Cadeirlan Bangor: Ymgyrchwyr yn codi £14,000 i achub swyddi

Cadeirlan Bangor
  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr sydd yn gysylltiedig â Chadeirlan Bangor wedi codi bron i £14,000 mewn wythnos fel rhan o ymgais i achub dwy swydd sydd dan fygythiad.

Ddechrau Medi, datgelodd Newyddion S4C fod pump a hanner o swyddi dan fygythiad o ganlyniad i "bwysau ariannol".

Daw wedi cyfnod cythryblus i'r Gadeirlan a'r Esgobaeth, gydag adroddiadau o gamymddwyn arweiniodd at ymddeoliad sydyn Esgob Bangor ac Archesgob Cymru, Andy John, ddiwedd mis Mehefin. Does dim awgrym bod y cyn-Archesgob ei hun wedi camymddwyn.

Mae côr y Gadeirlan hefyd wedi eu gwahardd am gyfnod wedi iddyn nhw ganu cân o brotest a gadael gwasanaeth yn gynnar ddiwedd mis Awst.

Mewn ymgais i arbed dwy swydd rhan amser ar gyfer cantorion proffesiynol i gôr y Gadeirlan, mae cefnogwyr wedi codi miloedd o bunnoedd mewn wythnos.

Dywedodd Simon Ogdon, aelod o'r côr a gychwynnodd yr ymgyrch, mai'r bwriad oedd achub y swyddi am flwyddyn o leiaf.

"Ry'n ni'n ymwybodol o'r sefyllfa ariannol heriol sydd yn wynebu'r Gadeirlan a'r effaith allai hynny ei gael ar yr adran gerddorol," meddai.

Gobaith Mr Ogdon yw y bydd yr arian yn cael ei dderbyn gan y cabidwl er mae'n pwysleisio nad ydyn nhw wedi cael ymateb ffurfiol o ran derbyn y rhodd hyd yn hyn.

Aled JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae arian yn cael ei godi i gadw cantorion lleyg y côr yn eu lle eleni a chynnal rôl llawn amser y Cyfarwyddwr Cerdd," meddai Aled Jones

Ymhlith y rhai sydd wedi cefnogi'r ymgyrch mae'r canwr Aled Jones.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd: "Fel plentyn, cefais fy magu yn canu yng Nghadeirlan Bangor, safle Cadeirlanol hynaf Prydain, sydd yn dathlu 1500 mlwyddiant eleni.

"Mae'r côr yn wynebu diswyddiadau sylweddol fyddai'n golygu na all weithredu fel y bu yn y gorffennol.

"Mae arian yn cael ei godi i gadw cantorion lleyg y côr yn eu lle eleni a chynnal rôl llawn amser y Cyfarwyddwr Cerdd - gall datrysiadau hirdymor gael eu canfod wedi i'r ariannu cychwynnol yma gael ei sicrhau."

"Plîs ystyriwch roi er mwyn arbed y rhan pwysig yma o dreftadaeth gerddorol."

Cadeirlan Bangor

Ers dechrau codi arian ddydd Sadwrn diwethaf, mae'r ymgyrchwyr wedi cyrraedd eu nod o godi £13,500.

Maen nhw'n dweud byddai hynny'n ddigon i arbed dwy swydd rhan amser, ac y gallai grantiau gyfrannu arian ychwanegol i weithgareddau cerddorol y Gadeirlan.

Mae Newyddion S4C yn deall bod Cabidwl y Gadeirlan wedi cwrdd â phenderfynu p'run ai ydyn nhw am dderbyn yr arian, ac ar ddiswyddiadau posibl yn y Gadeirlan.

Doedden nhw ddim am wneud unrhyw sylw ar ddiswyddiadau ar hyn o bryd.

Llun o Dr Manon Ceridwen JamesFfynhonnell y llun, Esgoabeth Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dr Manon Ceridwen James ddechrau yn ei rôl newydd fel Deon ym mis Medi

Fe wnaeth llefarydd anfon e-bost gan Ddeon newydd y Gadeirlan, Dr Manon Ceridwen James, at aelodau'r côr.

Yn yr e-bost yna, mae'n cynnig cyfle i aelodau wisgo'i hurddwisgoedd a chanu emynau yng ngwasanaeth y cynhaeaf ddydd Sul yma.

"Gallwn gael sgwrs ddydd Sul am sut mae symud ymlaen," dywedodd wrth aelodau.

"Gyda chymhlethdod y sefyllfa a chryfder teimladau, byddaf yn parchu unrhyw benderfyniadau y gwnewch chi am ddydd Sul a'r wythnosau nesaf, a bydd hi'n bwysig i ni gyfathrebu yn agored ac yn onest."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig