Gall Reform ennill yr etholiadau Senedd nesaf - Liz Saville Roberts

Liz Saville RobertsFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Liz Saville Roberts y dylai'r "bygythiad" am blaid Nigel Farage annog aelodau Plaid Cymru i weithredu

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi rhybuddio y gallai Reform UK ennill yr etholiadau Senedd nesaf os na fydd Plaid yn eu cymryd o ddifrif.

Dywedodd Liz Saville Roberts y dylai'r "bygythiad" am blaid Nigel Farage annog aelodau Plaid Cymru i weithredu, gan ddisgrifio Reform yn ennill fel "trychineb."

Plaid Cymru oedd ar y brig mewn arolwg barn ar ddiwedd 2024 gyda Llafur a Reform yn agos.

Ar ddiwedd eu cynhadledd yn Llandudno, dywedodd Liz Saville Roberts, pe na bai Plaid Cymru yn "darparu atebion i ffaeleddau Llafur, yna mae yna rywbeth gwaeth yn aros i gymryd eu lle."

Ychwanegodd bod Reform yn "honni siarad ar ran y bobl" ond yn gwasanaethu'r biliwnyddion.

"Maen nhw yn byw ar raniadau. Byddan nhw yn ymosod ar ein hiaith. Byddan nhw yn tanseilio ein hunaniaeth ac yn troi cymydog yn erbyn cymydog oherwydd dyna mae casineb gwleidyddol yn ei wneud iddyn nhw. "

Fe ddaeth rhybudd aelod seneddol Dwyfor Meirionydd ar ddiwedd cynhadledd wanwyn Plaid Cymru.

Luke FletcherFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Luke Fletcher yn ei araith bod angen i'r ffordd mae busnesau'n cael eu trethu newid, os ydi canol trefi Cymru am ffynnu

Roedd yna addewid hefyd i dorri cyfraddau treth ar gyfer busnesau bach fel tafarndai a bwytai, ac y byddai busnesau mwy yn talu rhagor.

Dywedodd Luke Fletcher yn ei araith bod angen i'r ffordd mae busnesau'n cael eu trethu newid, os ydi canol trefi Cymru am ffynnu.

Mae'r blaid yn bwriadu torri cyfraddau ar gyfer "busnesau bach domestig", gan wneud i fyny am y gost trwy gynyddu cyfraddau ar gyfer cwmnïau rhyngwladol mawr.

Torrodd Llafur ostyngiadau cyfnod Covid ar gyfraddau busnes ar gyfer manwerthwyr, tafarndai a bwytai y llynedd, gan arwain at honiadau fod hyn wedi gadael rhai busnesau "ar y dibyn".

Mae'r cynllun treth yn rhan o gynnig Plaid Cymru ar gyfer etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2026.

'Potensial busnesau heb ei gyflawni'

Dywedodd Mr Fletcher: "Mae ein strydoedd mawr yn rhoi lens ar yr heriau sy'n wynebu busnesau Cymru – heriau y mae Llafur yng Nghymru wedi methu â mynd i'r afael â nhw neu wedi gwaethygu'n sylweddol dros chwarter canrif mewn grym.

"Mae perchennog siop annibynnol ar y stryd fawr yn Aberystwyth yn talu bron i ddeg gwaith yn fwy na chadwyn fawr ar gyrion y dref, a llawer mwy nag y byddai busnes cyfatebol yn Lloegr.

"Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae siop goffi a becws lleol yn talu'r un lefel o ardrethi annomestig â'i gystadleuwyr rhyngwladol.

"Yn hytrach na gallu tyfu a datblygu fel busnes, buddsoddi'n lleol yn y gadwyn gyflenwi, hyfforddiant a swyddi yn syml yw hi.

"Mae yna enghreifftiau di-ri ar hyd a lled Cymru o botensial llawn busnesau yn mynd heb ei gyflawni – gormod o'r hyn ddylai fod yn fusnesau llwyddiannus yn mynd i'r wal. A'r canlyniad? Canol trefi yn dirywio, yn hytrach nag ar i fyny."

Mae ardrethi busnes yn cael eu talu gan gwmnïau bach a mawr er mwyn cyfrannu tuag at wasanaethau lleol.

Caiff yr arian yma ei roi mewn cronfa ganolog cyn ei roi i gynghorau.

Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Adam Price hefyd yn gwneud araith ar ddiwrnod olaf y gynhadledd

O dan gynlluniau Plaid Cymru, bydd busnesau bach yn talu swm penodol yn dibynnu ar ba gyfraddau sy'n cael eu gweithio allan o werth ardrethol eiddo.

Awgrymodd briff gan y blaid y gallai hyn haneru gwerth yr hyn sy'n cael ei dalu ar hyn o bryd.

Dywedodd y blaid y byddai hyn yn cael ei wrthbwyso trwy gynyddu ar gyfer cwmnïau rhyngwladol mawr.

Rhoddodd Plaid enghraifft o siop goffi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a dweud y gallen nhw weld eu cyfraddau'n cael eu torri o £1,537 i £768.50.

Dywedodd llefarydd yr economi y byddai'n lansio cynllun economi Plaid Cymru "yn yr wythnosau nesaf".

Dywedodd wrth y gynhadledd: "Bydd ein cynllun yn gweld cyfalaf yn cael ei adeiladu a'i gadw yn ein cymunedau, yn lle llithro – ac mewn rhai achosion yn gorlifo – allan o Gymru.

"Bydd yn tyfu ac yn cynnal busnesau Cymreig, yn creu swyddi da, yn adfywio canol ein trefi, ac yn hybu safonau byw.

Fe wnaeth cyn-arweinydd y blaid, Adam Price, hefyd wwneud araith ar ei bortffolio cyfiawnder ar ddiwrnod olaf y gynhadledd.

Pynciau cysylltiedig