Llafur yn cyhoeddi eu hymgeisydd ar gyfer is-etholiad Caerffili

Richard TunnicliffeFfynhonnell y llun, Y Blaid Lafur
Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Tunnicliffe wedi cael ei ddewis fel ymgeisydd y Blaid Lafur ar gyfer yr is-etholiad Caerffili

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Blaid Lafur wedi cyhoeddi eu hymgeisydd ar gyfer yr is-etholiad yn etholaeth Caerffili ym mis Hydref.

Bydd y cyhoeddwr a'r dadansoddwr ariannol Richard Tunnicliffe, o Gaerffili, yn sefyll dros y Blaid Lafur yn yr is-etholiad a gafodd ei alw wedi marwolaeth yr AS Hefin David ym mis Awst.

Dywedodd Mr Tunnicliffe fod Mr David, a fu'n AS ar ran y Blaid Lafur dros yr etholaeth ers 2016, bob amser yn "chwilio am y gorau mewn eraill" a dywedodd ei fod am fynd â "gwaddol" David ymlaen.

Bydd yr is-etholiad yn cael ei gynnal ar 23 Hydref.

Plaid Cymru oedd y cyntaf i gyhoeddi eu hymgeisydd, gan ddewis cyn-arweinydd cyngor Caerffili, Lindsay Whittle.

Mae disgwyl i Reform UK gyhoeddi eu hymgeisydd yr wythnos nesaf tra mae'r Ceidwadwyr yn y broses o ddewis eu hymgeisydd nhw.

Daeth cyhoeddiad y Blaid Lafur yn dilyn cyfarfod o'r blaid leol ddydd Sadwrn i glywed gan ymgeiswyr ar y rhestr fer.

Mae'r blaid wedi dal y sedd ers agor y Senedd ym 1999.

Hefin DavidFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Hefin David yn sydyn ym mis Awst yn 47 oed

Mae Mr Tunnicliffe yn rhedeg Rily Publications gyda'i wraig. Mae'r cwpl yn byw yng Nghaerffili gyda'u tri mab. Dywedodd Llafur iddo ymuno â'r blaid yn 15 oed ym 1988.

Dywedodd: "Yn Hefin, rydym wedi colli rhywun yng nghanol ei fywyd, rhywun a oedd yn aelod gwerthfawr ac uchel ei barch yn ein cymuned, hyd yn oed cyn iddo gael ein MS ni.

"Roedd e'n ddyn a oedd bob amser yn chwilio am y gorau mewn eraill ac am yr hyn y gallen nhw ei wneud, nid yr hyn na allen nhw ei wneud, ac roedd e'n annog, yn cefnogi ac yn rhoi nerth i bobl.

"Roedd ganddo gred ynof nad oedd gen i i ddechrau, ac mae'n galon drwm gen i nawr eisiau ad-dalu'r ffydd honno a mynd â'i etifeddiaeth ymlaen."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.