10 corff arall yn agored i orfod cydymffurfio â safonau'r Gymraeg

Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Disgrifiad o’r llun,

Mae Comisiynydd y Gymraeg Efa Gruffudd Jones a'i rhagflaenwyr wedi gosod safonau'r Gymraeg ar 131 o gyrff cyhoeddus hyd yn hyn

  • Cyhoeddwyd

Mae Senedd Cymru wedi cymeradwyo'r 10 corff ychwanegol a allai orfod cydymffurfio â safonau'r Gymraeg.

Mae hyn yn galluogi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad iddynt sy'n ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â safonau penodol.

Ni fu'n rhaid cynnal pleidlais oherwydd nid oedd gwrthwynebiad yn y Senedd.

Roedd y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru y cytunwyd arno ym mis Tachwedd 2021 - ac a ddaeth i ben ym mis Mai 2024 - yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu safonau ar gyfer mwy o sectorau a chyrff cyn diwedd tymor y Senedd bresennol yn 2026.

Y cyrff yw:

  • Awdurdod Cyllid Cymru

  • Y Comisiwn Ffiniau i Gymru

  • Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

  • Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol

  • Cymwysterau Cymru

  • Panel Dyfarnu Cymru

  • Awdurdodau Iechyd Arbennig.

Mae'r pedwar corff canlynol yn dod o fewn y categori Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n darparu gwasanaethau mewn perthynas â Chymru:

  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru;

  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru;

  • Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG;

  • Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

Mae'r rheoliadau hyn yn galluogi'r comisiynydd i osod safonau mewn hysbysiad cydymffurfio sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau canlynol:

  • Mae safonau cyflenwi gwasanaethau yn ymwneud â darparu gwasanaethau er mwyn hybu neu hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg, ac i sicrhau na chaiff ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

  • Mae safonau llunio polisi yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff ystyried effaith eu penderfyniadau polisi ar allu pobl i ddefnyddio'r iaith ac ar yr egwyddor o beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

  • Mae safonau gweithredu yn ymwneud â'r defnydd mewnol o'r Gymraeg gan gyrff.

  • Mae safonau cadw cofnodion yn ei gwneud yn ofynnol cadw cofnodion am rai o'r safonau eraill, ac am unrhyw gwynion a dderbynnir gan gorff.

  • Mae safonau atodol yn delio â materion amrywiol gan gynnwys llunio adroddiad blynyddol, trefniadau monitro a darparu gwybodaeth i'r Comisiynydd.