Môn: Cysylltedd dros y Fenai 'yn fater o argyfwng'
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol Ynys Môn wedi galw eto ar Lywodraethau Cymru a'r DU i gydnabod bod angen gwell cysylltedd rhwng yr ynys a'r tir mawr.
Wrth siarad â rhaglen Dros Frecwast ddydd Iau, dywedodd Llinos Medi nad oedd "gwytnwch y cysylltedd yn bodoli".
Mae'r ddadl dros gael trydedd bont dros y Fenai ai peidio wedi bod yn bwnc trafod ers nifer fawr o flynyddoedd bellach.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i wella cadernid croesfannau’r Fenai" a'u bod yn "edrych ar nifer o fesurau a fydd yn lleihau’r achosion o gau Pont Britannia".
Yn ôl Llywodraeth y DU, ni fyddai'n addas iddyn nhw ymateb gan fod y mater wedi'i ddatganoli.
Y llynedd, penderfynodd Llywodraeth Cymru i ganslo pob prosiect mawr i adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru oherwydd pryderon amgylcheddol.
Ond penderfynwyd yn ddiweddarach y gallai’r groesfan dros y Fenai gael ei hystyried eto fel rhan o adolygiad ehangach o seilwaith gogledd Cymru.
Ynys Môn yn cael ei thrin yn wahanol?
Dywedodd Llinos Medi: "Os fysa 'na unrhyw ardal arall yng Nghymru neu Brydain efo'r posibilrwydd o gael eu torri ffwrdd yn gyfan gwbl a 70,000 o boblogaeth yna mi fysa 'na gynllun argyfwng.
"Ers i mi fod yn arweinydd [Cyngor Môn] yn 2017, dwi 'di bod yn gweiddi ar y llywodraeth iddyn nhw ddeall pwysigrwydd y cysylltedd yma."
Dywedodd hefyd fod y tagfeydd presennol dros y pontydd yn amharu ar yr ardal leol.
"Mae'n amharu ar bobl Llanfair, Borth a'r ardal yma i fedru mynd, nid yn unig yn eu bywydau o ddydd i ddydd, ond mae 'na effaith ar ysgolion ac yn y blaen."
Mae Dafydd Edwards yn gyn-swyddog diogelwch ffyrdd, ac yn byw ar yr ynys.
Mae Mr Edwards o'r farn fod cau Pont y Borth yn 2022 wedi cael effaith negyddol ar yr ardal.
"Mi gaeodd y bont yn sydyn iawn, tagfeydd aruthrol am gyfnod, ac mae'r ciwiau yn rhywbeth dyddiol i ddweud y gwir."
Ciwiau 'ddim yn cymharu' â'r dinasoedd mawr
Ond er yn awyddus i weld trydedd bont dros y Fenai, mae Mr Edwards yn dweud fod tagfeydd gwaeth i'w cael mewn mannau eraill.
"Wedi dweud hynny, dwi ddim yn meddwl fod y ciwiau yn cymharu i'r hyn mewn dinasoedd mawr a'r trefi mawr.
"Beth sy'n poeni pobl yr ynys fwyaf ydy beth sy'n digwydd pan mae 'na ddigwyddiad difrifol ar un o'r pontydd."
Ychwanegodd: "Pan mae 'na ddamwain mae'n cau i holl drafnidiaeth a gyda dim ond Pont Menai ar gael wedyn, a honno'n cael gwaith arni... mae'n boen i bobl yr ynys.
"Dwi'm yn meddwl, o gymharu â chostau pethau eraill fel cynllun HS2 er enghraifft - dwi'm yn meddwl fod o'n gost aruthrol."
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
Yn ôl Llinos Medi, mae'r diffyg trydydd croesiad yn cael effaith ar economi'r ynys ac ar ddenu busnesau newydd i'r ardal.
"Mae 'na gynlluniau enfawr posib yma ar Ynys Môn ac mi yda' ni angen hyrwyddo hynny, mae angen hyrwyddo'r economi, mi yda' ni angen hyrwyddo ein hardal i fuddsoddi ynddo fo," meddai.
"Os yda' chi'n chwilio ac yn edrych ar Ynys Môn - y pryder cysylltedd yna ydy un o'r pethau cyntaf sy'n cael ei godi."
Mae rhai yn dadlau fod y gost a'r effaith ar yr amgylchedd angen eu hystyried wrth feddwl am y cysylltiad rhwng yr ynys a'r tir mawr.
Ond yn ôl yr aelod seneddol newydd, mae'n bwysig buddsoddi yn yr isadeiledd.
Ychwanegodd Ms Medi: "O ran y gost, 200 mlynedd yn ôl, mi oedd Pont Borth yn ddrud ofnadwy ond mae hi wedi talu ar ei chanfed, dyna ydy buddsoddi mewn gwlad, economi ac mewn gwytnwch gwlad.
"Ac mae'r elfen amgylcheddol - mae'n rhaid i ni fod yn onest gyda'r gymuned yma, oherwydd os oes yna drydydd cysylltiad, mae'n rhaid i ni gael sgwrs agored iawn ynglŷn â beth fydd effaith hynny ar y gymuned wrth ei ddatblygu."
'Edrych ar nifer o fesurau'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i wella cadernid croesfannau’r Fenai".
"Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar nifer o fesurau a fydd yn lleihau’r achosion o gau Pont Britannia gan gynnwys cyflwyno gwyrwyr gwynt (wind deflectors), terfynau cyflymder amrywiol a newidiadau i osodiad y brif reilffordd ar draws y bont.”