Trên Yr Wyddfa yn rhedeg i'r copa eto wedi tair blynedd

tren bachFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae trên wedi bod yn cludo teithwyr i fyny'r Wyddfa ers 130 o flynyddoedd

Cipolwg

  • Mae'r trên i gopa'r Wyddfa wedi ailddechrau'n gyson am y tro cyntaf ers y pandemig

  • Mae peirianwyr wedi ailosod 1,000m (3,300 troedfedd) o drac fel rhan o brosiect £1m

  • Mae ailddechrau'r gwasanaeth trên yn golygu y bydd canolfan ymwelwyr Hafod Eryri yn ailagor hefyd

  • Roedd y ganolfan wedi bod ar gau ers hydref 2019

  • Cyhoeddwyd

Mae modd cyrraedd copa'r Wyddfa ar drên unwaith eto wedi bwlch o dair blynedd, wrth i'r trenau cludo teithwyr ddechrau ar eu taith i ganolfan ymwelwyr Hafod Eryri fore Gwener.

Mae'r ganolfan wedi bod ar gau ers y pandemig, a doedd hi ddim yn bosib iddi agor gan fod angen cwblhau gwaith angenrheidiol ar y trac.

Bellach mae peirianwyr wedi ailosod 1,000m (3,300 troedfedd) o'r trac i'r copa fel rhan o brosiect gwerth £1m.

Dywed Vince Hughes, sydd yn gofalu am weithrediadau masnachol yng nghwmni Rheilffordd Yr Wyddfa, ei bod hi'n gyfnod cyffrous i'r tîm wedi iddyn nhw weithio mor galed - yn aml mewn tywydd garw.

"'Da ni'n edrych ymlaen at y misoedd nesaf," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorodd Hafod Eryri i'r cyhoedd yn 2009, gan gostio dros £8m

Yn sgil y pandemig mae'r ganolfan ymwelwyr wedi bod ar gau ers diwedd hydref 2019.

Nid oedd yn bosib i Hafod Eryri agor yn 2020 nac yn 2021 oherwydd y cyfyngiadau ar gwrdd yn gymdeithasol.

Roedd hi'n bosib teithio ar y rheilffordd yn 2022, ond ddim ond tri chwarter y ffordd hyd at Orsaf Clogwyn oherwydd y gwaith brys oedd angen ei wneud i ailosod a chynnal a chadw gweddill y trac.

Ffynhonnell y llun, Rheilffordd Yr Wyddfa
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tywydd ar Yr Wyddfa yn gallu bod yn arw, fel ym mis Mawrth eleni pan roedd yn rhaid i beirianwyr ddelio ag eira

Roedd y gwaith diweddar yn cynnwys symud rhannau o'r rheilffordd a oedd wedi bod yno ers iddi agor yn 1896.

Ond mae'r tywydd garw ar gopa'r mynydd 1,085m (3,560 troedfedd) yn golygu mai ychydig iawn o amser oedd gan beirianwyr i wneud y gwaith.

Eleni roedd eira ar y copa ym mis Ebrill - gan ei gwneud hi bron yn amhosib i beirianwyr fwrw ymlaen â'u gwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Wyddfa yn hynod o boblogaidd - yn enwedig ym misoedd yr haf

Wrth i’r cyfeusterau ar yr Wyddfa ailagor, dywedodd Karl Jones, rheolwr y copa, eu bod nhw wedi gweithio’n galed i gyrraedd y pwynt yma.

“Nathon ni agor dydd Llun, a gaethon ni [dim ond] un trên i fyny achos y gwynt,” meddai.

“A wedyn dydd Mawrth oedd y dydd pan gaethon ni drên bob hanner awr.

“‘Dan ni ‘di bod yn planio agor Hafod Eryri ers dros flwyddyn, o’r ochr engineering i’r commercial.

"Ar ôl ‘Dolig mi fuon ni fyny yna, roedd ‘na lot o waith llnau, doedd y generators ddim yn gweithio, doedd y system dŵr ddim yn grêt - mae ‘di bod yn dasg anghygoel.”

Disgrifiad o’r llun,

Karl Jones, rheolwr y copa

Yr agwedd fwyaf eithriadol o’r gwaith sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf ydy’r ymdrech i ailosod llawer o’r cledrau ar ochr uchaf y rheilffordd.

Roedd rhai rhannau o’r trac heb eu newid ers i’r trenau cyntaf ddringo’r mynydd dros 125 mlynedd yn ôl.

Ac er mai ar y trên ddaeth y rhan fwyaf o ymwelwyr ddydd Gwener, roedd rhai wedi mentro yn y gwynt a’r glaw - a chamu wedyn i gysgod Hafod Eryri.

“Dwi ‘di bod yma last few times, yn y mis dwytha, a dio’m di bod yn agored,” meddai Neil Jones o Gaernarfon, wnaeth gerdded i fyny gyda ffrindiau o’r gwaith.

“Dydy o’m mor ddrwg pan mae’n braf, ond tywydd fel ‘ma ti rili angen o.”

'Hynod falch o'n tîm'

Fel arfer mae'r ganolfan ymwelwyr a'r caffi yn agor ar gyfer y Pasg, ond gan nad oedd y gwaith ar y trac wedi'i gwblhau doedd hi ddim yn bosib agor yr adeg honno eleni.

Mae'r gwasanaeth trên yn gwbl hanfodol i'r ganolfan - y trên sy'n cludo staff, tanwydd a bwyd a diod i'r copa - ac yna'r gwastraff yn ôl i lawr.

"Dyma'r gwaith mwyaf sydd wedi cael ei wneud ar y rheilffordd ers ei chodi ac mae buddsoddiad o dros £1m yn sicrhau dyfodol yr atyniad unigryw," medd Zoe Hart, rheolwr cynorthwyol y ganolfan.

"'Da ni'n hynod o falch o'n tîm a'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni.

"Mae'r broses o agor Hafod Eryri yr haf hwn wedi bod yn heriol iawn a 'da ni wedi gorfod gorchfygu sawl rhwystr."

Ffynhonnell y llun, Rheilffordd Yr Wyddfa
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'na gryn dipyn o waith glanhau ar ganolfan Hafod Eryri ar ôl bod ynghau am mor hir

Mae ailagor y ganolfan ymwelwyr yn sicr o fod yn newyddion da i gerddwyr a theithwyr gan nad oes unrhyw adnoddau wedi bod ar y copa ers 2019.

Mae hynny wedi arwain at nifer o gwynion am sbwriel a rhai pobl yn defnyddio rhannau o'r mynydd fel toiled, wrth i gannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn anelu am y copa - gan giwio am amser hir yn ystod adegau prysur.