Plaid Cymru'n addo taliadau i daclo tlodi os mewn grym

Mae Rhun ap Iorwerth wedi bod yn arweinydd Plaid Cymru ers 2023Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth wedi bod yn arweinydd Plaid Cymru ers 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae "methiannau" Llafur wrth lywodraethu yn "bwydo pleidiau adweithiol fel Reform", meddai arweinydd Plaid Cymru wrth gynhadledd wanwyn ei blaid.

Wrth siarad yn Llandudno ddydd Gwener, dywedodd Rhun ap Iorwerth y bydd y blaid yn "cynnig gobaith", a diwedd i 26 mlynedd o reolaeth Llafur yng Nghymru, yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.

Byddai ei ethol yn brif weinidog yn "fuddugoliaeth i Gymru", meddai, gan gynnig cyfle i ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru wrth "sefyll i fyny yn erbyn Keir Starmer a Llafur y DU".

Dywedodd y byddai'r blaid hefyd yn cyflwyno taliad plant i fynd i'r afael â lefelau cynyddol o dlodi plant yng Nghymru.

Mae polau piniwn diweddar yn awgrymu bod Plaid Cymru, Reform a Llafur yn agos yng Nghymru, a allai olygu'r etholiad mwyaf agored ers dechrau datganoli yn 1999.

Bydd yr etholiad hwnnw'n cael ei ymladd o dan system bleidleisio fwy cyfrannol, wrth i Senedd Cymru ehangu o 60 i 96 sedd, rheswm arall i Blaid Cymru gredu bod popeth i frwydro drosto rhwng nawr a mis Mai y flwyddyn nesaf.

Cafodd y blaid hefyd ei chanlyniad gorau erioed yn etholiad cyffredinol y DU yr haf diwethaf, gan ennill pedair sedd San Steffan.

Ond nid yw erioed wedi ennill etholiad y Senedd yn ystod dau ddegawd a hanner o ddatganoli.

Mae Plaid Cymru wedi gweithio gyda Llafur mewn llywodraeth fel partner clymblaid ac, yn fwy diweddar, mewn cytundeb cydweithio.

Cafodd y cytundeb hwnnw, a oedd i fod i bara tan fis Rhagfyr diwethaf, ei ddileu chwe mis yn gynnar gan Rhun ap Iorwerth ynghanol ffrae am roddion yn etholiad arweinyddiaeth Llafur a orfododd y prif weinidog ar y pryd, Vaughan Gething, o'i swydd yn ddiweddarach.

'Diwedd ar oruchafiaeth Llafur'

Wrth annerch ffyddloniaid ei blaid brynhawn Gwener, dywedodd Rhun ap Iorwerth os daw'n brif weinidog y flwyddyn nesaf y bydd yn rhoi Prif Weinidog y DU "ar rybudd" y bydd y berthynas yn newid oherwydd bod "penllanw ein taith yn galw am hynny".

Gan gyhuddo Syr Keir Starmer o wneud "bywyd yn anoddach i'r rhai mwyaf bregus" gyda "thoriadau budd-daliadau a ysbrydolwyd gan y Torïaid", disgrifiodd y Prif Weinidog Eluned Morgan fel rhywun "nad yw eisiau'r grymoedd a allai wneud gwahaniaeth i fywydau pobl".

"Yng Nghymru, mae gennym ni brif weinidog Llafur wedi'i dallu gan deyrngarwch pleidiol, yn rhy ofnus i siglo'r cwch, yn ufudd i Starmer, yn sownd yng nghanol y ffordd ac yn methu â symud ein cenedl ymlaen," meddai.

"Felly, tra bod methiannau Llafur yn bwydo pleidiau adweithiol fel Reform UK, rydyn ni yma i gynnig gobaith.

"Diwedd ar oruchafiaeth Llafur yng Nghymru ar ôl chwe blynedd ar hugain."

'Taliad i gynnal teuluoedd'

Yn ystod ei araith, dywedodd y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn dechrau'r broses o weithredu taliad wythnosol i "gynnal teuluoedd a chefnogi cymunedau".

Wrth gyhoeddi'r budd-dal, dywedodd Rhun ap Iorwerth "nid yw gwneud dim yn opsiwn".

Byddai taliad 'Cynnal' Plaid Cymru yn cefnogi'r rhai sydd ei angen fwyaf, meddai.

"Mae yna lawer y gall Cymru fod yn falch ohono - ond mae staen cenedlaethol yn parhau, marc andeladwy ar gymunedau hyd a lled ein gwlad.

"A dyna dlodi, a thlodi plant yn arbennig.

"Mae'n anfaddeuol bod cymaint o'n plant yn mynd heb y pethau sylfaenol - heb hyd yn oed gweddusrwydd iechyd da a'r hanfodion moel, heb sôn am gyfle cyfartal i lwyddo.

"Ni allwn barhau i fethu'r union bobl yr ydym yn dibynnu arnynt am ddyfodol mwy disglair."

'Cymru'n sefyll ar ei thraed ei hun'

Mae Eluned Morgan yn gwrthod ateb cwestiynau gan Rhun ap Iorwerth yn y Senedd yn gyson oherwydd eu bod yn ymwneud â materion y mae Syr Keir Starmer yn gyfrifol amdanynt, yn hytrach na hi.

Fe wnaeth ap Iorwerth addo i'w gynulleidfa yn Llandudno y bydd llywodraeth Plaid Cymru "yn cymryd cyfrifoldeb am ei gweithredoedd ei hun yn hytrach na gwyro i San Steffan".

"Ein nod yn y pen draw yw diogelu Cymru at y dyfodol drwy beidio â chaniatáu i ni ein hunain ddibynnu ar fympwyon San Steffan.

"Rydyn ni eisiau bod yn gymdogion da ond yn gymdogion cyfartal.

"Ond cyn belled â'n bod ni'n gaeth i'r undeb anghyfartal, mae'n rhaid i ni fanteisio ar y gobaith y bydd Cymru'n sefyll ar ei thraed ei hun.

"A dod yn bartner gwirioneddol mewn Prydain wedi'i hailgynllunio."

Cynhadledd Plaid Cymru yw'r gyntaf o gynadleddau gwanwyn pleidiau gwleidyddol Cymru sy'n cael eu cynnal dros y misoedd nesaf.