Cynllun am westy 'cyntaf o'i fath' i arnofio ym Mae Caerdydd

Byddai gan y gwesty 120 o ystafelloedd, ac wedi'i leoli wrth ymyl Parc Britannia ym Masn Y Rhâth
- Cyhoeddwyd
Gallai gwesty sy'n arnofio gyda 120 ystafell gael ei angori ym Mae Caerdydd erbyn 2027, o dan gynnig gan ddatblygwyr.
Datgelodd cwmni o'r Ffindir, Meyer Floating Solutions, ynghyd â Morfield Floating Hotels o'r DU, eu cynlluniau ar gyfer y gwesty ar angorfa ger Eglwys Norwyaidd y ddinas.
Mae'r ffaith bod arena gyda 15,000 o seddi wrthi'n cael ei adeiladu ym Mae Caerdydd yn golygu bod "lle am westy arall", meddai asiant Meyer Floating Solutions,
"Rydyn ni'n gallu darparu'r gwesty hwn mewn tua 16 mis," meddai, gan ychwanegu y byddai'r prosiect yn creu hyd at 35 o swyddi parhaol.

Map yn dangos ble fyddai'r gwesty ym Masn Y Rhâth
Aeth yr asiant, John Moore, yn ei flaen i ddweud fod cynllun o'r fath yn unigryw i'r ardal ac yn cynnig "atyniad o fod ar y dŵr".
Dywedodd bod gwestai o'r fath yn Llundain a Chaeredin eisoes, ond mai dyma fyddai'r un cyntaf i Gaerdydd.
Esboniodd Mr Moore y byddai'r gwesty yn cael ei gynhyrchu yn rhywle arall, ac yna'n cael ei anfon i Fae Caerdydd.
Ni fyddai'r gwesty'n medru symud trwy ei fodd ei hun, ac mae'n debygol y byddai'n gorfod cael ei dynnu er mwyn medru ei symud ar y dŵr.
Byddai maes parcio brys o flaen y gwesty a man llwytho ar gyfer danfon nwyddau, tra hefyd yn defnyddio meysydd parcio presennol yr ardal.
O ran cerddwyr a beicwyr sy'n defnyddio'r ardal, dywedodd Mr Moore y byddai croeso iddynt yn y gwesty.
"Daliwch ati i feicio a cherdded, a stopiwch am goffi," meddai.

Byddai'r gwesty ei hun yn manteisio ar dechnoleg, gyda phobl yn defnyddio systemau electronig er mwyn cael mynediad.
Dywedodd Mr Moore fod y syniad o westy symudol yn tyfu mewn poblogrwydd "oherwydd bod tir mor ddrud - ac yma mae gennych chi wagle dŵr sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ddigon".
Mae cais cynllunio yn cael ei baratoi, ac mae ymgynghoriad cyhoeddus yn y misoedd nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2024