Caniatâd i fferm wynt 17 tyrbin ym Mhowys

Tyrbin gwyntFfynhonnell y llun, EDF Renewables UK
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cynllun ei addasu o 22 tyrbin i 17 yn dilyn pryderon yn lleol

  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun i ddatblygu fferm wynt newydd i'r de o'r Drenewydd ym Mhowys wedi derbyn caniatâd gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y datblygwr EDF Renewables UK fod y penderfyniad yn "gam mawr ymlaen" o ran ymateb i newid hinsawdd yng Nghymru.

Roedd y prosiect - allai gynhyrchu digon o drydan ar gyfer oddeutu 69,000 o gartrefi - wedi wynebu oedi yn dilyn pryderon gan weision sifil a'r rheoleiddiwr amgylcheddol ynglŷn â'r effaith bosib ar fawndir.

Tra'n cydnabod bod y priddoedd yma - sy'n storio carbon - yn unigryw, daeth yr ysgrifennydd ynni Rebecca Evans i'r casgliad bod "amgylchiadau cwbl eithriadol" yn golygu y gallai'r cynllun barhau.

Roedd y rhain yn cynnwys cyfraniad y fferm wynt i dargedau ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru, ac ymrwymiad gan y datblygwr i waith adfer fyddai'n arwain at "welliant cyffredinol i'r adnodd mawndir ar y safle".

'Effaith gadarnhaol ar Gymru a'r gymuned'

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i Gymru gyrraedd 100% o'i anghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.

Bydd fferm wynt Garn Fach yn cynnwys 17 o dyrbeini a chyfleuster storio ynni, i'r gorllewin o bentref Llaithddu ger Llanbadarn Fynydd.

Dywedodd rheolwr gwynt ar y tir EDF Renewables UK, Jon O'Sullivan ei fod yn "leoliad arbennig ar gyfer fferm wynt a mae ganddo'r potensial i gael effaith gadarnhaol iawn ar Gymru a'r gymuned leol".

Mae'r cwmni wedi dweud bydd y cynllun yn arwain at greu 61 o swyddi ym Mhowys dros oes bywyd y cynllun, a chronfa gwerth dros £10m er lles y gymuned.

Mae llwybrau cerdded a beicio newydd ar draws y safle, a maes parcio i ymwelwyr wedi'u haddo hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr ysgrifennydd ynni Rebecca Evans AS fod yna resymau "gwbl eithriadol" pam bod modd caniatáu adeiladu ar fawndir yn yr achos hwn

Cyn i'r prosiect allu bwrw ati bydd angen sicrhau gwelliannau i seilwaith y grid yng nghanolbarth Cymru.

Mae'r caniatâd cynllunio yn rhoi cyfnod o 10 mlynedd i'r datblygwr allu dechrau ar y gwaith adeiladu.

Mae'r cwmni wedi bod yn aros dros ddwy flynedd ar gyfer y penderfyniad, wnaeth arwain at feirniadaeth yn ddiweddar gan gorff RenewableUK Cymru.

Dywedodd cyfarwyddwr RenewableUK Cymru Jess Hooper fod y cyhoeddiad yn "hwb aruthrol i'r diwydiant ynni adnewyddadwy", gan ddisgrifio Garn Fach fel "prosiect sy'n garreg filltir nodedig i Gymru".

Pynciau cysylltiedig