Pam fod defnydd isel o'r Gymraeg yn y system gyfiawnder?

cyfiawnderFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Gallai'r defnydd isel o'r Gymraeg yn y tribiwnlysoedd fod yn "rhwystr i gyfiawnder", meddai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Dim ond 13 o'r 1,254 gwrandawiad yng Nghymru yn 2023‑24 gafodd eu cynnal yn Gymraeg (sef 1% o'r cyfanswm), ac 18 yn y tair blynedd flaenorol, yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf Tribiwnlysoedd Cymru.

Dywedodd yr adroddiad bod "gwahaniaeth sylweddol" rhwng y defnydd o Gymraeg mewn bywyd bob dydd a'i defnydd yn y system gyfiawnder.

Dywedodd sawl AS bod angen mynd i'r afael â hyn wrth drafod yr adroddiad yn y Senedd yr wythnos hon.

Cyrff barnwrol arbenigol yw tribiwnlysoedd sy'n penderfynu ar anghydfodau mewn meysydd penodol o'r gyfraith.

'Cyfieithydd yn creu gormod o drafferth'

Yn y pedair blwyddyn ddiwethaf, does dim gwrandawiadau wedi eu cynnal yn Gymraeg yn Nhribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru, Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru a Phanel Dyfarnu Cymru.

Yn Nhribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru y cafodd y nifer fwyaf eu cynnal yn Gymraeg - naw yn 2023‑24 ac 11 yn y tair blynedd flaenorol.

Roedd dau wrandawiad yn Gymraeg yn Nhribiwnlys Addysg Cymru yn 2023‑24 a dau hefyd yn Nhribiwnlys y Gymraeg sy'n delio ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau gan Gomisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â Safonau'r Gymraeg.

Dywed yr adroddiad nad oes "unrhyw ddata hysbys a allai helpu i nodi'r rhesymau dros y diffyg hwn neu i fynd i'r afael â'r mater hwn".

Rhys ab Owen
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n anhygoel mai dim ond yn 13 o'r achosion yn y tribiwnlysoedd roedd yna ddefnydd o'r Gymraeg," meddai Rhys ab Owen

Dywedodd yr AS annibynnol, Rhys ab Owen, sydd wedi gweithio fel bargyfreithiwr yn Abertawe, fod "hon yn broblem sy'n stwbwrn".

Ychwanegodd ei fod yn "ymwybodol o gwpl Cymraeg iaith gyntaf a roddodd dystiolaeth mewn tribiwnlys ychydig o fisoedd yn ôl, ac mae'r rhain yn gweithio drwy'r iaith Gymraeg, ond fe benderfynon nhw roi eu hachos drwy'r Saesneg, oherwydd rôn nhw'n meddwl byddai cael cyfieithydd yn creu gormod o drafferth".

Dywedodd yr AS Llafur Mike Hedges: "Rwy'n meddwl mai un o'r problemau yw bod yna eiriau lle mai dim ond y Saesneg sy'n cael ei ddefnyddio mewn iaith gyffredin, gan gynnwys ymhlith y rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg, pan mae opsiwn i symud i'r Saesneg."

Felly, meddai, "dwi'n meddwl bod cael pobl i ddefnyddio Cymraeg yn bennaf, ac yna defnyddio geiriau Saesneg pan fo angen, yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr".

Dywedodd y Ceidwadwr Paul Davies bod y "ffigyrau'n dweud wrthym fod yna amharodrwydd o hyd i lawer i ddefnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cyfreithiol o gymharu â'r Saesneg" a bod angen mynd i'r afael ag "unrhyw rwystrau".

Casglu barn

Un o'r blaenoriaethau sy'n cael eu nodi yn yr adroddiad yw annog a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

Ers Ebrill y llynedd mae cwestiwn gwirfoddol ar ffurflen gais sy'n gofyn pam bod pobl sy'n siarad Cymraeg yn dymuno cael eu gwrandawiad yn Saesneg yn unig.

Mae'r ffurflen yn nodi mai'r gobaith, drwy gael atebion i'r cwestiwn yma, yw gallu "cymryd camau i ddileu'r rhwystrau rhag defnyddio'r Gymraeg yn ein tribiwnlysoedd".

"Nid mater o'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn unig yw hwn: gall ataliaeth o'r fath fod yn rhwystr i gyfiawnder i'r rheini a fyddai'n cyflwyno eu hachos yn well i dribiwnlys drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai Syr Gary Hickinbottom, Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

O'r 236 aelod o Dribiwnlysoedd Cymru, nododd 60 (25.4%) mewn arolwg eu bod yn gallu siarad Cymraeg, gyda 43 (18.2%) o'r rheiny yn nodi y byddent yn gallu cynnal gwrandawiad yn Gymraeg heb ddefnyddio cyfieithwyr.

Mae Uned Tribiwnlysoedd Cymru yn rhan o wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru, ond mae'n gweithredu "mor annibynnol ag sy'n bosibl yn ymarferol", gyda thua 35 aelod o staff.