Hajj 2024: Ar bererindod i Mecca
- Cyhoeddwyd
Mae Arooj Khan - sydd yn wreiddiol o Gaerdydd ond bellach yn byw yn Riyadh, Saudi Arabia - newydd gwblhau pererindod Hajj i Mecca, gyda'i gŵr.
Dyma bererindod flynyddol i ddinas mwyaf sanctaidd crefydd Islam, ac mae’n rhaid i Fwslemiaid wneud y daith yma o leiaf unwaith yn eu bywydau. Eleni, cymerodd 1.83 miliwn o bobl ran yn y ddefod bwysig yma.
Dyma ddyddiadur Arooj o’u profiadau:
Paratoi
Roedden ni angen gwneud yn siŵr bod gennym ni bopeth ond ein bod mor effeithlon â phosib wrth bacio.
Mae gennym ni’n dau fag cefn da sydd â phledren ddŵr ynddo, gan y byddwn ni mewn tywydd chwilboeth, digon o feddyginiaethau, ac esgidiau addas oherwydd fod llawer iawn o gerdded.
Er mwyn mynd ar y pererindod, rhaid mynd i stâd Ihram, sef cyflwr sanctaidd. I ddynion, mae hyn yn golygu gwisgo dwy liain heb eu gwnïo.
Nid oes cyfyngiadau i’r un graddau ar ddillad y merched, ond bod angen gwisgo dillad syml; fe wnes i’n siŵr fod gen i wisgoedd lliain llac, syml, a fydd yn helpu â’r gwres.
Diwrnod 1 (Dydd Iau, 7fed Dhul Hijjah)
Dechreuodd ein siwrne yn Riyadh lle dy’n ni’n byw, a theithion ni i ddinas porthladd Jeddah yn Saudi Arabia i gwrdd â’n grŵp tywys.
Cawson ni ein trefnu i mewn i grwpiau, a chael ein bathodynnau a labeli bagiau angenrheidiol.
Gweinidogaeth Hajj ac Umrah Saudi Arabia sydd yn trefnu’r holl bererinion, felly cymerodd hi dipyn o amser i ddilysu pobl a rhoi popeth iddyn nhw.
Yna cawson ni ein rhoi ar fws am ddinas sanctaidd Mecca/Makkah.
Mae Mwslemiaid yn credu yn y Proffwyd Abraham (ond ry’n ni’n ei alw yn Ibraheem), yn union fel Cristnogion ac Iddewon. Roedd Hajj yn gyfarwyddyd i Fwslemiaid gan y Proffwyd Muhammad (heddwch fo gydag ef), ond mae'r defodau yn bennaf yn cydnabod yr hyn a wnaeth y Proffwyd Ibraheem yn ei fywyd.
Makkah yw dinas Kabah, adeilad du siâp ciwb mae Mwslemiaid yn credu iddo gael ei adeiladu gan Ibraheem, ac yna’n hwyrach ei ail-adeiladu gan y Proffwyd Muhammad (heddwch fo gydag ef).
Mae’n rhaid i bob pererin sy’n gwneud Hajj gylchu’r Kabah saith o weithiau, yn dilyn ôl troed Muhammad (heddwch fo gydag ef).
Wedyn fe redon ni rhwng dau fryn bychan, sy’n symbol o’r hyn a wnaeth Hagar, gwraig Ibraheem pan gyrhaeddodd ardal Makkah gyntaf, i chwilio am ddŵr ar gyfer ei mab, Ishmael.
Cyrhaeddon ni Makkah yn gymharol hwyr, felly roedd rhaid i ni gwblhau ein defodau o fewn ychydig oriau.
Roedd yna Fwslemiaid o ledled y byd yma, pob un wedi gwisgo’n debyg ac yn gwneud yr un defodau yr un pryd.
Roedd niferoedd anferthol yn ceisio mynd ar y bysus i fynd i’r lle nesaf, ac roedd rhaid ciwio’n amyneddgar ac ymdopi gyda’r sefyllfa heb ddangos rhwystredigaeth na gwylltineb; rhywbeth hanfodol yn ystod Hajj.
Oriau mân fore Gwener, cawson ni le ar fws o’r diwedd a chael ein cludo i Mina, ardal fach ger Makkah lle mae’r holl bererinion yn aros mewn pebyll.
Mae ein llety wedi ei rannu, felly er fod gwŷr a gwragedd ar wahân, roedd yna tua 20 person ym mhob ystafell.
Cyrhaeddon ni mewn pryd ar gyfer gweddïau’r bore, yna cawson ni amser i orffwys yn ein stafelloedd ar ôl diwrnod cyntaf gwyllt.
Diwrnod 2 (Dydd Gwener, 8fed Dhul Hijjah)
Ar ôl diwrnod a noswaith eithaf hir, cawson ni gysgu ychydig bore ‘ma. Yn ffodus, mae ail ddiwrnod Hajj ychydig yn haws gan fod llai o drefn i’w ddilyn.
Treulion ni’r diwrnod yn addoli.
Roedd hyn yn cynnwys y gweddïo gorfodol bum gwaith, ond hefyd gweithgareddau fel darllen y Qur’an, gweddïo i Dduw a chofio pam ein bod ni yma, ynghyd â bod yn ddiolchgar am ein bendithion.
Mae hi tua 45 gradd ar gyfartaledd bob dydd; mae hyd yn oed ychydig funudau yn yr haul yn golygu ein bod ni'n chwyslyd yn eithaf cyflym.
Mae’r tywyswyr yn ein bwydo, felly mae hi wedi bod yn ddiwrnod gymharol gyfforddus, wedi ei dreulio yn addoli yn ein ffyrdd ein hunain.
O’n gwersyll ni, gallwch weld miloedd ar filoedd o bebyll eraill.
Mae hyn yn rhoi teimlad o undod i ni, yn gwybod fod yna griw o bobl ym mhob pabell sydd wedi teithio ar draws y byd i addoli Duw.
Roedd fy ngŵr yn rhannu ystafell â gŵr o Balesteina a oedd wedi astudio yng Nghaerdydd yn yr '80au!
Ar ôl gweddi ola’r dydd, cawson ni fynd i’r gwely’n gynnar, er mwyn paratoi at brif ddiwrnod Hajj, yawm-ul-arafah neu Dydd Arafah.
Diwrnod 3 (Dydd Sadwrn, 9fed Dhul Hijjah)
Ar Ddydd Arafah, mae’r holl bererinion yn sefyll (neu eistedd) ar hyd holl wastatir Arafah ac yn addoli Duw ac yn gweddïo.
Mae’n aml yn cael ei alw yn ddiwrnod y gofyn, oherwydd bod cydnabod mai Duw yw’r un a all eich helpu â phopeth yn ffordd o’i addoli.
Mae Mwslemiaid ledled y byd yn gofyn iddo am gymorth a chefnogaeth â phob math o faterion: crefyddol, fel maddeuant am eu pechodau neu gadernid yn eu gweddïo; pethau dydd-i-ddydd, fel sicrwydd ariannol neu iechyd teulu; a hyd yn oed materion llai fel mwy o amser i ddarllen neu Cymru i gyrraedd twrnamaint pêl-droed mawr arall!
Mae unrhyw fater, yn fawr neu’n fach, yn nwylo Duw, felly rydyn ni’n cyflwyno ein hunain ac yn gofyn am bopeth ac unrhywbeth rydyn ni angen help gydag e.
O fewn Islam, dyma ddydd y farn, ac mae Mwslemiaid yn credu yn y byd nesaf.
Ry’n ni’n credu y bydd pobl yn cael eu beirniadu am y pethau maen nhw wedi eu gwneud, y da a’r drwg.
Mae bod yn Arafah yn rhywbeth sy’n atgoffa’r pererinion mai nid y byd yma yw popeth, ac y dylen nhw geisio gwneud da pob amser.
Cafodd yr undod rhwng y pererinion ei amlygu eto amser cinio, wrth i ni fwyta oddi ar yr un platiau.
Er ein bod ni ddim yn siarad llawer o Arabeg, roedd cwmnïaeth braf gyda’r rhai o’n cwmpas gan fod pawb yn adnabod y rheswm ysbrydol dros ymgymryd â’r siwrne hon.
Arhoson ni yn y gwersyll tan y machlud cyn mynd ar fws i’n lleoliad nesaf.
Roedd yna lawer o aros mewn ciwiau traffig wrth i filiynau o bobl fynd yr un ffordd; adeg arall lle oedd rhaid bod yn amyneddgar.
Cymerodd hi saith awr i ni gyrraedd Muzdalifah, taith a fyddai rhyw 20 munud fel arfer mewn car.
Yma, rhaid i bererinion gysgu heb bebyll, i’n hatgoffa am bobl llai ffodus na ni.
Diwrnod 4 (Dydd Sul, 10fed Dhul Hijjah - Dydd Eid)
Arhoson ni ychydig o oriau yn Muzdalifah cyn dychwelyd i Mina, a gweddïo cyn mynd tua’r Jamaraat, sef tair colofn fawr.
Mae’r pererinion yn taflu cerrig at y pileri, fel y taflodd y Proffwyd Ibraheem gerrig at y diafol.
Er ei bod hi’n gynnar iawn yn y bore, roedd y lle yn orlawn o bererinion eraill a oedd hefyd eisiau cwblhau eu hymrwymiadau yn gynnar.
Dyma oedd unig dasg y dydd, felly roedden ni’n awyddus i orffen yn gynnar, wedyn cael ymlacio a dal lan ar bach o gwsg, cyn mwynhau gweddill dydd Eid.
Er ein bod ni wedi cael gweld ein gilydd dros y dyddiau diwethaf, cawson ni dreulio llawer o’r noswaith yn eistedd gyda’n gilydd, ac yn ffonio teulu, gan gynnwys ein plant sydd gyda’u Mam-gu a Tad-cu tra rydyn ni yma.
Roedd rhaid i ni hefyd ni dorri ein gwallt a siafio, er mwyn gadael stad Ihram.
Diwrnod 5 (Dydd Llun, 11eg Dhul Hijjah)
Yn gynnar ar ôl gweddïau’r bore, aethon ni’n ôl i Makkah ar fws cyhoeddus, i ymweld ac i gylchu’r Kabah unwaith eto. Gan ei bod hi mor gynnar, roedd y Kabah’n gymharol wag, a wnaeth y profiad yn haws.
Rydyn ni’n cytuno mai dyma oedd ein hoff ddiwrnod; roedd cwblhau ein defodau wedi bod yn ddidrafferth ond wedi bod yn werthfawr yn ysbrydol.
Un o bleserau Hajj yw gweld Mwslemiaid o ledled y byd. Wrth gylchu’r Kabah, mae hyn yn amlwg ond does gennych chi ddim wir y lle i’w werthfawrogi, gan fod pawb yn cerdded yn agos iawn at ei gilydd, mewn tyrfa dynn.
Wrth gerdded nôl i’r gwersyll, cawson ni gyfle arall i weld yr undod yma.
Roedd pobl wedi ymlacio ar ôl cwblhau eu cyfrifoldebau dyddiol, ac roedd teimlad hwyliog o gwmpas y lle.
Bob hyn a hyn, roedd yna swyddogion, pererinion eraill a hyd yn oed plant lleol yn chwistrellu dŵr drosom ni i’n cadw’n oer yn y gwres llethol. Rhywbeth bychan ond roedd yn cael ei wneud gyda gymaint o lawenydd, ac yn dangos fod pobl yn helpu eraill, hyd yn oed os ydyn nhw’n ddieithriaid.
Diwrnod 6 (Dydd Mawrth, 12fed Dhul Hijjah)
Y diwrnod olaf, a’r un hawsaf; roedden ni angen taflu cerrig eto ac ymweld â’r Kabah cyn dychwelyd adref.
Yn y bôn, mae Hajj yn siwrne sydd yn brawf o’n hymrwymiad i Dduw, wrth i ni hefyd gofio caledi’r proffwydi a rannodd ei neges.
Mae’n profiadau wedi dod â ni’n agosach at ein pwrpas mewn bywyd, sef i wasanaethu Duw.
Mae hefyd wedi ein hatgoffa pa mor bwysig yw hi i gefnogi eraill.
Roedd yn brawf i fod yn garedig pan ry’ch chi mor flinedig, ac yn delio â thymheredd mor uchel a diffyg cwsg. Ond mae hi’n hanfodol i drin eraill gydag amynedd.
Mae’r undod ry’n ni wedi ei deimlo yn hollol arbennig; bod ymhlith miliynau o ledled y byd yn gwneud yr un peth, gyda’i gilydd. Creodd hyn deimlad hyfryd o berthyn, o wybod fod y bobl o’ch cwmpas, sydd yn edrych neu swnio’n wahanol, yn un â chi.
Rydyn ni wedi gadael yn teimlo’n fodlon ein byd, wedi cyflwyno ein hunain i’n creawdwr, a gyda’i ras, wedi llwyddo i gwblhau un o bum piler Islam.
Ry'n ni nawr yn edrych ymlaen at geisio bod yn well pobl nag oedden ni o’r blaen, wrth ddysgu o’r gwersi gawson ni yn ystod ein pererindod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
- Cyhoeddwyd16 Ebrill
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2022