Parthau trydan 'yn bygwth cynyddu biliau ynni Cymru'

Mae'r syniad o rannu Prydain yn barthau gyda phrisiau gwahanol ar gyfer trydan wedi bod yn bwnc llosg yn y diwydiant ers rhai blynyddoedd
- Cyhoeddwyd
Mae "risg sylweddol" y gallai biliau ynni yng Nghymru godi o dan gynigion i rannu Prydain yn wahanol barthau ar gyfer pris trydan, yn ôl Plaid Cymru.
Mewn llythyr at yr ysgrifennydd ynni, mae'r blaid yn codi pryderon y gallai rhannau o Gymru gael eu gosod yn yr un parthau â dinasoedd mawr Lloegr.
Y syniad yw i ardaloedd sydd â llawer o gynlluniau ynni gwyrdd, ond llai o alw am bŵer, dalu pris is am drydan.
Tra gallai rhanbarthau â galw uchel a llai o bŵer glân dalu mwy.
Dywedodd Llywodraeth y DU nad oedd wedi gwneud penderfyniad eto a ddylid cyflwyno prisiau parthol, ond y byddai'n canolbwyntio "ar amddiffyn talwyr biliau ac annog buddsoddiad".

Mae UK Steel wedi rhybuddio y gallai'r cynlluniau effeithio ar safleoedd fel gweithfeydd dur Port Talbot, sydd yn y broses osod ffwrnes drydan
Ar hyn o bryd mae un pris cyfanwerthol am drydan, sy'n cael ei osod ar gyfer Prydain i gyd.
Dywed cefnogwyr y byddai symud i brisio parthol yn helpu'r DU yn yr ymdrech i symud oddi wrth danwyddau ffosil, gan ganiatáu iddi wneud defnydd mwy effeithiol o ynni gwyrdd.
Y syniad ydy y byddai defnyddwyr ynni uchel - fel canolfannau data mawr - yn dewis lleoli eu hunain mewn rhanbarthau gyda digon o ynni adnewyddadwy a phrisiau is.
Yn y cyfamser, mae'n bosibl y bydd cynlluniau ynni gwyrdd yn cael eu cymell i sefydlu mewn ardaloedd lle mae prinder pŵer glanach ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ymgynghori ers sawl blwyddyn ar ddiwygiadau i'r farchnad drydan, gan gynnwys a ddylai gyflwyno prisiau parthol.
Mae disgwyl penderfyniad yn y misoedd nesaf.
Cymru'n 'gyfoethog o ran ynni'
Dyw hi ddim yn glir eto beth fyddai cynllun unrhyw system barthol, a dyw'r llywodraeth heb gynnig nifer na lleoliad y parthau sydd dan ystyriaeth.
Ond mae gwaith modelu a gafodd ei wneud ar ei ran gan ymgynghorwyr LCP Delta yn rhannu'r DU yn rhanbarthau ar hyd llinellau pŵer presennol.
Y canlyniad yw y byddai de Cymru yn yr un parth â Llundain, tra byddai llawer o'r canolbarth a gogledd Cymru yn cael eu cyfuno mewn parth â dinasoedd fel Manceinion a Leeds.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar ynni, Llinos Medi AS, fod "perygl sylweddol y bydd biliau ynni Cymru yn cynyddu o dan y model hwn".
Yn ysgrifennu at yr ysgrifennydd ynni Ed Miliband, dywedodd fod Cymru'n "genedl gyfoethog o ran ynni ac yn allforiwr trydan i rannau eraill o'r DU".
"Er gwaetha'r ffaith hon, mae Cymru hefyd yn genedl sy'n dlawd o ran tanwydd, gyda 45% o gartrefi wedi bod mewn tlodi tanwydd," ychwanegodd, gan alw am ystyried un parth i Gymru gyfan.

Mae gwaith modelu LCP Delta yn rhannu'r DU yn rhanbarthau ar hyd llinellau pŵer presennol
Mae'r syniad o brisio parthol wedi sbarduno dadl ffyrnig o fewn y sector ynni.
Mae Renewable UK Cymru - sy'n cynrychioli datblygwyr ynni glân - wedi rhybuddio'r llywodraeth rhag bwrw ati.
Byddai newid mawr yn nhrefniadau'r farchnad yn creu ansicrwydd i fuddsoddwyr, gan greu peryg posib i brosiectau yng Nghymru, tra'n creu "loteri cod post" i dalwyr biliau, yn ôl y sefydliad.
"Rydym yn bryderus iawn y byddai Cymru ar ei cholled o hyn," meddai Abi Beck o'r corff masnach.
"Os edrychwch chi ar y gwaith dur ym Mhort Talbot er enghraifft - defnyddiwr trydan uchel sy'n ceisio trosglwyddo o danwydd ffosil i ffwrnais arc trydan - dydyn nhw ddim yn gallu codi a symud i'r Alban oherwydd bod prisiau ynni'n is.
"Mae pawb eisiau gostwng prisiau a chymell ynni adnewyddadwy – ond dydyn ni ddim yn meddwl mai dyma'r ffordd i'w wneud."
Galwodd ar y llywodraeth i fuddsoddi mewn gwell seilwaith grid i alluogi mwy o gynlluniau ynni gwyrdd i ddod yn realiti.

Mae Abi Beck o Renewable UK Cymru yn rhybuddio y bydd Cymru ar ei cholled petai Llywodraeth y DU yn bwrw ati a'r syniad o barthau pris trydan
Fodd bynnag, mae cyflenwr ynni mwyaf y DU, Octopus Energy, yn dweud mai prisiau parthol yw'r "unig beth sydd ar y bwrdd" a allai arwain at ostyngiadau i dalwyr biliau yn y blynyddoedd i ddod.
Dywedodd Rachel Fletcher, cyfarwyddwr rheoleiddio'r cwmni, y byddai'n arwain at "system lawer mwy effeithlon", gan annog ynni i gael ei ddefnyddio yn nes at y man lle mae'n cael ei gynhyrchu ac ar adegau pan mae digon ohono, yn hytrach na chael ei wastraffu.
Roedd y DU wedi gwario £250m hyd yma eleni ar dalu ffermydd gwynt mawr i roi'r gorau i gynhyrchu ar adegau o alw isel er mwyn peidio â gorlethu eu grid lleol, nododd.
Mae modelu'r cwmni ei hun yn awgrymu y gallai cwsmeriaid Prydain arbed "rhwng £55-£74bn ar filiau trydan erbyn 2050" drwy symud i brisio parthol, gyda phob rhanbarth yn gweld gostyngiad cyffredinol yn y pris maen nhw'n ei dalu am drydan o gymharu â nawr.
"Ar draws y byd gorllewinol mae gennym ni brisiau parthol a lleoliadol mewn llawer o wledydd eraill sy'n dal i fod yn llwyddiannus iawn o ran denu buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy. Dylen ni gofleidio y newid hwn," meddai.

Mae Octopus Energy yn mynnu y byddai pob rhanbarth yn gweld gostyngiad yn eu biliau o sicrhau defnydd mwy effeithiol o gapasiti ynni glan Prydain
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net: "Mewn byd ansefydlog, yr unig ffordd i warantu ein diogelwch ynni a diogelu defnyddwyr rhag siociau prisiau ynni yn y dyfodol yw trwy symud tuag at bŵer sy'n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain.
"Rydym yn ystyried diwygiadau i drefniadau marchnad drydan Prydain, gan sicrhau bod y rhain yn canolbwyntio ar ddiogelu talwyr biliau ac annog buddsoddiad.
"Byddwn yn rhoi diweddariad maes o law."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2024