Y cyflwynydd Mari Grug yn cyhoeddi fod ganddi ganser unwaith eto
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyflwynydd Mari Grug wedi cyhoeddi bod y canser wedi dychwelyd.
Ym mis Ebrill 2023 cafodd ddiagnosis o ganser y fron, wedi iddi ddarganfod lwmp yn ei bron chwith, cyn cael triniaeth ar gyfer canser metastatic wedi i'r canser ledu i'r nodau lymff a'r afu.
Flwyddyn wedi'r diagnosis, datgelodd y fam 40 oed o Fynachlogddu, bod ei sganiau diwethaf ar yr afu yn glir o ganser.
Ond mewn neges fideo ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mawrth, dywedodd cyflwynydd Prynhawn Da a Heno ei bod ar fin derbyn triniaeth eto.
"Yn anffodus mae'r canser wedi dychwelyd a dwi ar fin dechrau ar gyfnod o gemotherapi," meddai.
Mewn neges at wylwyr Prynhawn Da, dywedodd na fydda'i "gyda chi gymaint dros y misoedd nesa".
'Amdani'
Ond dywedodd ei bod yn gobeithio parhau i weithio ychydig gan ei fod wedi "helpu fi gyment tro diwetha'".
"Licen i ddiolch i chi gyd am eich cefnogaeth dros y flwyddyn a hanner diwetha'," meddai.
"Dwi'n gwybod y byddech chi gyda fi 'to bob cam o'r ffordd. Felly, amdani."
Yn dilyn ei diagnosis, fe gyflwynodd Mari Grug bodlediad, sy'n trafod canser - 1 mewn 2.
Fe siaradodd yn agored hefyd am farwolaeth, gan ddweud nad yw hi ofn marw, ond ei bod yn poeni am effaith posib hynny ar ei phlant.
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2023