Disgwyl mai Darren Millar fydd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd

Darren Millar Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd, Darren Millar yw prif chwip y Ceidwadwyr yn y Senedd

  • Cyhoeddwyd

Mae'n edrych bron yn anochel taw Darren Millar fydd arweinydd nesaf y Ceidwadwyr yn y Senedd.

Mae'n ymddangos fel bod y grŵp wedi uno o amgylch yr un ymgeisydd, ac felly ni fyddai unrhyw gystadleuaeth.

Hyd yn hyn dim ond Mr Millar sydd wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll yn y ras i olynu Andrew RT Davies, a bydd angen i unrhyw ddarpar ymgeisydd gael enwebiadau gan dri AS arall erbyn 17:00 ddydd Iau.

Mae gan Mr Millar bellach gefnogaeth gyhoeddus gan bob un o'i gyd-aelodau.

Pe bai’n cael ei gadarnhau, Mr Millar fyddai’r trydydd arweinydd i gymryd rheolaeth dros blaid Gymreig yn y Senedd heb bleidlais gan aelodau mewn dwy flynedd – ochr yn ochr ag Eluned Morgan dros Lafur a Rhun ap Iorwerth dros Blaid Cymru.

Byddai'n arwain y blaid yn etholiad y Senedd 2026, lle mae arolygon barn diweddar wedi awgrymu bod y blaid yn y pedwerydd safle, y tu ôl i Blaid Cymru, Llafur a Reform.

Pwy yw Darren Millar?

Ar hyn o bryd, ef yw prif chwip y Ceidwadwyr yn y Senedd a'u llefarydd ar y cyfansoddiad a gogledd Cymru.

Cafodd ei ailbenodi i rôl mainc flaen y Ceidwadwyr yn 2021 wedi iddo roi'r gorau i'r swydd yn dilyn ffrae dros yfed alcohol.

Roedd yn feirniad croch o Lywodraeth Cymru pan oedd yn llefarydd iechyd y blaid, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Gogledd o dan ei lach yn aml.

Bu’n gadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dylanwadol y Senedd.

Mae’n ymddiriedolwr elusen Gristnogol, Sefydliad Evan Roberts, sydd wedi denu beirniadaeth am ei chysylltiad â gweinidog o’r enw Yang Tuck Yoong, a gafodd ei feirniadu am safbwyntiau homoffobig. Mae Millar wedi dweud nad yw’n cefnogi’r safbwyntiau hynny.

Mae'n disgrifio ei hun fel "Cristion ymroddedig, yn ddarllenydd brwd ac yn seryddwr amatur".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n edrych bron yn anochel taw Darren Millar fydd arweinydd nesaf y Ceidwadwyr yn y Senedd

Mae wedi cynrychioli Gorllewin Clwyd yn y Senedd ers 2007.

Dywedodd ei fod, cyn cael ei ethol i'r Senedd, yn gweithio "fel rheolwr i elusen ryngwladol yn cefnogi Cristnogion sy’n cael eu herlid ar draws y byd. At hynny, bu’n gyfrifydd yn gweithio yn y diwydiannau adeiladu, cartrefi gofal a thelathrebu."

Mae'n byw ym Mae Cinmel gyda'i wraig a'u dau blentyn.

Dadansoddiad

Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, Daniel Davies

Ar ddiwedd blwyddyn o newid mawr gwleidyddol, mae Ceidwadwyr y Senedd yn ei gorffen yn yr un sefyllfa â’r Blaid Lafur.

Yn y ddwy blaid, mae arweinwyr wedi cael eu disodli - Vaughan Gething aeth yn gyntaf; nawr Andrew RT Davies.

Ond nid eu beirniaid sy’n etifeddu’r goron.

Yn y naill blaid, mae aelodau’r Senedd wedi coroni rhywun maen nhw’n gobeithio uno y tu ôl iddyn nhw - Eluned Morgan a, siŵr o fod, Darren Millar.

Mae gan y ddau wleidydd rhywbeth arall yn gyffredin - etholiad i’r Senedd yn 2026, sy’n addo bod yn anodd dros ben i’w pleidiau.

Dywedodd Darren Millar wrth y BBC fore Mercher ei fod yn credu mai fe yw'r ymgeisydd all "uno'r blaid" yng Nghymru.

Fe wnaeth Mr Millar gefnogi Andrew RT Davies yn y bleidlais hyder a'i ddisgrifio fel "arweinydd aruthrol sydd wedi cyfrannu at Gymru a'r Senedd".

"Mae wedi ein harwain gyda rhagoriaeth am ymhell dros ddegawd," meddai.

“Dyna’r etifeddiaeth rydw i eisiau adeiladu arni a pham rydw i wedi cynnig fy hun i fod yn arweinydd nesaf grŵp y Senedd.

“Mae’n rhaid i ni fynd yn ôl at ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ac mae’n rhaid i hynny fod yn ffocws i ni.

"Rwy'n optimistaidd am y dyfodol," ychwanegodd.