae'r angerdd i gefnogi a meithrin dal yn amlwg yn Bethan wrth iddi siarad:

"Yr hyn sydd yn hwb enfawr yw bod 'na lwyddiant wedi bod yn y sîn: bod 'na gerddoriaeth o Gymru yn torri drwyddo, a bod 'na gefnogaeth eang ar gyfer artistiaid newydd bellach – Anthem, Forté, Beacons, Cerdd Cymunedol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Focus Wales, Tŷ Cerdd, Sŵn, Clwb Miwsig, Pyst, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, Tân Cerdd, Amlen, canolfannau a gwyliau newydd heb sôn am labeli gweithgar fel Libertino, I KA CHING, Recordiau Côsh – mae’r cyfleoedd yn niferus erbyn hyn.

"Ond mae'r diwydiant yn parhau'n gymhleth ac mae dal angen arweiniad ar fandiau ac artistiaid newydd."

Criw Gorwelion yng ngŵyl Rhif 6
Disgrifiad o’r llun,

Mwynhau arlwy Gorwelion!

"Un o’r pethau mwyaf cyffrous wrth edrych yn ôl dros y blynyddoedd yw’r amrywiaeth: lleoliadau, artistiaid, criwiau ffilmio a timoedd recordio, a’r holl wynebau a lleisiau ry'n ni wedi cwrdd â nhw dros y siwrne anturus!

"Dwi mor ddiolchgar i bawb am y cyfeillgarwch, a’r ffydd yn y cynllun a’r hwyl ni wedi'i rannu dros y cyfnod.

"Y dyfodol sy’n bwysig ond i edrych yn ôl am eiliad, dyma chydig o uchafbwyntiau i mi."

Uchafbwyntiau Bethan Elfyn

  • Yr artistiaid – diolch amdanoch, eich talentau chi sy’n galluogi ni i barhau!

  • Y criw – mae gymaint wedi mynd a dod yn gweithio ar y cynllun ond diolch am eich brwdfrydedd!

Disgrifiad,

Ffilm fer am sesiwn Gwilym yn Maida Vale 2019

  • Recordio sesiynau yn Maida Vale, Rockfield, Sain a Sgwâr Canolog!

  • Ffilmio ar leoliad: sesiynau gwyllt Gorwelion!

Disgrifiad,

Tara Bandito yn gwneud un o Sesiynau "gwyllt" Gorwelion

  • Mynd â chynifer o fandiau i wyliau cerddorol: Truck, No. 6, Glastonbury, Reading/Leeds, Great Escape, SXSW, Liverpool Sound City, in it together, Eisteddfod, Tafwyl, Reeperbahn, Rudolstadt, Eurosonic, Greenman, a mwy

  • Cyweithiau a chaneuon arbennig: creu anthemau newydd!

Disgrifiad,

NoGood Boyo – Bwmba yn fyw o Ŵyl Rhif 6

  • Cydweithio brwd: o BBC Introducing, BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales, Wales Arts International, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Fortè, Beacons, Music Ally, PRSF, Power Up, FAW, a mwy

Disgrifiad,

Perfformiad arbennig HMS Morris yn Stiwdio Gorwelion ar faes Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni, 2016.

Bydd Gorwelion yn dathlu 10 mlynedd gyda gig arbennig ar y cyd â Forté Project yng nghanolfan The Gate yng Nghaerdydd ar Hydref 3, 2024.

Mae'r rownd ymgeisio am nawdd y Gronfa Lansio ar agor nawr hefyd.