Betsi: Aelod annibynnol yn ymddiswyddo ar ôl wythnos

  • Cyhoeddwyd
Lesley Singleton
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lesley Singleton yn arfer gweithio i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae aelod newydd o fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi ymddiswyddo - wythnos yn unig ar ôl cael ei phenodi.

Fe ymddangosodd enw Lesley Singleton ar wefan bwrdd iechyd y gogledd yr wythnos diwethaf fel aelod annibynnol newydd o'r bwrdd.

Ymddiswyddodd 11 aelod annibynnol blaenorol y bwrdd iechyd ym mis Chwefror, gan ddweud bod y gweinidog iechyd Eluned Morgan wedi eu gorfodi nhw i adael.

Roedd gwleidyddion Ceidwadol a Phlaid Cymru yn y Senedd wedi codi amheuon am yr apwyntiad, wedi i Newyddion S4C ddatgelu bod Ms Singleton wedi gweithio i'r bwrdd iechyd tan haf y llynedd ac wedi treulio cyfnod fel aelod o'r bwrdd tra yn gyfarwyddwraig yno.

Pryderon am dryloywder

Fe wnaeth Newyddion S4C gysylltu â Llywodraeth Cymru yn nodi bwriad i ddarlledu pryderon am dryloywder a pha mor addas oedd penodi Ms Singleton.

Mewn ymateb derbyniwyd datganiad byr yn dweud ei bod wedi gweithio ym maes iechyd meddwl ers 25 mlynedd ac yn "dod â chyfoeth o brofiad ym maes rheoli iechyd meddwl, rheoleiddio, gwella safonau a chomisiynu ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol".

Ond ddydd Mercher, cysylltodd swyddogion Llywodraeth Cymru eto i roi gwybod bod Ms Singleton bellach wedi "camu o'r neilltu" wythnos yn unig ar ôl iddi gael ei phenodi.

Wythnos diwethaf, dywedodd Prif Weinidog y DU Rishi Sunak ei fod "yn poeni'n ddifrifol" am fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, sydd yn ôl dan fesurau arbennig ers tri mis.

Oherwydd y mesurau arbennig rheiny, mae aelodau annibynnol newydd yn cael eu penodi'n uniongyrchol gan y Gweinidog Iechyd, heb yr angen arferol am hysbysebu a phroses gyfweld.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 - ond mae'r mesurau yn eu holau bellach

Mae Newyddion S4C yn deall bod rhai o gyn-aelodau bwrdd Betsi Cadwaladr wedi codi pryderon am benodiad Ms Singleton.

Ddechrau'r pandemig, hi oedd cyfarwyddwraig iechyd meddwl ac anableddau dysgu y bwrdd.

Yn y cyfnod hwnnw, a thra eu bod nhw dan fesurau arbennig, cafodd 1,694 o gleifion iechyd meddwl eu rhyddhau o ofal y bwrdd iechyd mewn camgymeriad.

Cyfaddefodd y bwrdd iechyd wedyn bod hynny'n "gamgymeriad na ddylai fod wedi digwydd" gan ymddiheuro am "unrhyw ofid a achoswyd".

'Problematig iawn'

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod Ms Singleton yn "cael ei chyflogi fel cyfarwyddwr tan yn gynnar y llynedd, pan gymerodd swydd fel Cyfarwyddwr Rhaglen Genedlaethol - Iechyd Meddwl, GIG Cymru".

Ond mae Newyddion S4C wedi gweld dogfennaeth sydd yn cadarnhau mai secondiad oedd y rôl hwnnw, a'i bod wedi parhau i weithio i'r bwrdd iechyd tan haf y llynedd.

Mae ei phroffil ar wefan y bwrdd iechyd eisoes wedi ei ddileu. Tra'i fod ar gael, doedd dim sôn ei bod wedi gweithio yno tan yn ddiweddar.

Cyn cyhoeddi ymddiswyddiad Ms Singleton, cafodd y penodiad ei gwestiynu gan yr Aelod Senedd Ceidwadol Sam Rowlands, sydd yn cynrychioli rhanbarth gogledd Cymru.

"Dwi'n credu ei bod hi'n anarferol iawn i weld aelod annibynnol yn cael ei hapwyntio i'r bwrdd, oedd arfer gweithio i'r bwrdd iechyd, nid yn y gorffennol pell, ond oedd yn cael ei chyflogi yno tan fis Mai y llynedd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sam Rowlands AS fod angen i'r bwrdd iechyd dorri'n glir o "batrymau'r gorffennol"

"Beth mae fy etholwyr i am ei weld yw toriad clir gyda phatrymau'r gorffennol o fewn i'r bwrdd iechyd... nid dod â phobl 'nôl oedd yn gyfrifol am rai o'r gwasanaethau gwaethaf, o ran iechyd meddwl, ry'n ni wedi eu gweld."

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth: "Pan rydyn ni'n gweld pobl oedd yn ymwneud â phenodau anodd iawn a phroblematig iawn yn hanes Betsi Cadwaladr nawr yn dod yn rhan o ateb Llywodraeth Cymru i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae'n amlwg am godi cwestiynau.

"A chofiwch nad ydyn ni mewn sefyllfa fan hyn lle mae yna brosesau recriwtio agored yn eu lle a chystadleuaeth ac ati.

"Rwy'n deall yn llwyr pam fod pobl yn codi cwestiynau ar hyn o bryd am apwyntiadau i'r bwrdd newydd."

Rhoddwyd cyfle i Ms Singleton ymateb i'r pryderon.